Cymunedau ymreolaethol Sbaen

Rhennir Sbaen yn sawl Cymuned Ymreolaethol (Sbaeneg: comunidad autónoma), sef yr haen gyntaf o raniadau gwleidyddol, yn unol â Chyfansoddiad Sbaen, 1978. Mae'r haen yma'n rhoi hawliau cyfyngedig i ranbarthau a chenhedloedd Sbaen.[1][2][3] Mae'r gair 'ymreolaethol' yn cyfeirio at 'reolaeth', a hawl y cymunedau i reoli eu hunain.

Cymunedau ymreolaethol Sbaen
Mathendid gweinyddol Sbaen, endid tiriogaethol gwleidyddol, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf, cymuned ymreolaethol, endidau tiriogaethol rheolaethol, NUTS 2 statistical territorial entity Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1979 Edit this on Wikidata
GwladwriaethSbaen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Nid ffederasiwn yw Sbaen, eithr gwladwriaeth unedol sydd wedi datganoli llawer o'i phwerau.[1][4] Derbynia cenhedloedd y byd fod Sbaen, yn ei chyfanrwydd, yn genedl sofran ac yn cael ei chynrychioli yn ei llywodraeth ganolog. Ond mae pwerau'r llywodraeth, i raddau, wedi'u datganoli i'r cymunedau, fel a nodir yn y Cyfansoddiad. Nododd sawl ysgolhaig fod y system hon yn un 'Ffederal' ym mhob ffordd, oddigerth i'r enw, neu "federation without federalism".[5]

Ceir 17 cymuned ymreolaethol a dwy ddinas ymreolaethol, a adnabyddir fel a ganlyn:

Sbaeneg: autonomías
Basgeg: autonomien
Catalaneg: autonomies
Galisieg: autonomías

Mae gan y ddwy ddinas ymreolaethol yr hawl i gael eu hystyried yn gymunedau ymreolaethol, ond hyd yma, nid yw'r naill na'r llall wedi ymgymryd â'r hawl hwnnw.[6]

BanerCymunedau
ymreolaethol
PrifddinasLlywyddImageArwynebedd (km2)Poblogaeth (2016)GDP y pen (ewros)
AndalucíaSevilleSusana Díaz (PSOE)87,2688,388,10716,960
CataloniaBarcelonaCarles Puigdemont (Junts pel Sí)32,1147,522,59627,248
MadridMadridCristina Cifuentes (PP)8,0286,466,99629,385
ValenciaValenciaXimo Puig (PSOE)23,2554,959,96819,964
GaliciaSantiago de CompostelaAlberto Núñez Feijóo (PP)29,5742,718,52520,723
Castilla y LeónValladolid
Juan Vicente Herrera (PP)94,2232,447,51922,289
Gwlad y BasgVitoria-GasteizIñigo Urkullu (PNV)7,2342,189,53430,829
Castilla-La ManchaToledoEmiliano García-Page (PSOE)79,4632,041,63117,698
Yr Ynysoedd DedwyddSanta Cruz de Tenerife a Las PalmasFernando Clavijo (CC)7,4472,101,92419,568
MurciaMurciaFernando López Miras (PP)11,3131,464,84718,520
AragonZaragozaJavier Lambán (PSOE)47,7191,308,56325,540
ExtremaduraMéridaGuillermo Fernández Vara (PSOE)41,6341,087,77815,394
Ynysoedd BalearigPalma de MallorcaFrancina Armengol (PSOE)4,9921,107,22024,393
AsturiasOviedoJavier Fernández (PSOE)10,6041,042,60821,035
NavarrePamplonaUxue Barkos (Geroa Bai)10,391640,64729,071
CantabriaSantanderMiguel Ángel Revilla (PRC)5,321582,20622,341
La RiojaLogroñoJosé Ignacio Ceniceros (PP)5,045315,79425,508

Dinasoedd ymreolaethol

ArfbaisDinas ymreolaetholLlywydd-FaerDelweddArwynebedd (km2)Poblogaeth (2016)GDP y pen
(euros)
CeutaJuan Jesús Vivas (PP)18.584,51919,335
MelillaJuan José Imbroda (PP)12.386,02616,981

Cyfeiriadau