Cynnyrch mewnwladol crynswth

Term economaidd yw cynnyrch mewnwladol crynswth, neu CMC (neu'n rhyngwladol GDP), sy'n golygu gwerth y farchnad yr holl nwyddau a gwasanaethau terfynol a gynhyrchir mewn gwlad o fewn cyfnod o amser penodol (blwyddyn fel arfer).

Rhestrau a mapiau CMC

Ceir sawl rhestr o GDP gwledydd y byd, gan gynnwys rhestrau'r International Monetary Fund, World Bank a'r Cenhedloedd Unedig.

Yn 2019 roedd GDP y pen Cymru yn 32fed gorau, drwy'r byd, tua'r un safle a Sbaen, Coweit (Kuwait) a Malta. Yn ôl rhestr yr IMF, mae gan 4 allan o'r 10 gwlad mwyaf llwyddiannus (hy GDP y pen uchaf) boblogaeth llai na Chymru (Macau, Gwlad yr Iâ, Qatar a Lwcsembwrg). Mae manylion CMC Cymru (1998 - 2021) i'w canfod ar wefan Llywodraeth Cymru yma Archifwyd 2023-04-17 yn y Peiriant Wayback..

Cymru

Ceir rhestr lawn o wledydd sydd a CMC lla na Chymru yma. Dyma dabl o GDP rhai gwledydd, wedi'u trefnu yn ôl GDP Nominal y pen, gyda'r gwledydd cyfoethocaf ar y brig. Mae'r tabl yn tynnu gwybodaeth o Wicidata, felly, mae'r data'n diweddaru'n flynyddol.

GwladGDP nominal
US $
GDP nominal y pen
US $
 Gweriniaeth Iwerddon333,730,764,773.18 $ (UDA) (2017)[3]333,730,764,773.18 $ (UDA) (2017)[3]
 Yr Alban237,618,000,000 $ (UDA) (2018)[4]43,740 $ (UDA) (2018)[4]
 Lloegr2,286,295,170,684 $ (UDA) (2010)[5]40,000 $ (UDA) (5 Medi 2018)[6][7]
 Gwlad y Basg68,817,000,000 Ewro (2016)[8]35,300 Ewro (2016)[8]
 Catalwnia232,522,265,640 $ (UDA) (2015)[9]33,661 $ (UDA) (2017)[10][11]
 Cymru 97,760,000,000 $ (UDA) (2018)[12]29,580 $ (UDA) (2020)[13]
 De Corea1,530,750,923,148.7 $ (UDA) (2017)[14]29,742 $ (UDA) (2017)[15]
 Sbaen1,311,320,015,515.99 $ (UDA) (2017)[16]28,208 $ (UDA) (2017)[15]
 Slofenia48,769,655,479.2388 $ (UDA) (2017)[17]23,601 $ (UDA) (2017)[15]
 Portiwgal217,571,083,045.99 $ (UDA) (2017)[18]21,291 $ (UDA) (2017)[15]
 Tsiecia215,725,534,372.371 $ (UDA) (2017)[19]20,379 $ (UDA) (2017)[15]
 Hwngari139,135,029,758.29 $ (UDA) (2017)[20]14,278 $ (UDA) (2017)[15]
 Rwmania211,803,281,924.738 $ (UDA) (2017)[21]10,819 $ (UDA) (2017)[15]

Gweler hefyd

Rhestr o wledydd gyda CMC y pen llai na Chymru

Cyfeiriadau