Dalai Lama

Arweinydd ysbrydol a gwleidyddol pobl Tibet yw'r Dalai Lama (Tibeteg ཏཱ་ལའི་བླ་མ་, ynganer taa la'i bla ma). Cyfeirir ato gan y Tibetiaid gan amlaf fel "Ei Sancteiddrwydd", neu "Ei Sancteiddrwydd y Dalai Lama", neu Gyalwa Rinpoche, sy'n golygu "Buddugwr Gwethfawr", neu Yeshe Norbu, sy'n golygu "Yr Em sy'n Gwireddu Dymuniadau." Mae "Lama" ("yr un uwchradd", neu "athro") yn deitl a roddir i sawl gradd o gwlerigwr ym Mwdhaeth Tibet.

Gendun Drup, y Dalai Lama 1af
Erthygl am linach y Dalai Lama yw hon. Am y Dalai Lama presennol, gweler Tenzin Gyatso, 14eg Dalai Lama.
Tenzin Gyatso, y 14ydd Dalai Lama.

Mae'r Tibetiaid yn credu mai'r Dalai Lama yw'r ymrithiad presennol mewn cyfres hir o Tulkus, neu Feistri Bwdhaidd sydd wedi llwyddo i ymryddhau o afael olwyn marwolaeth a genegigaeth. Fel y Bodhisattvas, mae'r meistri hyn wedi dewis o wirfodd i gael eu aileni yn y byd er mwyn dysgu'r ddynolryw.

O'r 17g hyd 1959 a goresgyniad Tibet gan Gweriniaeth Pobl Tsieina, y Dalai Lama oedd pennaeth llywodraeth Tibet, gan reoli o'r brifddinas Lhasa. Er 1959, mae'r Dalai Lama yn arwain Gweinyddiaeth Ganolog Tibet, mewn alltudiaeth yn nhref Dharamsala yn Himachal Pradesh, India. Meddylir weithiau mai'r Dalai Lama yw pennaeth yr Ysgol Gelug ym Mwdhaeth Tibet, ond yn swyddogol mae'r swydd yn perthyn i'r Ganden Tripa, swydd dros dro a apwyntir gan y Dalai Lama ei hun.

Rhestr Dalai Lamas

Ceir 14 ymrithiad neu ymgnawdoliad cydnabyddeig o'r Dalai Lama:

EnwLlunDyddiadauTeyrnasiadTibeteg/WylieTrawslythreniad TibetaiddSillafiadau eraill
1.Gendun Drup 1391–1474dimདྒེ་འདུན་འགྲུབ་
dge ‘dun ‘grub
Gêdün ChubGedun Drub, Gedün Drup, Gendun Drup
2.Gendun Gyatso 1475–1541dimདགེ་འདུན་རྒྱ་མཚོ་
dge ‘dun rgya mtsho
Gêdün GyacoGedün Gyatso, Gendün Gyatso
3.Sonam Gyatso 1543–15881578–1588བསོད་ནམས་རྒྱ་མཚོ་
bsod nams rgya mtsho
Soinam GyacoSönam Gyatso
4.Yonten Gyatso 1589–16161601-1616ཡོན་ཏན་རྒྱ་མཚོ་
yon tan rgya mtsho
Yoindain GyacoYontan Gyatso
5.Lobsang Gyatso 1617–16821642–1682བློ་བཟང་རྒྱ་མཚོ་
blo bzang rgya mtsho
Lobsang GyacoLobzang Gyatso, Lopsang Gyatso
6.Tsangyang Gyatso 1683–17061697–1706ཚང་དབྱངས་རྒྱ་མཚོ་
tshang dbyangs rgya mtsho
Cangyang Gyaco
7.Kelzang Gyatso 1708–17571751–1757བསྐལ་བཟང་རྒྱ་མཚོ་
bskal bzang rgya mtsho
Gaisang GyacoKelsang Gyatso, Kalsang Gyatso
8.Jamphel Gyatso 1758–18041786–1804བྱམས་སྤེལ་རྒྱ་མཚོ་
byams spel rgya mtsho
Qambê GyacoJampel Gyatso, Jampal Gyatso
9.Lungtok Gyatso 1806–1815(1808–1815)ལུང་རྟོགས་རྒྱ་མཚོ་
lung rtogs rgya mtsho
Lungdog GyacoLungtog Gyatso
10.Tsultrim Gyatso1816–1837?-1837ཚུལ་ཁྲིམ་རྒྱ་མཚོ་
tshul khrim rgya mtsho
Cüchim GyacoTshültrim Gyatso
11.Khendrup Gyatso1838–18561844–1856མཁས་གྲུབ་རྒྱ་མཚོ་
mkhas grub rgya mtsho
Kaichub GyacoKedrub Gyatso
12.Trinley Gyatso1857–187511 Mawrth 1873–Mawrth 1875?འཕྲིན་ལས་རྒྱ་མཚོ་
‘phrin las rgya mtsho
Chinlai GyacoTrinle Gyatso
13.Thubten Gyatso 1879–19331895–1933ཐུབ་བསྟན་རྒྱ་མཚོ་
thub bstan rgya mtsho
Tubdain GyacoThubtan Gyatso, Thupten Gyatso
14.Tenzin Gyatso 1935–heddiw1950–heddiw
(mewn alltudiaeth heddiw)
བསྟན་འཛིན་རྒྱ་མཚོ་
bstan ‘dzin rgya mtsho
Dainzin Gyaco

Gweler hefyd

  • Bwdhaeth Tibet
  • Tashi Lama
Eginyn erthygl sydd uchod am Dibet. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato