Dinasoedd dynodedig Japan

Dinas dynodedig trwy ordinhâd llywodraeth (Japaneg: 政令指定都市, Seirei shitei toshi), neu Dinas Dynodedig (Japaneg: 指定都市, Shitei toshi) neu Dinas Ordinhâd Llywodraeth (Japaneg: 政令市, Seirei shi) yw'r enw a roddir ar ddinas yn Japan sydd â phoblogaeth o dros 500,000 ac sydd wedi ei dynodi gan orchymyn Cabinet Japan o dan Erthygl 252, Adran 19 o dan y Ddeddf Ymreolaeth Lleol.

Dinasoedd dynodedig Japan

Swyddogaeth a gweinyddiaeth

Dirprwyir nifer o swyddogaethau tebyg i'r rhai a weinyddir gan daleithiau Japan i ddinasoedd dynodedig; mewn meysydd megis addysg, gofal cymdeithasol, glanweithdra, trwyddedu busnesau a chynllunio trefol. Fel arfer, datganolir swyddogaethau llai i lywodraeth y ddinas tra caiff penderfyniadau mwy pwysig eu gwneud gan lywodraeth y dalaith. Er enghraifft, gellir trwyddedu clinigau neu fasnachwyr fferyllol gan lywodraeth y ddinas, ond i gael trwydded ar gyfer fferyllfa neu ysbyty rhaid gwneud cais trwy lywodraeth y dalaith.

Rhaid i ddinasoedd dynodedig is-rannu eu hunain i mewn i wardiau (Japaneg: , ku), pob un a'i swyddfa weinyddol sy'n edrych ar ôl swyddogaethau megis cofrestru trigolion a chasglu treth.

Nid oes un ddinas bellach sydd wedi ei dynodi'n ddinas ddynodedig wedi colli ei statws.

Rhestr o ddinasoedd dynodedig Japan

Rhestr Dinasoedd Dynodedig Japan
EnwJapanegDyddiad dynodiadRhanbarthTalaith# o wardiau
Chiba千葉1992-04-01KantōChiba6
Fukuoka福岡1972-04-01KyūshūFukuoka7
Hamamatsu浜松2007-04-01ChūbuShizuoka7
Hiroshima広島1980-04-01ChūgokuHiroshima8
Kawasaki川崎1972-04-01KantōKanagawa7
Kitakyūshū北九州1963-04-01KyūshūFukuoka7
Kobe神戸1956-09-01KansaiHyōgo9
Kyoto京都1956-09-01KansaiKyoto11
Nagoya名古屋1956-09-01ChūbuAichi16
Niigata新潟2007-04-01ChūbuNiigata8
Okayama岡山2009-04-01ChūgokuOkayama4
Osaka大阪1956-09-01KansaiOsaka24
Sagamihara相模原2010-04-01KantōKanagawa3
Saitamaさいたま2003-04-01KantōSaitama10
Sakai2006-04-01KansaiOsaka7
Sapporo札幌1972-04-01HokkaidōHokkaidō10
Sendai仙台1989-04-01TōhokuMiyagi5
Shizuoka静岡2005-04-01ChūbuShizuoka3
Yokohama横浜1956-09-01KantōKanagawa18

Gofynion

  • Poblogaeth o 500,000 neu fwy

Er mwyn cyflwyno cais swyddogol rhaid cael caniatâd llywodraethau y ddinas a'r dalaith.

Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato