Felipe V, brenin Sbaen

gwleidydd, llywodraethwr, casglwr celf (1683-1746)

Brenin Sbaen o 1 Tachwedd 1700 hyd 14 Ionawr 1724, ac unwaith eto o 6 Medi 1724 hyd ei farwolaeth oedd Felipe V (19 Rhagfyr 16839 Gorffennaf 1746).[1]

Felipe V, brenin Sbaen
Ganwyd19 Rhagfyr 1683 Edit this on Wikidata
Versailles Edit this on Wikidata
Bu farw9 Gorffennaf 1746 Edit this on Wikidata
o strôc Edit this on Wikidata
Madrid Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Ffrainc, Teyrnas Sbaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethllywodraethwr, gwleidydd, casglwr celf Edit this on Wikidata
Swyddteyrn Sbaen, teyrn Sbaen, teyrn Aragón, Brenin neu Frenhines Castile a Leon, pennaeth gwladwriaeth Sbaen, pennaeth gwladwriaeth Sbaen, Dug Anjou, Brenin Sardinia Edit this on Wikidata
TadLouis Edit this on Wikidata
MamMaria Anna Victoria o Bafaria Edit this on Wikidata
PriodMaria Luisa o Safwy, Elisabetta Farnese Edit this on Wikidata
PlantLuis I, brenin Sbaen, Ferdinand VI, brenin Sbaen, Siarl III, brenin Sbaen, Mariana Victoria o Sbaen, Filippo I, Maria Teresa Rafaela o Sbaen, Infante Luis, Maria Antonia Ferdinanda o Sbaen, Infante Felipe Pedro o Sbaen, Philip Louis o Sbaen, Infante Francisco o Sbaen Edit this on Wikidata
PerthnasauFerdinand Maria, Etholydd Bafaria, Y Dywysoges Henriette Adelaide o Safwy, Maria Theresa o Sbaen, Louis XIV, brenin Ffrainc, Felipe IV, brenin Sbaen, Fernando VII Edit this on Wikidata
LlinachTŷ Bourbon Sbaen Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog yn Urdd yr Ysbryd Glan, Marchog yn Urdd Sant Mihangel, Marchog Urdd y Cnu Aur, Urdd y Cnu Aur, Urdd Montesa, Urdd Santiago, Urdd Alcántara, Urdd Calatrava, Urdd yr Ysbryd Glân, Urdd Sant Mihangel Edit this on Wikidata
llofnod

Fe'i ganwyd i deulu brenhinol Ffrainc (fel Philippe, Dug Anjou) yn ystod teyrnasiad ei daid, Louis XIV. Roedd yn ail fab i Louis, Grand Dauphin, ac yn drydydd yn llinell olyniaeth i goron Ffrainc. Nid oedd disgwyl iddo ddod yn frenhin, ond roedd ei hen-ewythr Siarl II, brenin Sbaen yn ddi-blant. Oherwydd bod disgwyl i'w dad a'i frawd hynaf etifeddu gorsedd Ffrainc, enwyd Philip gan Siarl II fel etifedd tebygol gorsedd Sbaen. Esgynnodd Philippe orsedd Sbaen yn 1700 ar ôl marwolaeth Siarl, a daeth yn aelod cyntaf o Dŷ Bourbon i deyrnasu fel brenin Sbaen. Roedd gwledydd eraill Ewrop yn ystyried y posibilrwydd o uno Ffrainc a Sbaen o dan un teyrn fel bygythiad i gydbwysedd pŵer ar y cyfandir, a chymerasant gamau i'w atal. Ysgogodd esgyniad Philippe i Sbaen Ryfel Olyniaeth Sbaen a barhaodd am dros 13 mlynedd (1701–15).

Ym 1724 ymwrthododd Felipe â'r orsedd o blaid ei fab hynaf, Luis. Bu farw'r brenin newydd yn ddiweddarach y flwyddyn honno, a chymerodd Felipe yr orsedd eto am 21 mlynedd arall. Dilynwyd ef gan ei fab hynaf a oedd wedi goroesi, sef Ferdinand VI.

Cyfeiriadau

Felipe V, brenin Sbaen
Tŷ Bourbon
Ganwyd: 19 Rhagfyr 1683 Bu farw: 9 Gorffennaf 1746

Rhagflaenydd:
Siarl II
Brenin Sbaen
1 Tachwedd 170014 Ionawr 1724
Olynydd:
Luis I
Rhagflaenydd:
Luis I
Brenin Sbaen
6 Medi 17249 Gorffennaf 1746
Olynydd:
Ferdinand VI