Ffwythiannau trigonometrig

Mewn mathemateg, mae ffwythiannau trigonometrig yn ffwythiannau onglau. Defnyddir y ffwythiannau yma i gysylltu onglau triongl (triongl ongl sgwâr gan fwyaf) i hyd ymylon y triongl. Y ffwythiannau mwyaf poblogaidd yw sin, cosin a tangiad, sy'n byrhau i sin, cos a tan.

Ffwythiannau sin a cos o fewn cylch unedol.

Mae gan y ffwythiannau yma nifer o ddefnyddiau yn y meysydd cyfeiriadu, peirianneg a ffiseg nid yn unig o fewn yr astudiaeth o drionglau, ond hefyd mewn modelu ffenomenâu cyfnodol.

Diffiniadau triongl ongl sgwâr

Mae gan driongl dde un ongl 90° (π/2 radianau) labelwyd yma fel C. Gall onglau A a B amrywio mewn maint.

I ddiddwytho ongl A, enwir yr ochrau fel y canlynol:

  • Yr hypotenws yw'r ochor gyferbyn ar ongl sgwâr, yn yr achos yma h. Yr hypotenws yw'r ochor sydd ar hyd fwyaf.
  • Yr ochor cyferbyn yw'r ochor gyferbyn i'r ongl yr ydym am ei ddarganfod. Yn yr achos yma a.
  • Yr ochor cyfagos yw'r ochor sydd rhwng yr ongl yr ydym am ei ddarganfod ar ongl sgwâr. Yn yr achos yma b.
FfwythiantTalfyriadDisgrifiadUnfathiannau (yn defnyddio radiannau)
Sinsin
Cosincos
Tangiadtan (or tg)
Cotangiadcot (or ctg or ctn)
Secantsec
Cosecantcsc (or cosec)

Unfathiannau

Mae yna nifer o unfathiannau yn bodoli sy'n cydberthyn y ffwythiannau trigonometrig. Dyma'r un a defnyddir fwya' aml.

Perthnasau arall sy'n bodoli yw'r fformiwlâu swm a gwahaniaeth.

Pan mae dwy ongl yn hafal, mae'r swm y fformiwlâu yn symleiddio i hafaliadau a adnabyddir fel y double-angle formulae.

Calcwlws

Mae'r tabl yma yn dangos integriadau a differiadau ffwythiannau trigonometreg.

Ffwythiant Differu Integru

Ffwythiannau gwrthdro

EnwNodiant arferolNodiant arferolDiffiniadParth xAmrediad gwerthau
(radiannau)
Amrediad gwerthau
(Graddau)
arcsiney = arcsin xy=sin−1(x)x = sin y−1 ≤ x ≤ 1−π/2 ≤ y ≤ π/2−90° ≤ y ≤ 90°
arccosiney = arccos xy=cos−1(x)x = cos y−1 ≤ x ≤ 10 ≤ y ≤ π0° ≤ y ≤ 180°
arctangenty = arctan xy=tan−1(x)x = tan ypob rhif real−π/2 < y < π/2−90° < y < 90°
arccotangenty = arccot xy=cot−1(x)x = cot ypob rhif real0 < y < π0° < y < 180°
arcsecanty = arcsec xy=sec−1(x)x = sec yx ≤ −1 or 1 ≤ x0 ≤ y < π/2 or π/2 < y ≤ π0° ≤ y < 90° or 90° < y ≤ 180°
arccosecanty = arccsc xy=csc−1(x)x = csc yx ≤ −1 or 1 ≤ x−π/2 ≤ y < 0 or 0 < y ≤ π/2−90° ≤ y < 0° or 0° < y ≤ 90°