Gdańsk
Un o ddinasoedd mwyaf Gwlad Pwyl yw Gdańsk (hefyd Almaeneg: Danzig, Casiwbeg: Gduńsk). Mae wedi'i lleoli ar aber Afon Wisła a Môr Baltig. Porthladd pwysig i'r wlad a phrifddinas foifodiaeth (talaith) Pomorskie yw hi. Yn 2004 roedd ynddi boblogaeth o 460,524.Rhan o Trójmiasto ("teirddinas") ydy Gdansk, gyda Gdynia a Sopot.Daw'r cofnod hanesyddol cynharaf o'r ddinas yn 997. Y pryd hynny aeth Sant Adalbert yno er mwyn troi'r preswylwyr i Gristionogaeth. Ymhen canrifoedd daeth Gdańsk yn ddinas mwyaf cyfoethog Gweriniaeth Pwyl. Gadwodd hi hunan lywodraeth eto.Yn y 18g enillwyd Gdańsk gan Brwsia. Wedyn Dinas Rydd oedd hi am gyfnod. Yr ail dro iddi fod yn Ddinas Rydd Danzig oedd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Almaenwyr, Pwyliaid, Casiwbiaid ac Iddewon oedd yn byw yno. Danzig oedd prif borthladd y Coridor Pwylaidd a oedd yn rhoi allanfa i wladwriaeth annibynnol newydd Gwlad Pwyl i fasnachu gyda gweddill y byd drwy Môr Baltig. Bu sefydlu y Coridor, a'r ffaith bod Danzig ddim yn rhan o'r Almaen, yn destun trafodaeth tanbaid yn ystod yr 1920au a 30au. Pan ddaeth Hitler i rym yn Yr Almaen gwnaeth adfeddiannu Danzig a chysylltu'r ddinas gyda'r Almaen yn destun gwrthrwbl. Yn fuan wedi arwyddo Cytundeb Molotov–Ribbentrop - cytundeb gudd rhwng yr Almaen Natsïaidd a'r Undeb Sofietaidd gomiwnyddol ymosododd lluoedd Hitler ar Danzig a'i feddiannu, gan dechrau Yr Ail Ryfel Byd.
Arwyddair | Nec temere, nec timide |
---|---|
Math | dinas fawr, dinas â phorthladd, dinas Hanseatig, dinas gyda grymoedd powiat |
Poblogaeth | 486,022 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Aleksandra Dulkiewicz |
Cylchfa amser | UTC+01:00, CET |
Gefeilldref/i | Vilnius |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Związek Miast Nadwiślańskich |
Sir | Pomeranian Voivodeship |
Gwlad | Gwlad Pwyl |
Arwynebedd | 266 ±1 km² |
Uwch y môr | 180 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Vistula |
Yn ffinio gyda | Sopot, Gdynia, Sir Kartuzy, Sir Gdańsk, Sir Nowy Dwór Gdański, Gdańsk Bay, Gmina Żukowo, Gmina Kolbudy, Gmina Pruszcz Gdański, Pruszcz Gdański, Gmina Cedry Wielkie, Gmina Stegna |
Cyfesurynnau | 54.348291°N 18.654023°E |
Cod post | 80-008–80-958 |
Pennaeth y Llywodraeth | Aleksandra Dulkiewicz |
Ar ôl y rhyfel daeth y ddinas i Wlad Pwyl.Yn yr 80au bu streiciau seiri llongau a gweithwyr eraill yno gyda Lech Wałęsa (Arlywydd Gweriniaeth Pwyl wedyn) yn eu harwain. Cred llawer mai'r digwyddiad hwn sbardunodd gwymp comiwnyddiaeth yn Ewrop.
Warsaw ·Kraków ·Łódź ·Wrocław ·Poznań ·Gdańsk ·Szczecin ·Bydgoszcz ·Lublin ·Katowice ·Białystok ·Gdynia ·Częstochowa ·Radom ·Sosnowiec ·Toruń ·Kielce ·Gliwice ·Rzeszów ·Zabrze ·Olsztyn ·Bytom ·Bielsko-Biała ·Ruda Śląska ·Rybnik ·Tychy ·Dąbrowa Górnicza ·Gorzów Wielkopolski ·Płock ·Elbląg ·Opole ·Wałbrzych ·Zielona Góra ·Włocławek ·Tarnów ·Chorzów ·Koszalin ·Kalisz ·Legnica ·