Grand Theft Auto

cyfres o gemau fideo

Mae Grand Theft Auto (GTA) yn gyfres o gemau antur arwaith fideo a grëwyd gan David Jones a Mike Dailly[1] yn wreiddiol. Dyfeisiwyd teitlau ddiweddarach yn y gyfres gan y brodyr Dan a Sam Houser gyda Leslie Benzies ac Aaron Garbut. Datblygwyd y gyfres gan gwmni Rockstar North (DMA Design cynt), ac yn cael ei gyhoeddi gan eu chwaer gwmni Rockstar Games. Mae enw'r gyfres yn cyfeirio at y term a ddefnyddir yn yr Unol Daleithiau ar gyfer y trosedd o ladrata cerbydau modur.Mae'r rhan fwyaf o'r gemau yn y gyfres wedi eu gosod mewn lleoliadau ffuglennol, fel arfer, yn Liberty City, Vice City neu San Andreas, sydd wedi eu seilio ar Ddinas Efrog Newydd, Miami a thalaith California. Mae'r gêm gyntaf wedi ei leoli mewn tair dinas ffuglennol ond mae'r teitlau olynol yn tueddu defnyddio un lleoliad. Mae'r tasgau'r gemau yn llinynnol, lle fo cwblhau un dasg yn agor y nesaf. Mae'n bosib cael nifer o linynnau ar agor ar yr un pryd, gan fod rhai llinynnau'n gofyn i chwaraewyr aros am gyfarwyddiadau neu ddigwyddiadau pellach cyn symud ymlaen i'r dasg nesaf. Y tu allan i linynnau'r gêm, gall chwaraewyr crwydro'n rhydd trwy fyd y gêm. Wrth grwydro gall y chwaraewr cyflawni tasgau ochr, dewisol, sydd ddim yn rhan o brif lif y gêm. Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar lawer o wahanol gymeriadau sydd yn ceisio codi drwy rengoedd yr isfyd troseddol, er bod eu cymhellion i wneud hynny, yn amrywio ym mhob gêm. Mae gwrth arwyr y gemau fel arfer yn gymeriadau sydd wedi bradychu'r prif gymeriad neu ei sefydliad, neu gymeriadau sy'n cael yr effaith fwyaf i atal y prif gymeriad rhag symud ymlaen. Mae nifer o enwogion o'r byd actio a channu wedi lleisio cymeriadau, gan gynnwys Ray Liotta, Burt Reynolds, Dennis Hopper, Samuel L. Jackson, James Woods, Debbie Harry, Phil Collins, Axl Rose a Peter Fonda.[2]Cwmni datblygu gemau fideo o'r Alban DMA Design dechreuodd y gyfres ym 1997. Erbyn 2018 roedd gan y gyfres un ar ddeg gêm unigol a phedwar pecyn ehangu. Mae'r drydedd gêm gronolegol yn y gyfres, Grand Theft Auto III, yn cael ei ystyried yn deitl carreg filltir, gan ei fod yn dod â'r gyfres i leoliad 3D gan greu profiad chware llawer mwy realistig. Mae'r gyfres wedi derbyn clod mawr ac wedi cael llwyddiant masnachol. Cyhoeddwyd mwy na 250 miliwn o unedau,[3] gan ei roi yn y bedwerydd safle o ran gwerthiant masnachfraint gêm fideo y tu ôl i gemau Mario a Pokémon cwmni Nintendo [4] a Tetris.[5]  Yn 2006, ymddangosodd Grand Theaft Auto mewn rhestr o eiconau dylunio Prydain yn y Great British Design Quest a drefnwyd gan y BBC a'r Amgueddfa Ddylunio. Yn 2013, rhoddodd Y Telegraph Grand Theaft Auto ymhlith allforion mwyaf llwyddiannus Prydain .[6] Fodd Bynnag, mae'r gyfres hefyd wedi bod yn ddadleuol am ei gynnwys a themâu oedolyn a'i natur dreisgar.

Grand Theft Auto
Logo'r gyfres ers 2001
Enghraifft o'r canlynolcyfres o gemau fideo Edit this on Wikidata
CrëwrDavid Jones, Dan Houser, Sam Houser Edit this on Wikidata
CyhoeddwrRockstar Games, Capcom Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Genregêm antur ac ymladd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.rockstargames.com/games?franchise=grand-theft-auto Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Teitlau

BlwyddynTeitlDatblygwrAr gyfer blatformBydysawd[7]
ConsolCyfrifiadurTeclyn cludadwySymudol
1997Grand Theft AutoDMA DesignPS1
GBC2D
1999Grand Theft Auto: Llundain 1969Rockstar CanadaPS1
  • Windows
  • MS-DOS
Grand Theft Auto: Llundain 1961Windows
Grand Theft Auto 2DMA DesignWindowsGBC
2001Grand Theft Auto III
3D
2002Grand Theft Auto: Vice CityRockstar North
  • PS2
  • Xbox
  • Windows
  • OS X
  • iOS
  • Android
  • Fire OS
2004Grand Theft Auto: San Andreas
  • Windows
  • OS X
  • iOS
  • Android
  • WP
  • Fire OS
Grand Theft Auto AdvanceDigital EclipseGBA
2005Grand Theft Auto: Liberty City StoriesRockstar LeedsPS2PSP
  • iOS
  • Android
  • Fire OS
2006Grand Theft Auto: Vice City StoriesPS2PSP
2008Grand Theft Auto IVRockstar North
  • PS3
  • Xbox 360
WindowsHD
2009Grand Theft Auto: The Lost and Damned
  • PS3
  • Xbox 360
Windows
Grand Theft Auto: Chinatown WarsRockstar Leeds
  • iOS
  • Android
  • Fire OS
Grand Theft Auto: The Ballad of Gay TonyRockstar North
  • PS3
  • Xbox 360
Windows
2013Grand Theft Auto V
  • PS3
  • Xbox 360
  • PS4
  • Xbox One
Windows
Nodiadau:
1. Yn wreiddiol, roedd ar gael ar PlayStation 3 fel rhan o linell PlayStation 2 Classics trwy'r Rhwydwaith PlayStation, ond yn ddiweddarach fe'i disodlwyd gyda rhyddhad HD pennodol ar gyfer y PlayStation 3.[8]
2. Yn wreiddiol, roedd ar gael ar Xbox 360 fel rhan o linell Xbox Originals trwy Xbox Live Marketplace, ond yn ddiweddarach fe'i disodlwyd gyda rhyddhad HD pennodol ar gyfer yr Xbox 360.[9]

Y Brif gyfres

Amserlen rhyddhau
BlwyddynTeitl
1997Grand Theft Auto
1999Grand Theft Auto: Llundain 1969
1999Grand Theft Auto: Llundain 1961
1999Grand Theft Auto 2
2001Grand Theft Auto III
2002Grand Theft Auto: Vice City
2004Grand Theft Auto: San Andreas
2004Grand Theft Auto: Advance
2005Grand Theft Auto: Liberty City Stories
2006Grand Theft Auto: Vice City Stories
2008Grand Theft Auto IV
2009Grand Theft Auto: The Lost and Damned
2009Grand Theft Auto: Chinatown Wars
2009Grand Theft Auto: The Ballad of Gay Tony
2013Grand Theft Auto V

Mae cyfres Grand Theft Auto yn cael ei rannu i'r hyn a elwir yn fydysawdau, wedi eu henwi ar ôl y safon y graffig a defnyddir i'w dylunio. Mae'r gêm wreiddiol Grand Theft Auto ei estyniadau a'i olynydd yn perthyn i'r bydysawd 2d. Mae Grand Theft Auto III a'i olynwyr yn perthyn i'r Bydysawd 3D. Mae Grand Theft Auto IV, ei estyniadau a Grand Theft Auto V yn perthyn i'r bydysawd HD. Mae pob bydysawd yn cael ei hystyried fel cyfres ar wahân gyda dim ond brandiau, enwau lleoedd a chymeriadau cefndir yn cael eu rhannu rhyngddynt[7].Rhyddhawyd Grand Theft Auto, y gêm gyntaf yn y gyfres, ar gyfer Microsoft Windows ac MS-DOS ym mis Hydref 1997. Addaswyd y gêm ar gyfer y PlayStation ym 1998 a Game Boy Color ym 1999. Cafodd Grand Theft Auto 2 ei ryddhau ym 1999 ar gyfer Microsoft Windows a'i addasu yn ddiweddarach ar gyfer y PlayStation, Dreamcast a Game Boy Color.[10]Ymddangosodd tair rhan o'r brif gyfres ar PlayStation 2 hefyd cyn cael eu hail-ryddhau ar lwyfanau eraill. Cafwyd cytundeb rhwng cwmni Take-Two Interactive a chwmni Sony i ryddhau'r gemau ar gyfer PlayStation 2 am gyfnod cyn eu rhyddhau i Microsoft Windows a'r Xbox.[11]Yn 2001 cyhoeddiwyd Grand Theft Auto III gan symud at y defnydd o raffeg gyfrifiadurol tri-dimensiwn (3D)[12] Cyhoeddwyd GTA Vice City yn 2002, yr un gyntaf yn y gyfres i gael arwr a oedd yn llefaru; gan ddefnyddio llais yr actor Ray Liotta ar ei gyfer.[13] Cyflwynodd GTA San Andreas, a ryddhawyd yn 2004, wahanol elfennau newydd, gan gynnwys addasu cymeriad a map mawr yn cwmpasu tair dinas a'r ardal wledig gyfagos.[14]Cyhoeddwyd dau brif ran o'r gyfres ar gyfer PlayStation 3 a Xbox 360 ar yr un pryd. Canolbwyntiodd teitl 2008, Grand Theft Auto IV ar realiti a manylder, gan ddileu nodweddion nodweddu amrywiol, ond yn ychwanegu'r gallu i chware gydag eraill ar-lein.[15] Roedd Grand Theft Auto V, a gyhoeddwyd yn 2013, yn cynnwys tri chymeriad chwaraeadwy yn lle'r un arferol.[16] Fe'i rhyddhawyd i lwyddiant ariannol enfawr, gan dorri recordiau lluosog.[17] Fe'i hail-ryddhawyd gyda nifer o welliannau yn 2014 ar gyfer PlayStation 4 a Xbox One, ac yn 2015 ar gyfer Microsoft Windows.[18]

Gemau eraill

Mae Grand Theft Auto wedi cynhyrchu nifer o gemau ychwanegol a phecynnau ehangu yn ogystal â gemau'r brif gyfres. Yn 1999, cafodd y gêm wreiddiol ddau becyn ehangu: Grand Theft Auto: London 1969 a Grand Theft Auto: London 1961.[10] Roedd Grand Theft Auto Advance, a ryddhawyd yn 2004 ar gyfer Game Boy Advance, yn cael ei chware a phersbectif pen i lawr. Rhyddhawyd tair gêm ar gyfer PlayStation Portable. Mae'r gêm Grand Theft Auto: Stories of Liberty City yn adrodd stori ragflaenol i Grand Theft Auto III, tra bod gêm 2006 Grand Theft Auto: Stories of Vice City yn rhagflaenol i Vice City; cafodd y ddwy gêm eu haddasu yn ddiweddarach i'r PlayStation 2. Yn 2009, cafodd Grand Theft Auto: Chinatown Wars ei ryddhau ar gyfer y Nintendo DS, ac wedyn yn cael ei addasu i'r PlayStation Portable.[19] Yn 2009, rhyddhawyd The Lost and Damned a The Ballad of Gay Tony ar gyfer y Xbox 360 fel pecynnau ehangu i Grand Theft Auto IV; cynhyrchodd "cytundeb strategol" rhwng Rockstar a Microsoft gwaharddiad amserol cyn eu rhyddhau i blatfformau eraill. Fe'u rhyddhawyd yn ddiweddarach ar Xbox 360, PlayStation 3 a Microsoft Windows fel rhan o gasgliad, o'r enw Grand Theft Auto: Episodes from Liberty City.[20]Mae nifer o deitlau yn y gyfres wedi eu haddasu ar gyfer eu chware ar declynau symudol megis tabled neu ffôn. Rhyddhawyd Chinatown Wars ar gyfer iOS yn 2010 ac ar gyfer Android a Fire OS yn 2014.[21] Ar gyfer eu degfed pen-blwydd, cafodd Grand Theft Auto III ac Vice City eu hail-gyhoeddi ar gyfer iOS ac Android yn 2011 a 2012.[22][23] Yn 2013, cafodd San Andreas ei gludo i iOS, Android, Windows Phone ac RT;[24] ail-ryddhawyd y gemau symudol ar gyfer Xbox 360 yn 2014, blwyddyn degfed pen-blwydd y gêm,[25] a'r flwyddyn ganlynol ar gyfer PlayStation 3. [28] Yn 2015, cafodd Liberty City Stories ei addasu ar gyfer OS, Android a Fire OS.[26][27][28]

Cyfryngau cysylltiedig

Mae cyfres GTA wedi cael ei hehangu i mewn i wahanol fformatau eraill. Cyhoeddwyd Jacked: The Outlaw Story of Grand Theft Auto llyfr a ysgrifennwyd gan David Kushner sy'n croniclo datblygiad y gyfres, yn 2012.[29]Ym mis Mawrth 2015, cyhoeddodd BBC Two eu bod am ddarlledu The Gamechangers, dociwddrama 90 munud yn seiliedig ar greu Grand Theft Auto[30]. Cafodd y rhaglen ei gyfarwyddo gan Owen Harris a'i hysgrifennu gan James Wood. Roedd yn serenu Daniel Radcliffe fel pennaeth Rockstar, Sam Houser a Bill Paxton fel Jack Thompson y twrnai cafodd ei wahardd wedi sawl cais i erlyn cwmniau gan honni bod gemau GTA wedi achosi i bobl llofruddio o ganlyniad i chware'r gemau.[31] Ym mis Mai 2015, cyflwynodd Rockstar achos cyfraith yn erbyn y BBC am dorri eu nod masnach, gan ddweud nad oedd ganddynt unrhyw gysylltiad â datblygiad y ffilm a'u bod wedi ceisio cysylltu â'r BBC i ddatrys y mater yn aflwyddiannus.[32] Darlledwyd y rhaglen am y tro cyntaf ar 15 Medi2015.[33]Yn 2006, cyhoeddodd cwmni McFarland & Company y llyfr The Meaning and Culture of Grand Theft Auto.[34] Wedi'i lunio gan Nate Garrelts, mae'r llyfr 264 tudalen yn gasgliad o draethodau ynglŷn â chyfres Grand Theft Auto, i gynorthwyo cynulleidfaoedd i ddeall y gemau yn well ac i wneud pwynt ynglŷn â diwydrwydd dyladwy beirniadaeth gêm. Rhennir y llyfr yn ddwy ran: mae'r rhan gyntaf yn trafod y dadleuon sy'n ymwneud â'r gyfres, tra bod yr ail hanner yn edrych yn ddamcaniaethol ar y gemau.[35]

Derbyniad

Ers rhyddhau Grand Theft Auto III yn 2001, mae cyfres Grand Theft Auto wedi bod yn llwyddiant mawr, yn feirniadol ac yn ariannol. Mae wedi cynhyrchu adolygiadau a sgoriau perffaith neu bron yn berffaith ar bron pob un o'r gemau. Erbyn mis Medi 2013 roedd y gyfres wedi gwerthu dros 150 miliwn o gopïau ledled y byd,[36] ac erbyn Awst 2015, cafodd Grand Theft Auto gwerthiant o dros 220 miliwn o unedau ledled y byd.[4] Adroddodd The Times Online fod Grand Theft Auto IV wedi gwerthu 609,000 o gopiau yn y DU ar ddiwrnod cyntaf ei'i ryddhau.[37] Yn ystod ei wythnos gyntaf, gwerthodd Grand Theft Auto IV oddeutu 6 miliwn o gopïau ledled y byd gan enill dros $500 miliwn.[38]Yn 2006, dyfarnwyd Grand Theft Auto yn un o ddyluniadau mwyaf Prydain yn y Great Design Design Quest a drefnwyd gan y BBC a'r Amgueddfa Ddylunio. Ymddangosodd y gêm mewn rhestr o eiconau dylunio Prydain a oedd yn cynnwys Concorde, Jaguar E-Type, Aston Martin DB5, Mini, y we Fyd-Eang, Tomb Raider, y blwch ffôn K2, Map Tiwb Llundain, bws Routemaster a'r Supermarine Spitfire[39][40]Mae'r gyfres wedi torri nifer o recordiau; dyfarnodd Guinness World Records 10 record y byd i'r gyfres yn 2008. Mae'r recordiau yn cynnwys y nifer fwyaf o Sêr Gwesteiol mewn Cyfres Gêm Fideo, Y Nifer Fwyaf o Artistiaid Llais mewn Gêm Fideo (Grand Theft Auto: San Andreas), Y Trac Sain Fwyaf Mewn Gêm Fideo (Grand Theft Auto: San Andreas) yn ogystal â'r Lansiad Adloniant mwyaf Llwyddiannus Holl Amser (Grand Theft Auto V). Bu Guinness World Records hefyd yn rancio Grand Theft Auto yn y drydydd safle ar eu rhestr o'r 50 gêm consol erioed yn seiliedig ar ei effaith gychwynnol a'i etifeddiaeth barhaol.[41] Rhestrir Grand Theft Auto: San Andreas fel y gêm fwyaf llwyddiannus ar PlayStation 2.

Gwerthiant

BlwyddynGêmGwerthiantAnrhydeddau
1997Grand Theft Auto1 miliwn+PS1 Greatest Hits, Platinum
1999Grand Theft Auto: London 1969
Grand Theft Auto: London 1961
Grand Theft Auto 2PS1 Greatest Hits
2001Grand Theft Auto III17.5 miliwnPS2 Greatest Hits, Platinum
2002Grand Theft Auto: Vice City20 miliwnPS2 Greatest Hits, Platinum
2004Grand Theft Auto: San Andreas27.5 miliwn
  • PS2 Greatest Hits, Platinum
  • Xbox Platinum Hits
  • PS3 Greatest Hits
  • Xbox 360 Platinum Hits
Grand Theft Auto Advance100,000
2005Grand Theft Auto: Liberty City Stories8 miliwn
  • PSP Greatest Hits, Platinum
  • PS2 Platinum
2006Grand Theft Auto: Vice City Stories4.5 miliwn
  • PSP Greatest Hits, Platinum
  • PS2 Platinum
2008Grand Theft Auto IV25 miliwn+
  • PS3 Greatest Hits, Platinum
  • Xbox 360 Platinum Hits
2009Grand Theft Auto IV: The Lost and Damned1 miliwn+
Grand Theft Auto: Chinatown Wars200,000PSP Greatest Hits
Grand Theft Auto: The Ballad of Gay Tony
Grand Theft Auto: Episodes from Liberty City160,000+
  • PS3 Greatest Hits
  • Xbox 360 Platinum Hits
2013Grand Theft Auto V90 miliwn
Cyfanswm gwerthiant y gyfres: 235 miliwn+

Cyfeiriadau