J. K. Rowling

sgriptiwr ffilm a aned yn Yate yn 1965

Awdur ffugchwedl Seisnig yw Joanne "J.K." Rowling, OBE (ganwyd 31 Gorffennaf 1965). Daeth yn enwog am ysgrifennu y gyfres o straeon Harry Potter, sydd wedi gwerthi dros 300 miliwn o gopiau dros y byd. Yn Chwefror 2004, amcangyfrifwyd gan y cylchgrawn Forbes bod ganddi waddol o £576 miliwn (dros UD$1 biliwn).

J.K. Rowling
GeniJoanne Rowling
(1965-07-31) 31 Gorffennaf 1965 (58 oed)
Yate, Swydd Gaerloyw, Lloegr
GalwedigaethNofelydd
Math o lênFfuglen ffantasi
Gwaith nodedigCyfres Harry Potter
Gwefan swyddogol

Cyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg o Harry Potter and the Philosopher's Stone sef Harri Potter a Maen yr Athronydd yn 2003.

Cyn ei llwyddiant llenyddol, bu'n athrawes ac yn fam sengl yn crafu bywoliaeth.

Yn 2012 rhyddhaodd ei nofel gyntaf i oedolion, The Casual Vacancy. Derbynodd ymateb cymysg.[1]

Llyfryddiaeth

Cyfres Harri Potter

Llyfrau eraill

  • Fantastic Beasts and Where to Find Them (ategiad i'r gyfres Harri Potter) (2001)
  • Quidditch Through the Ages(ategiad i'r gyfres Harri Potter) (2001)
  • The Tales of Beedle the Bard (ategiad i'r gyfres Harri Potter) (2008)
  • The Casual Vacancy (2012) (nofel gyntaf i oedolion)

Erthyglau

Cyfeiriadau


Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.