Salman Rushdie

Nofelydd a thraethodydd Prydeinig-Indiaidd yw Syr Ahmed Salman Rushdie (Hindi: सलमान रश्दी, Wrdw: سلمان رشدی; ganwyd 19 Mehefin 1947 ym Mumbai, India). Daeth yn enwog gyda'i ail nofel, Midnight's Children (1981), a enillodd y Booker Prize. Lleolir llawer o'i waith ffuglen yn isgyfandir India, ond yn fwyfwy hanes hir a chyfoethog y cysylltiadau, rhwygiadau ac ymfudiadau niferus rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin yw thema ddominyddol ei waith.

Salman Rushdie
Ganwydاحمد سلمان رشدی Edit this on Wikidata
19 Mehefin 1947 Edit this on Wikidata
Mumbai Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America, India Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, awdur ysgrifau, sgriptiwr, awdur plant, actor, awdur Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Emory Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Satanic Verses Edit this on Wikidata
Arddullrealaeth hudol Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadItalo Calvino, Vladimir Nabokov, Christopher Hitchens, Gabriel García Márquez Edit this on Wikidata
MudiadBeirniadaeth hanesyddol Edit this on Wikidata
TadAnis Ahmed Rushdie Edit this on Wikidata
PriodMarianne Wiggins, Padma Lakshmi, Elizabeth West, Clarissa Luard, Rachel Eliza Griffiths Edit this on Wikidata
PlantZafar Rushdie, Milan Rushdie Edit this on Wikidata
Gwobr/auCommandeur des Arts et des Lettres‎, PEN Pinter Prize, Gwobr Goffa James Tait Black, Gwobr Man Booker, Gwobr James Joyce, Gwobr Kurt Tucholsky, Gold Medal of the Círculo de Bellas Artes, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Mythopoeic Awards, Gwobr Llyfrau Costa, Gwobr Llyfrau Costa, Gwobrau Llyfr Prydain, Gwobr y Gymanwlad am Wasanaeth Rhagorol, Gwobr St. Louis am Lenyddiaeth, Crossword Book Award, Hans Christian Andersen Literature Award, National Arts Awards, Golden PEN Award, Aristeion Prize, Gwobr Norman Mailer, Gwobr Gwladwriaeth Awstria ar gyfer Llenyddiaeth Ewropeaidd, Emperor Has No Clothes Award, dyneiddiwr, honorary doctor of the University of Tromsø, Honorary doctor of the University of Liège, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Gwobr lenyddiaeth Carl Sandburg, Cydymaith Anrhydeddus, Urdd Cymdeithion Anrhydedd, Marchog Faglor, Ordre des Arts et des Lettres Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.salmanrushdie.com Edit this on Wikidata

Cythruddodd ei bedwaredd nofel, The Satanic Verses (1988), ymatebion treisgar o Fwslemiaid radicalaidd. Yn dilyn bygythiadau angheuol a ffatwa a ddatganwyd gan yr Ayatollah Khomeini Iranaidd yn galw am ei fradlofruddiaeth, treuliodd flynyddoedd dan ddaear, ac ymddangosodd yn gyhoeddus yn achlysurol. Pa fodd bynnag, yn ystod y ddegawd ddiwethaf, mae Rushdie wedi dychwelyd i fyw bywyd llenyddol normal. Gwnaethpwyd yn farchog ym Mehefin 2007[1] a arweiniodd at feirniadaeth gan Fwslemiaid byd-eang.[2].

Ym mis Awst 2022, cafodd Rushdie ei anafu gan ymosodwr pan oedd yn rhoi darlith yn yr Unol Daleithiau.[3]

Llyfryddiaeth

Nofelau

  • Grimus (1975)
  • Midnight's Children (1981)
  • Shame (1983)
  • The Satanic Verses (1988)
  • The Moor's Last Sigh (1995)
  • The Ground Beneath Her Feet (1999)
  • Fury (2001)
  • Shalimar the Clown (2005)
  • The Enchantress of Florence (2008)

Casgliadau

  • Homeless by Choice (1992, gyda R. Jhabvala a V. S. Naipaul)
  • East, West (1994)
  • The Best American Short Stories (2008, Golygydd Gwadd)

Llyfrau plant

  • Haroun and the Sea of Stories (1990)
  • Luka and the Fire of Life (2010)

Traethodau a ffeithiol

  • The Jaguar Smile: A Nicaraguan Journey (1987)
  • "In Good Faith", Granta, 1990
  • Imaginary Homelands: Essays and Criticism, 1981–1991 (1992)
  • "The Wizard of Oz: BFI Film Classics", BFI, 1992.
  • "Mohandas Gandhi Archifwyd 2012-05-16 yn y Peiriant Wayback.." Time, 13 Ebrill 1998.
  • "Imagine There Is No Heaven." , extracted contribution from Letters to the Six Billionth World Citizen, a UN sponsored publication in English by Uitgeverij Podium, Amsterdam. The Guardian, 16 Hydref 1999.
  • Step Across This Line: Collected Nonfiction 1992–2002 (2002)
  • "A fine pickle." The Guardian, 28 Chwefror 2009.
  • "In the South." Booktrack, 7 Chwefror 2012
  • Joseph Anton (2012), nofel hunangofiannol

Cyfeiriadau

Llyfryddiaeth

  • Gurnah, Abdulrazak (gol.). The Cambridge Companion to Salman Rushdie (Caergrawnt, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2007).
  • Reder, Michael R. (gol.). Conversations with Salman Rushdie (Jackson, Gwasg Prifysgol Mississippi, 2000).