System Ryngwladol o Unedau

Ffurf fodern y system fetrig o fesur ydy'r System Rhyngwladol o Unedau (Ffrangeg: Le Système international d'unités; Saesneg: International System of Units)[1] sydd wedi eu seilio ar saith uned sylfaenol o fesur ac ar hwylustod y rhif deg (10).

System Ryngwladol o Unedau
Enghraifft o'r canlynolinternational standard, safon technegol, coherent system of units, System fetrig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dyma system fesur mwyaf poblogaidd o'i fath yn y byd, boed mewn diwydiant, addysg, neu wyddoniaeth.[2] Ceir, hefyd, unedau ychwanegol at yr Unedau SI‎ a dderbynir ar y cyd â rhestr yr SI.

Cedwir cyflwyniad swyddogol o'r System ar wefan NIST, gan gynnwys diagram o gydberthynas yr unedau â'i gilydd. Nodir isod rhai o'r unedau sylfaenol a cheir rhestr lawn mewn adroddiad (CODATA) am eraill gan restru rhai sefydlog, megis cyflymder golau.

Y Saith Uned Sylfaenol

Mae'r system unedau yma'n dosbarthu'r holl feusiadau i saith prif ddosbarth ac yn rhestru set o ragddodiaid i'w rhoi o flaen yr enwau. Mae pob un o'r unedau sylfaenol sy'n dilyn yn fathau gwahanol o fesurynnau; allan o'r saith yma y daw pob uned dilynol.

Y Saith Uned Sylfaenol SI[3][4]
EnwSymbol yr UnedYr hyn a fesurirSymbol
metrmhydl (llythyren fach)
cilogramkgmàsm
eiliadsamsert
amperAcerrynt trydanolI (i: llythyren fawr)
kelvinKtymhereddT
candelacdcryfder golauIv (i fawr gyda thanysgrifiad v)
môlmolemaint o ddefnyddn

Rhagddodiaid

Gweler hefyd yr erthygl lawn ar ragddodiad SI.

Rhagddodiaid a safonwyd i'w rhoi o flaen yr Unedau
LluoswmEnwdeca-hecto-kilo-mega-giga-tera-peta-exa-zetta-yotta-
SymboldahkMGTPEZY
Ffactor10010110210310610910121015101810211024
 
IsddosbarthiadEnwdeci-centi-milli-micro-nano-pico-femto-atto-zepto-yocto-
Symboldcmμnpfazy
Ffactor10010−110−210−310−610−910−1210−1510−1810−2110−24

Rhai Unedau SI ar gyfer Ffiseg

Y Wyddor Ffiseg
Yr hyn a gaiff ei fesurY gair SaesnegSymbolUned SafonolFformiwla
Gwahaniaeth potensialPotential differenceVfolt, VV = I.R
CerryntCurrentIamper, AI = V/R
Gwrthiant trydanolelectric resistanceRohm, ΩR = V/I
Anwythiant trydanolelectric inductanceLhenry, HH = Ώ.s
Cynhwysiant trydanolelectric capacitanceCffarad, FF = s/Ώ
GwefrChargeQcoulomb, CQ = I.t
Ymbelydredd a Dadfeilio ymbelydrol‎Radioactivity a Radioactive decayBqbecquerel1/s neu A= -λN
PwerPowerPwat, WP = V.I neu P = I2.R
EgniEnergyEjoule, JE = Q.V neu V = E/Q
AmserTimetEiliad, sE = F.l neu P.t
GrymForceFnewton, NF = m.a
MàsMassmcilogram, kgF = m.a
Pwysau (grym)Weight neu forceWnewton, NW = m.g
DwyseddDensityDkg/m3, kg/m3D = m/V
MomentMoment of force neu torqueMnewton-metr, NmIM = F.l
Cyflymder a BuaneddSpeed neu velocityvmetr/eiliad, m/sv = p/t
CyflymiadAccelerationametr/eiliad2, m/s2a = Δv/t neu a = F/m
GwasgeddPressurePpascal, Pa (N/m2)P = F/A
ArwynebeddAreaAmetr2, m2A=s2 (s = hyd yr ochr)
CyfaintVolumeVmetr3, m3A=s3 (s = hyd yr ochr)
AmleddFrequencyf neu ν (ν = nu Groeg)hertz, Hzf = 1/t (t = cyfnod o amser)
TonfeddWavelengthλmetr, mv = ν.λ (fformiwla ton)
Gwaith a wneirWork neu heatWdjoule, JWd = F.d
Egni potensialPotential energyEPjoule, JEP = m.g.Δh (h = uchder)
Egni cinetigKinetic energyECjoule, JEC= ½ m.v2

Cyfeiriadau