67P/Churyumov–Gerasimenko

Comed yw 67P/Churyumov–Gerasimenko (a dalfyrir weithiau i: 67P neu 67P/C-G, ac a gaiff ei sgwennu yn y yr wyddor Gyrilig fel: Чурюмова — Герасименко); mae'n tarddu o Wregus Kuiper,[1] ac mae ganddo gylchdro (neu orbit) o tua 6.45 blwyddyn, ac yn troi ar ei echel unwaith mewn 12.4 awr. Ei fuanedd yw 135,000 km/awr (38 km/eil; 84,000 mya) ar ei gyflymaf. Hyd Churyumov–Gerasimenko (ar ei hiraf) yw 4.3 wrth 4.1 km (2.7 x 2.5 mi).[2]

67P/Churyumov–Gerasimenko
Enghraifft o'r canlynolnear-Earth object, Jupiter-family comet, contact binary Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod22 Hydref 1969 Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.640908129745 ±2.7e-08 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Churyumov–Gerasimenko

Cafodd ei enwi ar ôl yr seryddwyr Sofietaidd a'i darganfu yn 1969, sef Klim Ivanovych Churyumov a Svetlana Ivanovna Gerasimenko.

Churyumov–Gerasimenko oedd cyrchfan y cerbyd ofod Rosetta a lawnsiwyd ar 2 Mawrth 2004 a'r goden lanio Philae a grwewyd gan Asiantaeth Ofod Ewropeaidd.[3][4] Daeth Rosetta o fewn tafliad carreg at y comed ar 6 Awst 2014 a dechreuodd droi o'i amgylch, mewn orbit, ar 10 Medi 2014. Glaniodd ei is-gerbyd Philae ar wyneb y comed ar 12 Tachwedd 2014; hwn oedd y tro cyntaf i gerbyd gofod o unrhyw fath i lanio ar gomed.[5]

Cyfeiriadau