Amonia
Mae amonia (neu'n llai cyffredin, azane) yn gyfansoddyn sydd wedi'i wneud o ddwy elfen: hydrogen a nitrogen gyda'r fformiwla cemegol NH3. Mae'n nwy di-liw gydag arogl llym iawn. Mae ganddo gyfraniad cryf i anghenion maeth organebau daearol oherwydd priodweddau ei halwynau fel gwrtaith amaethyddol. Gweler halwynau amoniwm.
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | pnictogen hydride |
Màs | 17.031 uned Dalton |
Rhan o | response to toxic substance, ammonium homeostasis, cellular ammonium homeostasis |
Yn cynnwys | nitrogen, hydrogen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Names | |||
---|---|---|---|
Enw IUPAC Azane | |||
Enwau eraill Hydrogen neitrid Trihydrogen neitrid | |||
Dynodwyr | |||
CAS Number | |||
3D model (Jmol) | |||
3DMet | B00004 | ||
Cyfeirnodau Beilstein | 3587154 | ||
ChEBI | |||
ChemSpider | |||
ECHA InfoCard | 100.028.760 | ||
Rhif EC | 231-635-3 | ||
Cyfeirnodau Gmelin | 79 | ||
KEGG | |||
MeSH | [www.nlm.nih.gov/cgi/show_data.php?acc={{{MeSH}}} {{{MeSH}}}] | ||
PubChem | |||
Rhif RTECS | BO0875000 | ||
UNII | |||
Rhif yr UN | 1005 | ||
InChI
| |||
SMILES
| |||
Priodweddau | |||
Fformiwla cemegol | NH3 | ||
Màs molar | 17.031 g/mol | ||
Golwg | Nwy di-liw | ||
Arogl | ogla drwg iawn | ||
Dwysedd | 0.86 kg/m3 (1.013 bar ar bwynt berwi) 0.73 kg/m3 (1.013 bar ar 15 °C) 681.9 kg/m3 ar −33.3 °C (hylif)[1] 817 kg/m3 at −80 °C (solid tryloyw)[2] | ||
Pwynt berwi | −77.73 °C (−107.91 °F; 195.42 K) | ||
Pwynt berwi | −33.34 °C (−28.01 °F; 239.81 K) | ||
Hydoddedd mewn water | 47% (0 °C) 31% (25 °C) 28% (50 °C)[3] | ||
Hydoddedd | hydawdd mewn clorofform, ether, ethanol, methanol | ||
Gwasgedd aer | 8573 h Pa | ||
Asidedd (pKa) | 32.5 (−33 °C),[4] 10.5 (DMSO) | ||
Basigedd (pKb) | 4.75 | ||
Indecs plygiant (nD) | 1.3327 | ||
Gludedd | 0.276 cP (-40 °C) | ||
Strwythur | |||
Siap Moleciwlar | Pyramid trigonal | ||
Moment deupol | 1.42 D | ||
Thermo-cemeg | |||
Entropi S | 193 J·mol−1·K−1[5] | ||
Newid enthalpi ΔfH | −46 kJ·mol−1[5] | ||
Peryglon | |||
Pictogramau GHS | [6] | ||
NFPA 704 | 1 3 0 | ||
Fflachbwynt | nwy fflamadwy | ||
Cyfyngiad ffrwydro | 15–28% | ||
U.D. Y cysylltiad a ganiateir (exposure limit) (PEL) | 50 ppm (25 ppm ACGIH- TLV; 35 ppm STEL) | ||
LD50 | 0.015 mL/kg (dynol, ceg) | ||
Cyfansoddion Perthnasol | |||
Arall cationau | Ffosffin Arsin Stibin | ||
Perthnasol nitrogen hydrides | Hydrasin Asid hydrasoic | ||
Cyfansoddion perthnasol | Amoniwm hydrocsid | ||
Oni nodir yn wahanol, nodir data ar gyfer defnyddiau yn eu cyflwr arferol (ar dymheredd o 25 °C (77 °F), 100 kPa) | |||
Infobox references | |||
|
- Gofal! Ceir erthygl arall ar amoniwm.
Gellir hefyd ei ddisgrifio fel un o flociau adeiladu o fewn synthesis llawer o nwyddau, tabledi a moddion y fferyllydd a hylifau glanhau. Er ei fod yn gyffredin yn y gweithle a'r cartref mae iddo briodweddau peryglus iawn. Ledled y byd, cynhyrchwyd oddeutu 198 miliwn tunell[7] ohono yn 2012, sef 35% o godiad ers 2006.
Mae'r amonia a gynhyrchir yn fasnachol yn cael ei alw, fel arfer, yn "amonia anhydrus", ac mae'r term yma'n pwysleisio absenoldeb dŵr o fewn y deunydd. Oherwydd fod NH3 yn berwi ar −33.34 °C (−28.012 °F) dan wasgedd o 1 atmosffêr, mae'n rhaid cadw, neu storio'r hylif o dan wasgedd uchel neu mewn lle sydd ag iddo dymheredd isel.
Mae "amonia cyffredin" y cartref (neu amoniwm hydrocsid) yn gymysgedd o NH3 and dŵr. Gellir mesur cryfder yr hylif mewn unedau ar Raddfa Baumé (dwysedd), gyda 26 gradd Baumé (tua 30% (o ran pwysau) o amonia ar 15.5 °C) yn gyffredin mewn nwyddau masnachol.[8] Gall amonia cyffredin amrywio o ran ei grynhoad (concentration) o 5 i 10% (o ran pwysau) o amonia.
Proses Haber
Cynhyrchir amonia ar raddfa ddiwydiannol trwy broses Haber. Mae nitrogen yn adweithio â hydrogen ym mhresenoldeb catalydd haearn ar 650-720K (380-450oC) dan wasgedd uchel (tua 150-200 atmosffer).[9] Mae’r adwaith isod rhwng nitrogen a hydrogen yn gildroadwy:
N2(n) + 3H2(n) → 2NH3(n)
Mae’r adwaith hefyd yn ecsothermig: ΔHθ=-92 kJmol−1
Mae cynnyrch amonia ym mhroses Haber yn llai o lawer na 100%. Mae hyn yn golygu bod y cymysgedd adwaith yn cynnwys nwyon hydrogen a nitrogen nad ydynt wedi adweithio pan fydd y broses wedi gorffen. Mae’r nwyon hyn yn cael eu hadennill trwy hylifo’r amonia ac ailgylchu’r nwyon gweddilliol yn ôl i’r adweithydd.
Defnydd
Gwrtaith
Yn 2004, roedd 83% o'r holl amonia a gynhrchwyd yn cael ei ddefnyddio fel gwrtaith amaethyddol, naill ai fel halwynau neu hylifau. Wedi ei hydoddi a'i ledaenu i'r pridd caiff effaith bositif ar blanhigion megis gwenith neu ŷd gan fod amonia a'i gyfansoddion yn ffynhonnell nitrogen a ddefnyddir gan y cnydau i gynhyrchu protein.
Asid nitrig
Defnyddir amonia'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol yn y broses o greu cyfansoddion sy'n cynnwys nitrogen. Un o'r rhai hyn ydy asid nitrig, a gaiff ei gynhyrchu yn sgil y broses a elwir yn Broses Oswald drwy ocsideiddio amonia gydag aer ar gatalydd platinwm ar wres o 700–850 °C, ~9 atm.[10]
- NH3 + 2 O2 → HNO3 + H2O
Defnyddir asid nitrig i gynhyrchu gwrtaith, ffrwydron a llawer o gyfansoddion eraill.
Glanhawyr
Toddiant o NH3 a dŵr ydy amonia cyffredin, hynny yw amoniwm hydrocsid, a chaiff ei ddefnyddio ar gyfer gwaith pob-dydd o lanhau. Ceir effaith taclus a sgleiniog o'i ddefnyddio gan nad ydyw'n gadael olion eraill yn y broses o lanhau, ac o'r herwydd fe'i defnyddir i lanhau gwydr ffenestri, dur a photiau clai, poptai ac i socian cyfarpar y gegin sydd'n gacen o garbon. Mae'r math hwn o amonia yn amrywio o ran ei gryfder o 5 - 10%.