Castell-nedd
Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Castell-nedd[1] (Saesneg: Neath). Mae'n gorwedd ar lan chwith Afon Nedd. Roedd ganddi boblogaeth o 19,258 yn 2011.[2]
![]() | |
Math | tref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 50,658 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd Port Talbot ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.66°N 3.81°W ![]() |
Cod SYG | W04000618 ![]() |
Cod OS | SS745975 ![]() |
Cod post | SA10–11 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jeremy Miles (Llafur) |
AS/au | Christina Rees (Llafur) |
![]() | |
- Gweler hefyd Castell-nedd (gwahaniaethu).
Hanes
Man croesi'r afon oedd Castell-nedd i ddechrau, ac ymsefydlodd pobl yma yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Ond at dri lle yn unig yng Nghymru y mae'r llenor Rhufeinig Tacitus yn cyfeirio atynt yn ei Historiae (Hanes), ac mae Castell-nedd yn un ohonynt.
Ceir tystiolaeth am aneddiadau hynafol yn y bryniau sy'n amgylchynu'r dref, ac mae'n debyg mai aneddiadau Celtaidd ydynt ond nid ydynt wedi cael eu dyddio. Canfuwyd gweddillion dynol 25 km i ffwrdd yn Ogof Paviland[3] ar Benrhyn Gŵyr, yn dyddio o 24,000 CC, gan brofi bod pobl yn byw yn yr ardal yn ystod Oes yr Iâ ddiwethaf. Er y'i hadnabyddir fel "Arglwyddes Goch Paviland", gweddillion dyn nid menyw ydy.[4] Roedd Castell-nedd wedi ei leoli ar ymyl deheuol y cynfas o iâ, ac roedd Glyn Nedd yn ddyffryn rhewlifol. Daeth llystyfiant ac anifeiliaid i'r ardal yn dilyn enciliad y rhew tua 15,000 o flynyddoedd yn ôl.
Roedd trigolion Castell-nedd cyn dyfodiad y Rhufeniaid yn perthyn i lwyth Celtaidd y Silwriaid. Nidum yw'r enw ar y gaer Rufeinig a ganfuwyd yn agos i'r ystad dai, a adnabyddir fel Roman Way, ar lan orllewinol Afon Nedd. Roedd y gaer yn gorchuddio ardal eang sy'n gorwedd dan feysydd chwarae Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin heddiw.[5]
Mae adfeilion castell bychan Normanaidd, sef y Castell Nedd gwreiddiol, ger canol y dref.
Roedd yn dref farchnad, a chychwynodd diwydiant newydd yna yn ystod y 18g, sef haearn, dur ac alcam. Mwyngloddid llawer o lo yn yr ardal, a daeth y dref yn ganolfan bwysig i gludiant ar reilffyrdd a chamlesi. Mwyngloddid hefyd silica. Adeiladwyd goethdŷ i betrol yn yr 20ed ganrif.
Roedd y dref yn borthladd hyd yn ddiweddar.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/fc/Neath_Jobcentre_and_HSBC_Bank.jpg/280px-Neath_Jobcentre_and_HSBC_Bank.jpg)
Y dref heddiw
Mae atyniadau i ymwelwyr yn cynnwys Abaty Nedd, Parc Y Gnoll, a'r farchnad.
Rhannau amlwg o'r dref yw Tonna i'r gogledd, Cimla i'r dwyrain, Bryncoch a Sgiwen i'r gorllewin a Llansawel i'r de.
Enwogion
- Walter E. Rees (1863 - 1949) Ysgrifennydd Undeb Rygbi Cymru am bron i 60 mlynedd.
- Ray Milland (1907-1986), actor
- Michael Bogdanov (1938-2017), cyfarwyddwr theatr
- Katherine Jenkins (1980-), cantores a actores
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]
Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghastell-nedd ym 1918, 1934 a 1994. Am wybodaeth bellach gweler:
Gefeilldrefi Castell-Nedd
Gwlad | Dinas |
---|---|
![]() | Albacete |
![]() | Esslingen |
![]() | Piotrkow Trybunalski |
![]() | Schiedam |
![]() | Udine |
![]() | Velenje |
![]() | Vienne |
Gweler hefyd
- Castell-nedd (etholaeth)
- Adzuki: band roc o'r dref
Cyfeiriadau
Trefi
Aberafan · Castell-nedd · Glyn-nedd · Llansawel · Pontardawe · Port Talbot
Pentrefi
Aberdulais · Abergwynfi · Alltwen · Baglan · Banwen · Bedd y Cawr · Blaendulais · Blaen-gwrach · Blaengwynfi · Bryn · Cil-ffriw · Cilmaengwyn · Cilybebyll · Y Clun · Y Creunant · Cwmafan · Cymer · Cwm-gors · Cwmllynfell · Dyffryn Cellwen · Efail-fach · Glyncorrwg · Godre'r-graig · Gwauncaegurwen · Llandarcy · Llangatwg · Llan-giwg · Margam · Melin-cwrt · Morfa Glas · Onllwyn · Pentreclwydau · Pontrhydyfen · Pwll-y-glaw · Resolfen · Rheola · Rhos · Rhyd-y-fro · Sgiwen · Tai-bach · Ton-mawr · Tonna · Trebannws · Ynysmeudwy · Ystalyfera