Bywyd

mater sy'n gallu echdynnu ynni o'r amgylchedd i'w ddyblygu

Bywyd yw'r hyn sy'n galluogi organeb fyw i gymhwyso deunydd heb fywyd o'i hamgylchedd a'i ddefnyddio i dyfu mewn maint a chymhlethder, i adnewyddu ei deunydd biolegol ei hun ac i atgynhyrchu organebau eraill annibynnol sydd hefyd yn meddu ar nodweddion bywyd.

Bywyd
Enghraifft o'r canlynolnodwedd, ffenomen naturiol, proses fiolegol Edit this on Wikidata
Mathbodolaeth, lyfe Edit this on Wikidata
Yn cynnwysproses fiolegol, metabolaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Credir fod bywyd ar y Ddaear wedi dechrau tua 4,500,000,000 o flynyddoedd yn ôl (mae amcangyfrifon mwy ceidwadol yn ei dyddio i o gwmpas 3,000 miliwn o flynyddoedd yn ôl). Y pryd hynny roedd yr awyr wedi'i chyfansoddi o nwyon methan, hydrogen, amonia a stêm dŵr. Credir i organebau moleciwlaidd syml gael eu ffurfio mewn canlyniad i'r grym a ollyngid gan belydrau'r haul, mellt a ffrwydriadau llosgfynyddoedd. Organebau ungellog oeddynt.

Mae'n dra thebygol mai yn y môr y datblygodd yr organebau cyntefig hyn i gynnwys enseimau (enzymes) a datblygu'n organebau amlgellog a gynhyrchai RNA a DNA. Gyda threigliad maith iawn amser - tua 1,500,000,000 neu ragor o flynyddoedd - arweiniodd hyn at y planhigion cyntefig cyntaf oedd yn gallu dal grym y goleuni a datblygu ffotosynthesis.

Y canlyniad oedd i ocsigen gael ei rhyddhau i'r awyr ar raddfa cynyddol, proses a ddechreuodd tua 2,000 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Erbyn tua 400 miliwn roedd yr haen oson yn yr awyrgylch yn ddigon trwchus i gysgodi'r tir rhag ymbelydredd uwchfioled gan ei gwneud yn haws o lawer i blanhigion mwy cymhleth a'r anifeiliad cyntefig cyntaf oroesi. Daeth y rhan fwyaf o bethau byw i ddefnyddio anadlu aerobig a dechreuodd bywyd amlhau ar wyneb y ddaear.

Y genyn yw'r uned etifeddol, a'r gell yw'r uned adeileddol a swyddogaethol bywyd.[1][2] Mae dau fath o gell, procaryotig ac ewcaryotig, ac mae'r ddau ohonynt yn cynnwys cytoplasm wedi'i amgáu o fewn pilen ac yn cynnwys llawer o fiomoleciwlau megis protin ac asid niwclëig. Mae celloedd yn atgenhedlu trwy broses o gellraniad, lle mae'r rhiant-gell yn rhannu'n ddwy neu fwy epilgell ac yn trosglwyddo ei genynnau i genhedlaeth newydd, gan gynhyrchu amrywiad genetig weithiau.

Yn gyffredinol, credir bod organebau yn systemau agored sy'n cynnal homeostasis, sy'n cynnwys celloedd, sydd â chylch bywyd, sydd a metaboledd, sy'n gallu tyfu, addasu i'w hamgylchedd, ymateb i ysgogiadau, atgenhedlu ac esblygu dros sawl cenhedlaeth. Mae diffiniadau eraill weithiau'n cynnwys ffurfiau bywyd angellog fel firysau a firoidau, ond maent fel arfer yn cael eu heithrio oherwydd nad ydynt yn gweithredu ar eu pen eu hunain; yn hytrach, maent yn manteisio ar brosesau biolegol gwesteiwyr.[3][4]

Marwolaeth yw terfyniad parhaol yr holl brosesau biolegol sy'n cynnal organeb, ac felly, marwolaeth yw diwedd ei fywyd. Difodiant yw'r term sy'n disgrifio marwolaeth grŵp, tacson, neu rywogaeth fel arfer. Unwaith y byddant wedi darfod, ni all y rhywogaeth neu'r tacson diflanedig ddod yn ôl yn fyw. Gweddillion neu olion organebau sydd wedi'u cadw yw ffosilau.

Diffiniadau

Mae diffiniad bywyd wedi bod yn her i wyddonwyr ac athronwyr ers tro.[5][6][7] Mae hyn yn rhannol oherwydd bod bywyd yn broses, nid yn sylwedd.[8][9][10] Cymhlethir hyn gan ddiffyg gwybodaeth am nodweddion endidau byw, os o gwbl, a allai fod wedi datblygu y tu allan i'r Ddaear.[11][12] Mae diffiniadau athronyddol o fywyd hefyd wedi'u cyflwyno, gydag anawsterau tebyg ar sut i wahaniaethu rhwng pethau byw a phethau anfyw.[13] Mae diffiniadau cyfreithiol o fywyd hefyd wedi’u disgrifio a’u trafod, er bod y rhain yn canolbwyntio’n gyffredinol ar y penderfyniad i ddatgan fod person wedi marw, a goblygiadau cyfreithiol y penderfyniad hwn.[14] Ceir cymaint â 123 o ddiffiniadau o fywyd wedi'u llunio.[15]

Bioleg

Gan nad oes consensws ar gyfer y diffiniad o fywyd, mae'r rhan fwyaf o ddiffiniadau cyfredol mewn bioleg yn ddisgrifiadol. Ystyrir bod bywyd yn nodwedd o rywbeth sy'n cadw, yn hybu neu'n atgyfnerthu ei fodolaeth yn yr amgylchedd penodol. Mae'r nodwedd hon yn arddangos y cyfan neu'r rhan fwyaf o'r nodweddion canlynol:[7][16][17][18][19][20][21]

  1. Homeostasis: rheoleiddio'r amgylchedd mewnol i gynnal cyflwr cyson; er enghraifft, chwysu i ostwng tymheredd
  2. Trefniadaeth: bod wedi'i gyfansoddi'n strwythurol o un neu fwy o gelloedd – unedau sylfaenol bywyd
  3. Metabolaeth: trawsnewid egni trwy drosi cemegau ac egni yn gydrannau cellog (anaboliaeth) a dadelfennu mater organig (catabolism). Mae angen egni ar bethau byw i gynnal trefniadaeth fewnol (homeostasis) ac i gynhyrchu'r ffenomenau eraill sy'n gysylltiedig â bywyd.
  4. Twf: cynnal cyfradd uwch o anaboliaeth na cataboliaeth. Mae organeb sy'n tyfu yn cynyddu mewn maint yn ei holl rannau, yn hytrach na dim ond cronni mater.
  5. Addasu: y broses esblygiadol lle mae organeb yn dod yn fwy abl i fyw yn ei gynefin neu ei gynefinoedd.[22][23][24]
  6. Ymateb i ysgogiadau: gall ymateb fod ar sawl ffurf, o gyfangiad organeb ungellog i gemegau allanol, i adweithiau cymhleth sy'n cynnwys holl synhwyrau organebau amlgellog. Mae ymateb yn aml yn cael ei fynegi trwy gynnig; er enghraifft, dail planhigyn yn troi tuag at yr haul (ffototropiaeth), a chemotaxis.
  7. Atgenhedlu: y gallu i gynhyrchu organebau unigol newydd, naill ai'n anrhywiol o organeb un rhiant neu'n rhywiol o organebau dau riant.

Mae gan y prosesau cymhleth hyn, a elwir yn swyddogaethau ffisiolegol, seiliau ffisegol a chemegol sylfaenol, yn ogystal â mecanweithiau signalau a rheoli sy'n hanfodol i gynnal bywyd.

Firysau

Adenofirws fel y'i gwelir o dan feicrosgop electron

Mae'n ddadleuol a ddylid ystyried bod firysau'n fyw ai peidio. Cant eu hystyried gan amlaf fel dim ond atgynhyrchwyr codio genynnau yn hytrach na mathau o fywyd.[25] Disgrifir nhw fel "organebau ar gyrion bywyd"[26] oherwydd bod ganddynt enynnau a gan eu bod yn esblygu trwy ddetholiad naturiol,[27][28] ac yn atgynhyrchu trwy wneud copïau lluosog ohonynt eu hunain. Fodd bynnag, nid yw firysau yn metaboleiddio ac mae angen cell letyol arnynt i wneud copiau ohonynt eu hunain.[29][30][31]

Tarddiad

Mae oedran y Ddaear tua 4.54 biliwn o flynyddoedd.[32][33][34] Ceir tystiolaeth sy'n awgrymu bod bywyd ar y Ddaear wedi bodoli am o leiaf 3.5 biliwn o flynyddoedd,[35][36][37][38][39][40][41]gyda'r olion corfforol hynaf o fywyd yn dyddio'n ôl 3.7 biliwn o flynyddoedd; [42] [43] [44] fodd bynnag, mae rhai damcaniaethau yn awgrymu y gallai bywyd ar y Ddaear fod wedi dechrau hyd yn oed yn gynharach na hynny, mor gynnar â 4.1–4.4 biliwn o flynyddoedd yn ôl,[35][36][37][38][39] ac efallai bod y cemeg sy'n arwain at fywyd wedi dechrau yn fuan ar ôl y Glec Fawr, 13.8<span typeof="mw:Entity" id="mwAm4"> </span>biliwn o flynyddoedd yn ôl, yn ystod epoc pan oedd y bydysawd yn ddim ond 10-17 miliwn o flynyddoedd oed.[45][46][47] Yn gyffredinol, mae amcangyfrifon amser o glociau moleciwlaidd yn gosod tarddiad bywyd tua 4.0 biliwn o flynyddoedd yn ôl neu'n gynharach.[48]

Amcangyfrifir bod mwy na 99% o'r holl rywogaethau, sef dros bum biliwn o rywogaethau, [49] sydd wedi byw ar y Ddaear ers dechrau amser, wedi eu difodi.[50][51]

Er bod nifer y rhywogaethau sydd wedi'u catalogio ar y Ddaear rhwng 1.2 miliwn a 2 filiwn, [52] [53] mae cyfanswm y rhywogaethau ar y blaned yn ansicr. ceir amcangyfrifon sy'n amrywio o 8 miliwn i 100 miliwn,[52][53] gydag amrediad arall, mwy cul rhwng 10 a 14 miliwn,[52] ond gall fod mor uchel ag 1 triliwn (gyda dim ond un filfed o un y cant o'r rhywogaethau a ddisgrifiwyd) yn ôl astudiaethau a gyhoeddwyd ym Mai 2016.[54][55] Amcangyfrifir bod cyfanswm y parau o fasau DNA (DNA base pairs) cysylltiedig ar y Ddaear yn 5.0 x 1037 ac yn pwyso 50 biliwn tunelli.[56] Mewn cymhariaeth, amcangyfrifwyd bod cyfanswm màs y biosffer cymaint â 4 TtC (triliwn tunnell o garbon).[57] Yng Ngorffennaf 2016, nododd gwyddonwyr eu bod wedi nodi set o 355 o enynnau o'r Hynafiaid Cyffredin Olaf (Last Universal Ancestor (LUCA)) o'r holl organebau sy'n byw ar y Ddaear.[58]

Nid oes consensws gwyddonol ar hyn o bryd ynghylch sut y tarddodd bywyd. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o fodelau gwyddonol a dderbynnir yn adeiladu ar arbrawf Miller-Urey a gwaith Sidney Fox, sy'n dangos bod amodau ar y Ddaear cyntefig yn ffafrio adweithiau cemegol sy'n syntheseiddio asidau amino a chyfansoddion organig eraill o ragflaenwyr anorganig,[59] a ffosffolipidau yn ffurfio haenau lipid, adeiledd sylfaenol y cellbilen.

Dosbarthiad

RhywogaethGenwsTeuluUrddDosbarthFfylwmTeyrnasParthBywyd
Lefelau dosbarthiad biolegol

Y prif rengoedd mewn dosbarthiad biolegol.

Hynafiaeth

Cynhaliwyd yr ymgais gyntaf y gwyddys amdani i ddosbarthu organebau gan yr athronydd Groegaidd Aristotle (384–322 CC), a ddosbarthodd yr holl organebau byw a adnabyddir bryd hynny naill ai fel planhigyn neu anifail, yn seiliedig yn bennaf ar eu gallu i symud. Gwahaniaethodd hefyd anifeiliaid â gwaed oddi wrth anifeiliaid heb waed (neu o leiaf heb waed coch), y gellir eu cymharu â'r cysyniadau o fertebratau ac infertebratau yn y drefn honno, a rhannodd yr anifeiliaid gwaed yn bum grŵp: mamaliaid, ymlusgiaid ac amffibiaid, adar, pysgod a morfilod. Rhannwyd yr anifeiliaid di-waed hefyd yn bum grŵp: sef seffalopodau, cramenogion, trychfilod (a oedd yn cynnwys y pryfed cop, sgorpionau, a nadroedd cantroed, yn ychwanegol at yr hyn a ddiffiniwn fel pryfed heddiw), anifeiliaid cregyn (fel y rhan fwyaf o folysgiaid ac echinodermau), a sŵoffytau (sef anifeiliaid sy'n debyg i blanhigion). Er nad oedd gwaith Aristotle mewn sŵoleg yn ddi-wall, dyma oedd synthesis biolegol mwyaf mawreddog y cyfnod a pharhaodd yr awdurdod eithaf am ganrifoedd lawer ar ôl ei farwolaeth.[60]

Carolus Linnaeus

Datgelodd archwilio'r Americas niferoedd mawr o blanhigion ac anifeiliaid newydd yr oedd angen disgrifiadau a dosbarthiad arnynt. Yn rhan olaf yr 16g a dechrau'r 17g, dechreuwyd astudio anifeiliaid yn ofalus ac ymestynnwyd hyn yn raddol nes iddo ffurfio corff digonol o wybodaeth i wasanaethu fel sail anatomegol ar gyfer dosbarthu.

Ar ddiwedd y 1740au, cyflwynodd Carolus Linnaeus ei system o enwau deuenwol ar gyfer dosbarthu rhywogaethau. Ceisiodd Linnaeus

  • gyflwyno termau disgrifiadol newydd a diffinio'u hystyr yn fanwl gywir.[61] Mae gan y dosbarthiad Linnaean wyth lefel: parthau, teyrnasoedd, ffyla, dosbarth, trefn, teulu, genws, a rhywogaeth.
  • wella'r cyfansoddiad a lleihau hyd yr enwau aml-eiriog a ddefnyddiwyd yn flaenorol.

Yn wreiddiol, roedd ffyngau'n cael eu trin fel planhigion. Am gyfnod byr roedd Linnaeus wedi eu dosbarthu yn y tacson Vermes yn Animalia, ond yn ddiweddarach gosodwyd nhw yn ôl yn Plantae. Dosbarthodd Copeland y Ffyngau yn ei Protoctista, gan osgoi'r broblem yn rhannol ond gan gydnabod eu statws arbennig.[62] Datryswyd y broblem yn y diwedd gan Whittaker, pan roddodd eu teyrnas eu hunain iddynt yn ei system pum teyrnas. Mae hanes esblygiadol yn dangos bod y ffyngau yn perthyn yn nes i anifeiliaid nag i blanhigion.[63]

Celloedd

Uned sylfaenol o adeiledd ym mhob peth byw yw celloedd. Ffurfiwyd y theori celloedd gan Henri Dutrochet, Theodor Schwann, Rudolf Virchow ac eraill yn gynnar yn 19g, ac wedi hynny daeth yn dderbyniol iawn.[64] Mae gweithgaredd organeb yn dibynnu ar gyfanswm gweithgaredd ei gelloedd, gyda llif egni'n digwydd oddi mewn iddynt a rhyngddynt. Mae celloedd yn cynnwys gwybodaeth etifeddol a gaiff ei basio ymlaen fel cod genetig yn ystod cellraniad.[65]

Artiffisial

Mae bywyd artiffisial yn efelychiad o unrhyw agwedd ar fywyd, megis trwy gyfrifiaduron, roboteg, neu fiocemeg.[66] Mae astudio bywyd artiffisial yn dynwared bioleg draddodiadol trwy ail-greu rhai agweddau ar ffenomenau biolegol. Astudia'r gwyddonydd y systemau byw trwy greu amgylcheddau artiffisial - gan geisio deall y prosesu gwybodaeth cymhleth sy'n diffinio systemau o'r fath. Tra bod bywyd, trwy ddiffiniad, yn fyw, cyfeirir at fywyd artiffisial yn gyffredinol fel data sydd wedi'i gyfyngu i amgylchedd digidol a bodolaeth.

Mae bioleg synthetig yn faes biotechnoleg newydd sy'n cyfuno gwyddoniaeth a pheirianneg fiolegol. Y nod cyffredin yw dylunio ac adeiladu swyddogaethau a systemau biolegol newydd nad ydynt i'w cael ym myd natur. Mae bioleg synthetig yn cynnwys ailddiffinio ac ehangu biotechnoleg yn eang, gyda'r nodau eithaf o allu dylunio ac adeiladu systemau biolegol peirianyddol sy'n prosesu gwybodaeth, trin cemegau, gwneud deunyddiau a strwythurau, cynhyrchu ynni, darparu bwyd, a chynnal a gwella iechyd dynol a'r Amgylchedd.[67]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Chwiliwch am bywyd
yn Wiciadur.