Cystadleuaeth Cân Eurovision 2012

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2012 oedd y 57ain Cystadleuaeth Cân Eurovision. Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Baku, Aserbaijan, ar ôl i Ell a Nikki ennill y Gystadleuaeth Cân Eurovision 2011 gyda'u cân "Running Scared". Enillwyd y gystadleuaeth gan y gantores Swedaidd Loreen gyda'i chân "Euphoria" felly disgwylir y bydd Sweden yn cynnal y Gystadleuaeth Cân Eurovision 2013.

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2012
"Light Your Fire"
("Cyneuwch Eich Tân")
Dyddiad(au)
Rownd cyn-derfynol 122 Mai 2012
Rownd cyn-derfynol 224 Mai 2012
Rownd terfynol26 Mai 2012
Cynhyrchiad
LleoliadNeuadd Grisial Baku, Baku, Aserbaijan[1]
CyflwynyddionLeyla Aliyeva,
Eldar Gasimov a
Nargiz Birk-Petersen
Perfformiad agoriadolEll & Nikki: "Running Scared"
Cystadleuwyr
Tynnu'n ôlBaner Armenia Armenia
Baner Gwlad Pwyl Gwlad Pwyl
Canlyniadau
◀2011   Cystadleuaeth Cân Eurovision   2013▶
Llwyfan Eurovision 2012

Cynhaliwyd y rowndiau cyn-derfynol ar 22 a 24 Mai 2012 a chynhaliwyd y rownd derfynol ar 26 Mai 2012.[2] Ymunodd 10 gwlad o bob rownd gyn-derfynol â'r Almaen, Aserbaijan, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Ffrainc a Sbaen yn y rownd derfynol. Cystadleuodd 42 o wledydd,[3] yn cynnwys Montenegro, oedd yn cyfranogi am y tro cyntaf ers 2009. Penderfynodd Armenia a Gwlad Pwyl beidio â chymryd rhan.

Fformat

Penderfynwyd y byddai y system bleidleisio yn dychwelyd i'r ffenestr 15-munud a ddefnyddiwyd rhwng y gystadleuaeth 1998 a'r gystadleuaeth 2009. Dim ond ar ôl i bob gwlad berfformio y cafodd y gynulleidfa ddechrau pleidleisio. Disodlodd y gyfundrefn honno system lle cafodd y gynulleidfa bleidleisio o ddechrau'r gystadleuaeth ymlaen fel yn 2010 a 2011. Heb eu newid oedd y rheolau i bennu'r canlyniadau, sef hollt 50:50 rhwng rheithgorau cenedlaethol a phleidleisiau ffôn.[4]

Yn unol â rheolau swyddogol a gyhoeddwyd ar 24 Tachwedd 2011, bu 26 o wledydd yn perfformio yn y rownd derfynol, yn cynnwys y wlad letyol, y "5 Fawr", a'r 10 cystadleuwr aeth drwodd o bob rownd gyn-defrynol.[5] Hon oedd yr ail gystadleuaeth yn hanes Eurovision lle bu 26 o berfformwyr yn cymryd rhan, y tro cyntaf ers 2003.

Dyraniadau pot

Ar 25 Ionawr 2012 ym Mhalas Buta cafodd y gwledydd sy'n cystadlu (ac eithrio'r Almaen, Aserbaijan, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Ffrainc a Sbaen) eu rhannu yn chwe pot, yn seiliedig ar batrymau bleidleisio. Cafodd y gwledydd eu dewis o'r potiau i benderfynu a fyddent yn cystadlu yn y rownd gyn-derfynol gyntaf neu'r ail. Hefyd, roedd y dewis yn penderfynu ym mha rownd gyn-derfynol y byddai'r "5 Fawr" (yr Almaen, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Ffrainc, a Sbaen) yn pleidleisio.

Pot 1Pot 2Pot 3Pot 4Pot 5Pot 6

Dyluniad graffeg

Mae dyluniad y gystadleuaeth yn seiliedig ar thema'r gystadleuaeth, sef "Light Your Fire!" a gafodd ei ysbrydoli gan lysenw Aserbaijan, "Gwlad y Tân" ("Land of Fire").

Cyfranogwyr

Cystadleuodd 42 o wledydd yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2012. Cyhoeddodd Radio Televizija Crna Gora (RTCG), cwmni darlledu Montenegro, y byddai'n dychwelyd i'r gystadleuaeth am y tro cyntaf ers 2009. Mynegwyd amheuon yn Armenia o'r dechrau am gystadlu o achos pryderon diogelwch am ei chynrychiolydd yn sgil Rhyfel Nagorno-Karabakh sydd yn parhau rhwng Armenia ac Aserbaijian[6] ac ar 7 Mawrth 2012 cyhoeddodd Armenia na fyddai'n cystadlu.[7]

Cyfranogwyr y rownd gyn-derfynol gyntaf

Pleidleisiodd Aserbaisian, yr Eidal a Sbaen yn y rownd hon. Gohiriodd Radio Televizioni Shqiptar (RTSH), cwmni teledu Albania, ddarllediad y gystadleuaeth gan ddefnyddio pleidlais y rheithgor yn unig, ar ôl i ddamwain bws ddifrifol gymryd lle yn y wlad.

O'r het[8]Gwlad[3]IaithArtistCânCyfieithiad CymraegSaflePwyntiau
1  MontenegroSaesneg, SerbegRambo Amadeus[9]"Euro Neuro"[10]Ewro Niwro1520
2  Gwlad yr IâSaesnegGreta Salóme & Jónsi"Never Forget"Paid Byth ag Anghofio975
3  Gwlad GroegSaesnegEleftheria Eleftheriou"Aphrodisiac"Affrodisiac4116
4  LatfiaSaesneg[11]Anmary"Beautiful Song"Cân Hardd1617
5  AlbaniaAlbaneg[A]Rona Nishliu[12]"Suus"Personol2146
6  RwmaniaSaesneg, SbaenegMandinga"Zaleilah"-3120
7  Y SwistirSaesneg[13]Sinplus[13]"Unbreakable"[13]Anhoradwy1145
8  Gwlad BelgSaesnegIris[14]"Would You?"Fyddet Ti?1716
9  Y FfindirSwedegPernilla Karlsson"När jag blundar"Pan Fyddaf yn Cau Fy Llygaid1241
10  IsraelHebraeg, SaesnegIzabo"Time"Amser1333
11  San MarinoSaesnegValentina Monetta"The Social Network Song"Cân y Rhwydwaith Gymdeithasol1431
12  CyprusSaesneg[15]Ivi Adamou[16]"La La Love"[17]La La Cariad791
13  DenmarcSaesneg[18]Soluna Samay[18]"Should've Known Better"[18]Dylwn i Fod Wedi Gwybod yn Well963
14  RwsiaUdmurt, SaesnegBuranovskiye Babushki"Party for Everybody"Parti i Bawb1152
15  HwngariSaesnegCompact Disco"Sound of Our Hearts"Sain Ein Calonnau1052
16  AwstriaAlmaeneg[B]Trackshittaz"Woki mit deim Popo"Sigla Dy Ben-ôl188
17  MoldofaSaesneg[C]Pasha Parfeny"Lăutar"Cerddor traddodiadol5100
18 IwerddonSaesnegJedward"Waterline"Llinell Ddŵr692
  • A ^ Er bod y gân yn Albaneg, mae'r teitl yn Lladin.
  • B ^ Cenir y gân yn nhafodiaith Mühlviertlerisch (Awstria Uchaf).
  • C ^ Er bod y gân yn Saesneg, mae'r teitl yn Rwmaneg.

Cyfranogwyr yr ail rownd gyn-derfynol

Pleidleisiodd Yr Almaen, y Deyrnas Unedig a Ffrainc yn y rownd hon. Gofynnodd yr Almaen i bleidleisio yn y rown hon. Byddai Armenia wedi cymryd rhan yn y rownd hon ond yn ddiweddarach aeth allan o'r gystadleuaeth oherwydd rhesymau diogelwch.

O'r het[8]Gwlad[3]IaithArtistCânCyfieithiad CymraegSaflePwyntiau
1  SerbiaSerbegŽeljko Joksimović[19][20]"Nije ljubav stvar" (Није љубав ствар)Nid Rhywbeth yw Cariad...2159
2 MacedoniaMacedonegKaliopi"Crno i belo" (Црно и бело)Du a Gwyn953
3  Yr IseldiroeddSaesnegJoan Franka"You and Me"Ti a Fi1535
4  MaltaSaesneg[21]Kurt Calleja"This is the Night"[22][23]Dyma'r Nos770
5  BelarwsSaesneg[24]Litesound"We are the Heroes"Ni yw'r Arwyr1635
6  PortiwgalPortiwgaleg[25]Filipa Sousa"Vida Minha"Fy Mywyd I1339
7  WcráinSaesnegGaitana"Be My Guest"Mae Croeso i Chi864
8  BwlgariaBwlgareg[D]Sofi Marinova"Love Unlimited"Cariad Di-derfyn1145
9  SlofeniaSlofenegEva Boto"Verjamem"Credaf1731
10  CroatiaCroategNina Badrić[26][27]"Nebo"Awyr1242
11  SwedenSaesnegLoreen"Euphoria"Ewfforia1181
12  GeorgiaSaesnegAnri Jokhadze"I'm a Joker"Jôcwr Dw i1436
13  TwrciSaesnegCan Bonomo[28]"Love Me Back"Cara Fi'n Ôl580
14  EstoniaEstonegOtt Lepland"Kuula"Gwranda4100
15  SlofaciaSaesnegMax Jason Mai"Don't Close Your Eyes"Paid â Chau Dy Lygaid1822
16  NorwySaesnegTooji"Stay"Aros1045
17 Bosnia-HertsegofinaBosnegMayaSar[29]"Korake ti znam"Mi Wn Dy Gamau677
18  LithwaniaSaesnegDonny Montell"Love is Blind"Mae Cariad yn Ddall3104

Cyfranogwyr y rownd derfynol

O'r het[8]Gwlad[3]IaithArtistCânCyfieithiad CymraegSaflePwyntiau
1 Deyrnas UnedigSaesnegEngelbert Humperdinck"Love Will Set You Free"Bydd Cariad yn Dy Ryddhau Di2512
2  HwngariSaesnegCompact Disco"Sound of Our Hearts"Sain ein Calonnau2419
3  AlbaniaAlbaneg[A]Rona Nishliu"Suus"Personol5146
4  LithwaniaSaesnegDonny Montell"Love is Blind"Mae Cariad yn Ddall1470
5 Bosnia-HertsegofinaBosnegMayaSar"Korake ti Znam"Mi Wn Dy Gamau1855
6  RwsiaRwsieg[B], SaesnegBuranovskiye Babushki"Party for Everybody"Parti i Bawb2259
7  Gwlad yr IâSaesnegGreta Salóme & Jónsi"Never Forget"Paid Byth ag Anghofio2046
8  CyprusSaesnegIvi Adamou"La La Love"La La Cariad1665
9  FfraincFfrangeg, Saesneg[30]Anggun[31]"Echo (You and I)"[30]Atsain (Ti a Fi)2221
10  Yr EidalEidaleg, SaesnegNina Zilli"L'amore è Femmina (Out of Love)"Mae Cariad yn Fenywaidd (Allan o Gariad)9101
11  EstoniaEstonegOtt Lepland"Kuula"Gwranda6120
12  NorwySaesnegTooji"Stay"Aros267
13 AserbaijanSaesnegSabina Babayeva"When the Music Dies"Pan Fo Farw'r Gerddoriaeth4150
14  RwmaniaSaesneg, SbaenegMandinga"Zaleilah"-1271
15  DenmarcSaesnegSoluna Samay"Should've Known Better"Dylwn Fod Wedi Gwybod yn Well2321
16  Gwlad GroegSaesnegEleftheria Eleftheriou"Aphrodisiac"Affrodisiac1764
17  SwedenSaesnegLoreen"Euphoria"Ewfforia1372
18  TwrciSaesnegCan Bonomo"Love Me Back"Cara Fi'n Ôl7112
19  SbaenSbaenegPastora Soler[32]"Quédate Conmigo"Aros gyda Fi1097
20  Yr AlmaenSaesnegRoman Lob"Standing Still"Sefyll yn Llonydd8110
21  MaltaSaesnegKurt Calleja"This is the Night"Dyma'r Nos2141
22 MacedoniaMacedonegKaliopi"Crno i belo" (Црно и бело)Du a Gwyn1371
23 IwerddonSaesnegJedward"Waterline"Llinell Ddŵr1946
24  SerbiaSerbegŽeljko Joksimović"Nije ljubav stvar" (Није љубав ствар)Nid Rhywbeth yw cariad3214
25  WcráinSaesnegGaitana"Be My Guest"Mae Croeso i Chi1565
26  MoldofaSaesneg[Ch]Pasha Parfeny"Lăutar"Cerddor traddodiadol1181

Artistiaid sy'n dychwelyd

ArtistGwladCystadleuaeth(au) blaenorolSafle
Jónsi  Gwlad yr Iâ200419eg
Jedward Iwerddon20118fed
Kaliopi Macedonia199626ain (rownd gyn-gymhwysol)
Željko Joksimović  Serbia2004 (yn cynrychioli Serbia a Montenegro)2ail

Cyfeiriadau