Daeargryn Nepal 2015
Lladdwyd dros 8,800 o bobl gan Ddaeargryn Nepal 2015 (neu Ddaeargryn Gorkha) ac anafwyd oddeutu 23,000.[1][2] Roedd daearegwyr wedi rhagweld y byddai daeargryn angheuol yn taro ryw bryd oherwydd natur y creigiau, pensaernïaeth leol ayb.[3][4]
Enghraifft o'r canlynol | Daeargryn |
---|---|
Dyddiad | 25 Ebrill 2015 |
Lladdwyd | 8,964 |
Dechreuwyd | 25 Ebrill 2015 |
Gwladwriaeth | Nepal, India, Bangladesh |
Rhanbarth | Yr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Teimlwyd y cryndodau cyntaf ar 25 Ebrill 2015, a thyfodd i faint 7.8Mw[5] neu 8.1Ms ac uchafbwynt o IX (Treisgar) ar Raddfa Dwysedd Mercalli. Roedd canolbwynt y ddaeargryn wedi'i lleoli i'r dwyrain o ardal Lamjung, oddeutu 15 km (9.3 mi) o dan wyneb y Ddaear.[5] Hwn oedd trychineb gwaethaf Nepal ers 1934 pan drawod Daeargryn Nepal–Bihar.[6][7][8]
Creodd y cryndodau dirlithriadau a rhewlithriadau eraill, gan gynnwys sawl eirlithrad (neu avalanches) ar Fynydd Everest, gan ladd 19 o ddringwyr,[9] sef y golled mwyaf mewn un diwrnod ar y mynydd ers cadw cofnodion.[10] Canlyniad arall i gryndodau'r ddaeargryn oedd eirlithrad anferthol yn nyffryn Langtang, ble collwyd 250 o bobl.[11][12]
Gwnaed cannoedd o filoedd o bobl yn ddigartref o fewn munudau a lloriwyd sawl pentref cyfan mewn sawl rhan o Nepal.[13] Dymchwelwyd llawer o adeiladau hynafol, nifer ohonynt oddi fewn i Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn Nyffryn Kathmandu.[14]
Gwlad | Marwolaeth | Anafiadau | Ffynhonnell |
---|---|---|---|
Nepal | > 8,786 | > 22,304 | [15][16] |
India | 130 | 560 | [17] |
Gweriniaeth Pobl Tsieina | 27 | 383 | [18] |
Bangladesh | 4 | 200 | [19] |
Cyfanswm | > 8,947 | > 23,447 |
Ôl-gryniadau
Parhaodd yr ôl-gryniadau drwy Nepal gyfan mewn ysbeidiau o 15-20 munud, gydag un ôl-gryniad o faint 6.7 ar 26 Ebrill (am 12.54 Amser Nepal).[20]
Yr ôl-gryniad mwyaf oedd hwnnw am 12.35 ar y 12fed o Fai 2015 - a oedd o faint (Mw) o 7.3.[21] Roedd canolbwynt y ddaeargryn hon yn nes at y ffin gyda Tsieina, rhwng prifddinas y wlad Kathmandu a Mynydd Everest.[22] Lladdwyd dros 200 o bobl ac anafwyd dros 2,500.[23]
Effaith ar yr economi
Gyda chynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) o oddeutu USD$19.921 biliwn,[24] Nepal yw un o wledydd tlotaf Asia heb iddi lawer o adnoddau i ailadeiladu ar raddfa mor fawr a hyn.[25] Hyd yn oed cyn y Ddaeargryn roedd yn fwriad ganddi geisio codi pedair gwaith yn fwy o arian ar ei hisadeileddau (infrastructure) angenrheidiol.[25] Amcangyfrifir y bydd y golled i'r economi oddeutu 35% o GDP. Dywedodd llefarydd ar ran yr Asian Development Bank (ADB) ei fod yn fwriad ganddynt gynnig nawdd o USD$3 ar unwaith i Nepal i gychwyn y gwaith o ailadeiladu a hyd at USD$200 miliwn dros y cyfnod cychwynnol.[25]
Yn ôl yr economegydd Rajiv Biswas, bydd angen o leiaf USD$5 biliwn, hy oddeutu 20% o GDP Nepal.[25][26]