Eryr môr

rhywogaeth o adar
Eryr môr
Haliaeetus albicilla

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Animalia
Ffylwm:Chordata
Dosbarth:Aves
Urdd:Accipitriformes
neu Falconiformes
Teulu:Accipitridae
Genws:Eryrod môr[*]
Rhywogaeth:Haliaeetus albicilla
Enw deuenwol
Haliaeetus albicilla
(Linnaeus, 1758)
Dosbarthiad y rhywogaeth
Gwyrdd golau: Tymor nythu
Gwyrdd tywyll: Trwy'r flwyddyn
Glas: Gaeaf

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Eryr môr (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: eryrod môr) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Haliaeetus albicilla; yr enw Saesneg arno yw White-tailed sea eagle. Mae'n perthyn i deulu'r Eryr (Lladin: Accipitridae) sydd yn urdd y Falconiformes.[1] Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn H. albicilla, sef enw'r rhywogaeth.[2] Eryr y môr, eryr gynffonwen, eryr tinwyn, ac eryr mawr y môr yw enwau eraill ar y rhywogaeth.

Mae'n aderyn mawr, 69 – 91 cm (27 – 36 modfedd) o hyd a 182 – 238 cm (72 – 94 modfedd) ar draws yr adenydd. Pwysa'r ieir 4 – 6.9 kg (8.8–15.2 pwys), tra mae'r ceiliogod yn llai, 3 – 5.4 kg (6.6–12 pwys). Saif yn bedwerydd ymhlith eryrod y byd o ran maint.

Mae'n nythu ar draws gogledd Ewrop a gogledd Asia. Ceir poblogaeth fwyaf Ewrop o gwmpas arfordir Norwy. Pysgod ac adar yw eu prif fwyd, ond gall mamaliaid bychain fod yn bwysig hefyd.

Diflannodd y rhywogaeth o'r Alban yn y 19g, ond yn 1975, gollyngwyd nifer o adar ar ynys Rùm i geisio ei adfer. Mae'r eryr yma yn awr yn nythu ar draws Ynysoedd Heledd a rhai ar dir mawr yr Alban. Mae rhaglen i geisio adfer y rhywogaeth i Iwerddon, a bu awgrym y gellid gwneud yr un peth yng Nghymru. Nid oes sicrwydd a fu'r rhywogaeth yn nythu yng Nghymru yn y gorffennol ai peidio, ond mae'n bosibl fod rhai o'r cyfeiriadau at "eryr" yn cyfeirio at y rhywogaeth yma yn hytrach na'r Eryr euraid.

Haliaeetus albicilla
Haliaeetus albicilla groenlandicus

Teulu

Mae'r Eryr môr yn perthyn i deulu'r Eryr (Lladin: Accipitridae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaethenw tacsondelwedd
Barcud patrymogElanus scriptus
Barcud pigfainHelicolestes hamatus
Barcud ysgwydd-dduElanus caeruleus
Boda mêlPernis apivorus
Boda mêl SiberiaPernis orientalis
Bwncath De AmericaRupornis magnirostris
Eryr Brith BychanClanga pomarina
Fwltur barfogGypaetus barbatus
Fwltur cycyllogNecrosyrtes monachus
Fwltur duAegypius monachus
Gwalch ystlumodMacheiramphus alcinus
Gwalcheryr copogLophaetus occipitalis
Gwalcheryr copog AsiaNisaetus cirrhatus
Gwyddwalch gabarMicronisus gabar
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Safonwyd yr enw Eryr môr gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.