Hawliau LHDT yn ôl gwlad neu diriogaeth
Mae gan wledydd y byd amrywiaeth o ddeddfau sy'n ymwneud â pherthnasau rhywiol rhwng pobl o'r un rhyw. Mae fwyfwy o gymdeithasau rhyddfrydol, y mwyafrif yn y Gorllewin, yn caniatáu priodasau ac uniadau cyfunryw a phobl LHD i fabwysiadu plant yn gyfreithlon ac yn pasio deddfwriaeth trosedd casineb i ddiogelu hoywon, lesbiaid a deurywiolion, tra bo llawer o wladwriaethau crefyddol, yn enwedig yn y Byd Mwslemaidd, yn cosbi ymddygiad cyfunrywiol rhwng unigolion, sy'n amrywio o ddirwyon i'r gosb eithaf.
Yn ogystal â deddfau yn erbyn gweithredoedd cyfunrywiol, mae nifer o wledydd yn ystyried galw person yn gyfunrywiol yn sail ddigonol am achos llys difenwad.
Deddfwriaeth ar gyfunrywioldeb yn ôl gwlad neu diriogaeth
EwropEr gwaethaf hanes hir o erledigaeth a gwahaniaethu yn erbyn pobl LHD, heddiw mae pump o'r saith gwlad sydd wedi cyfreithloni priodas gyfunryw wedi'u lleoli yn Ewrop, ac mae 17 o wledydd Ewropeaidd wedi cyfreithloni uniadau sifil. Nid yn unig yw aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn ymofyn am ddiddymiad unrhyw ddeddfwriaeth wrth-gyfunrywiol, ond mae Cytundeb Amsterdam yn gorchymyn i ddeddfwriaeth wrth-wahaniaethu gael ei deddfu gan ei aelod-wladwriaethau.[1] | ||||||
Gwlad | Deddfau yn erbyn cyfunrywioldeb | Cosb | Uniadau cyfunryw | Deddfau yn erbyn gwahaniaethu | Mabwysiad | Sylwadau |
---|---|---|---|---|---|---|
Gwlad Belg | Dim | — | Priodas gyfunryw (ers 2003)[3][4] | Oes[2] | Oes (ers 2006)[5] | |
Y Deyrnas Unedig | Dim | — | Partneriaethau sifil (ers 2005)[8] | Deddfwriaeth trosedd casineb arfaethedig[9] | Oes (ers 2002)[10] | Y trobwynt mewn newid agweddau llywodraethol a chyhoeddus tuag at ddeddfwriaeth ar gyfunrywioldeb oedd cyhoeddiad Adroddiad Wolfenden yn 1957.[7] Roedd cyfunrywioldeb rhwng menywod byth yn anghyfreithlon. |
Sbaen | Dim (diddymwyd ym 1979)[11] | — | Priodas gyfunryw (ers 2005)[12][13] | Oes (ers 2005)[14] | Oes[12] | Mae uniadau sifil yn bodoli yn 12 o 17 cymuned ymreolaethol y wlad. |
Gogledd America | ||||||
Gwlad | Deddfau yn erbyn cyfunrywioldeb | Cosb | Uniadau cyfunryw | Deddfau yn erbyn gwahaniaethu | Mabwysiad | Sylwadau |
Canada | Dim (diddymwyd ym 1969)[15] | — | Priodas gyfunryw (ers 2005)[15] | Oes[15] | Oes yn:[16]
Nac oes yn:[17] Cyfraith yn ansicr yn:[17] | |
Yr Unol Daleithiau | Dim Yr achos diweddaraf ynglŷn â'r mater oedd Lawrence v. Texas, 2003: dyfarnodd y Llys Goruchaf bod deddfau sodomiaeth yn anghyfansoddiadol.[18] Priodas gyfunryw wedi'i gwahardd yn:[19] | — | Uniadau sifil yn: Partneriaethau domestig yn: Priodas gyfunryw yn:
| Oes | Oes; mabwysiadu gan gyplau cyfunryw yn gyfreithlon yn:[25][26]
Fflorida yw'r unig dalaith sy'n gwahardd mabwysiad gan unigolion LHDT.[25] Mae cyfraith y mwyafrif o daleithiau eraill yn amwys ar y mater. | Pwnc llosg dadleuol iawn yn yr UD yw cyfunrywioldeb a hawliau LHDT, gyda safbwyntiau polareiddiedig sy'n ymglymu agweddau crefyddol, cymdeithasol a gwleidyddol. Darganfuodd Arolwg Agweddau Byd-eang 2003 Canolfan Ymchwil Pew bod mwyafrif cul (51 %) o Americanwyr yn credu dylai cyfunrywioldeb gael ei dderbyn gan gymdeithas, tra bo 42% yn anghytuno.[27] |
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Cysylltiadau allanol
- (Saesneg) (Sbaeneg) Y Comisiwn Hawliau Dynol Hoyw a Lesbiaidd Rhyngwladol Archifwyd 2005-05-24 yn y Peiriant Wayback. (IGLHRC)