Matteo Renzi

Prif Weinidog yr Eidal ydy Matteo Renzi (ganwyd 11 Ionawr 1975). Bu wrth y llyw fel Prif Weinidog ers 22 Chwefror 2014 ac yn Ysgrifennydd Plaid y Democratiaid ers 15 Rhagfyr 2013. Cyn hyn, ef oedd Llywydd Rhanbarth Fflorens (Firenze) rhwng 2004 a 2009 ac yn Faer Fflorens o 2009 i 2014.[1][2]

Matteo Renzi
Matteo Renzi


Cyfnod yn y swydd
21 Chwefror 2014 – 12 Rhagfyr 2016
RhagflaenyddEnrico Letta
OlynyddPaolo Gentiloni

Geni11 Ionawr 1975
Fflorens, Toscana
PriodAgnese Landini
PlantFrancesco, Emanuele, Ester
Alma materPrifysgol Fflorens
CrefyddCatholig
Gwefanmatteorenzi.it
Llofnod

Yn 39 oed a 42 diwrnod, Renzi oedd Prif Weinidog ieuengaf yr Eidal ers ei huno yn 1861 - yn iau na Benito Mussolini pan gafodd ei benodi yn 1922, o 52 diwrnod. Ef hefyd yw arweinydd ieuengaf y G7; mae'n cael ei alw'n arweinydd de facto Plaid Sosialaidd Ewrop ac yn gwrthwynebu egwyddorion Angela Merkel a Phlaid y Bobl i'r carn. Gelwir y ddau hyn yn aml yn Merkenzi.[3][4] Yn 2014 fe'i rhestrwyd fel y trydydd person dan 40 oed mwyaf dylanwadol yn y byd gan y cylchgrawn Fortune.[5][6]

Ei lywodraeth a ddaeth i ben 12 Rhagfyr 2016.

Cyfeiriadau