Paleogen

SystemCyfresOesOes (Ma)
CwaternaiddPleistosenaiddGelasaiddifancach
NeogenaiddPlïosenaiddPiacensaidd2.588–3.600
Sancleaidd3.600–5.332
MïosenaiddMesinaidd5.332–7.246
Tortonaidd7.246–11.608
Serravallaidd11.608–13.65
Langhianaidd13.65–15.97
Bwrdigalaidd15.97–20.43
Acwitanaidd20.43–23.03
PaleogenaiddOligosenaiddCataiddhynach
Israniadau'r Cyfnod Neogen, yn ôl IUGS, fel a gaed yng Ngorffennaf 2009.
Gofal: ceir cyfnod arall gydag enw tebyg: Paleosen.

Cyfres neu Epoc ddaearegol ydy Paleogen (ansoddair: Paleogenaidd) (Saesneg: Palaeogene neu Palæogene neu weithiau: Lower Tertiary) a ddechreuodd 65.5 ± 0.3 miliwn o flynyddoedd yn ôl ac a ddaeth i ben 23.03 ± 0.05 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae'n cynnwys cyfnod cyntaf yr Era Cenosen.[1] Mae'n rhychwantu cyfnod o 42 miliwn o flynyddoedd ac yn nodedig oherwydd mai yn y cyfnod hwn y datblygodd mamaliaid o fod yn ffurfiau bychan, syml i fod yn anifeiliaid gyda chryn amrywiaeth oddi fewn i'w grŵp. Esgblygodd yr aderyn hefyd yn y cyfnod hwn gan esgblygu i'w ffurfiau presennol, fwy neu lai. Roedd hyn yn ganlyniad i ddiwedd y cyfnod a raflaenai hwn, sef y cyfnod diwedd y dinosoriaid ac anifeiliaid eraill.

Mae'r cyfnod yn cynnwys israniadau a elwir yn Epoc/au: y Paleosen, yr Ëosen a'r Oligosen. Mae'r system Paleogenaidd yn cael ei ddefnyddio am y creigiau a ffurfiwyd yn y cyfnod hwn.

Cyfnod Paleogen
65.5–23.03 miliwn o flynyddoedd yn ôl
Cyfartaledd O2 yn yr atmosffêrca. 26 Cyfaint %[2]
(130 % o lefel a geir heddiw)
Cyfartaledd CO2 yn yr atmosffêrca. 500 rhan / miliwn[3]
(2 wedi'i luosi gyda'r lefel fodern (cyn-ddiwydiannol))
Cyfartaledd tymheredd yr wynebca. 18 °C[4]
(4 °C uwch na'r lefel heddiw)


Gweler hefyd

Cyfeiriadau