Rhestr Detholion y Byd FIFA

Sustem safleoedd ar gyfer timau pêl-droed dynion ar lefel cenedlaethol yw Safleoedd y Byd FIFA. Fe drefnir safleoedd y timau sy'n aelodau o genhedloedd FIFA - corff rheoleiddio pêl-droed y Byd - yn seliedig ar ganlyniadau eu gemau, gyda'r timau mwyaf llwyddiannus yn cyrraedd y safleoedd uchaf. Cyflwynwyd y sustem ym mis Rhagfyr 1992, ac y mae saith tîm (Yr Almaen, Yr Ariannin, Brasil, Yr Eidal, Ffrainc, Yr Iseldiroedd a Sbaen) wedi treulio amser ar frîg y rhestr. O'r rhain, Brasil sydd wedi treulio'r amser hiraf yn y safle uchaf. Ar hyn o bryd, Yr Ariannin sydd yn y safle 1af yn Safleoedd y Byd FIFA[2]. Llwyddodd Cymru i gyrraedd y deg uchaf yn Safleoedd y Byd FIFA am y tro cyntaf pan gyrrhaeddasant y 10fed safle yn y Byd ar 9fed Gorffennaf 2015[3].

Y 20 Safle Uchaf ar 1 Hydref 2015[1]
SafleTîmPwyntiau
1 Yr Ariannin1419
2 Yr Almaen1401
3 Gwlad Belg1387
4 Portiwgal1235
5 Colombia1228
6 Sbaen1223
7 Brasil1204
8 Cymru1195
9 Chile1177
10 Lloegr1161
11 Awstria1100
12 Y Swistir1044
13 Rwmania1042
14 Yr Iseldiroedd1004
15 Y Weriniaeth Tsiec983
16 Croasia965
17 yr Eidal962
18 Slofacia936
19 Algeria927
20 Wrwgwái919
Rhestr Safleoedd Cyflawn ar Fifa.com Archifwyd 2014-10-30 yn y Peiriant Wayback.

Ar 3 Medi 2015, fe gododd Cymru yn uwch na thîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr yn rhestr safleoedd FIFA am y tro cyntaf[4].

Ar 1 Hydref 2015, cododd Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru i'w safle uchaf erioed ar restr detholion y Byd pan gyrhaeddasant yr 8fed safle.[5][6]

Dull cyfrifo cyfredol

Ystyrir y ffactorau canlynol tra'n cyfrifo pwyntiau pob tîm a ddefnyddir i briodoli safle'r timau[7].:

  • Canlyniad gêm
  • Statws gêm
  • Cryfder gwrthwynebwyr
  • Cryfder rhanbarthol

Mae sgor tîm yn cael ei gyfrifo o gyfartaledd y pwyntiau a enillwyd dros gyfnod o flwyddyn calendr, gyda chanlyniadau gemau dros y bedair mlynedd flaenorol yn cael eu hystyried, a'r pwyslais mwyaf yn cael ei roi ar y canlyniadau mwyaf diweddar.

Cyfeiriadau