Sinéad O'Connor

actores a aned yn 1966

Cantores o Wyddeles oedd Shuhada' Sadaqat (ganwyd Sinéad Marie Bernadette O'Connor, 8 Rhagfyr 196626 Gorffennaf 2023)[1]. Daeth i amlygrwydd byd-eang yn 1990 gyda'i chân "Nothing Compares 2 U", oedd wedi ei chyfansoddi gan yr artist Prince.

Sinéad O'Connor
GanwydSinéad Marie Bernadette O'Connor Edit this on Wikidata
8 Rhagfyr 1966 Edit this on Wikidata
Glenageary, Dulyn Edit this on Wikidata
Bu farw26 Gorffennaf 2023 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Man preswylKnockananna, Dalkey, Bré, Llundain Edit this on Wikidata
Label recordioChrysalis Records, Ensign Records, Vanguard Records, One Little Independent Records, Nettwerk Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Newtown School, Waterford Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr-gyfansoddwr, gitarydd, offeiriad, actor, cyfansoddwr, cerddor, canwr roc, canwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amNothing Compares 2 U Edit this on Wikidata
Arddullroc amgen, roc poblogaidd, reggae, roc gwerin, college rock, roc Geltaidd, indie pop Edit this on Wikidata
Math o laismezzo-soprano Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadBob Dylan Edit this on Wikidata
TadJohn O’Connor Edit this on Wikidata
PriodJohn Reynolds, Nick Sommerlad, Steve Cooney, Barry Herridge Edit this on Wikidata
PartnerPeter Gabriel, Richard Heslop, John Waters, Dónal Lunny, Frank Bonadio Edit this on Wikidata
PlantJake Reynolds, Roisin Waters, Shane O'Connor Lunny, Yeshua Bonadio Edit this on Wikidata
Gwobr/auRockbjörnen, Gwobr Gerdd Billboard, Gwobr Gerdd Billboard, MTV Video Music Award for Video of the Year, MTV Video Music Award for Best Post-Modern Video, Grammy Award for Best Alternative Music Performance, BRIT Award for International Female Solo Artist, Goldene Europa, World Soundtrack Award for Best Original Song Written Directly for a Film, Choice Music Prize Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.sineadoconnor.com/ Edit this on Wikidata
Sinéad O'Connor ar y llwyfan
Sinéad O'Connor, Gŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant 2013

Fe ryddhaodd ddeg albwm stiwdio. Cafodd record aur yn y DU gyda'i albymau Am I Not Your Girl? (1992) a Universal Mother (1994),[2] roedd Faith and Courage (2000) yn record aur yn Awstralia,[3] ac roedd Throw Down Your Arms (2005) yn record aur yn Iwerddon.[4] Roedd ei gwaith yn cynnwys caneuone ar gyfer ffilm, cydweithio gyda sawl artist arall ac ymddangosiadau mewn cyngherddau elusennol. Cyhoeddoedd gofiant llwyddiannus Rememberings yn 2001.[5]

Bywyd personol

Priododd ac ysgarodd O'Connor bedair gwaith. Cafodd ei mab cyntaf, Jake, yn 1987, gyda'r cynhyrchydd recordiau John Reynolds, a cyd-gynhyrchodd nifer o'i albymau cynnar.[6] who co-produced several of her albums, including Universal Mother. Priododd y ddau yn 1989.[7] Yr un flwyddyn cafodd O'Connor erthyliad ar ôl i'r berthynas gyda'r tad ddod i ben. Ysgrifennodd y gân "My Special Child" am y profiad.[8]

Yn fuan wedi genedigaeth ei merch Brigidine Roisin Waters ar 10 Mawrth 1996, cychwynodd O'Connor a tad y ferch, y newyddiadurwr Gwyddelig John Waters, frwydr hir am warchodaeth y plentyn. Yn y pendraw cytunodd i adael Roisin fyw yn Nulyn gyda Waters.[9][7][6] Yn Awst 2001, priododd y newyddiadurwr Prydeinig Nick Sommerlad yng Nghymru; daeth y brodias i ben yng Ngorffennaf 2002.[10][6] Cafod ei thrydydd plentyn, ei mab Shane yn 2004, gyda'r cerddor Donal Lunny.[6][7] Yn 2006, cafodd ei phedwerydd plentyn, Yeshua Francis Neil Bonadio, a'r tad oed Frank Bonadio.[11][12]

Priododd O'Connor am y trydydd tro ar 22 Gorffennaf 2010, i hen ffrind a chydweithiwr Steve Cooney,[13][14] ac yn Mawrth 2011, penderfynodd y ddau i wahanu.[15] Roedd ei pedwerydd priodas i'r therapydd Gwyddelig Barry Herridge. Priododd y cwpl ar 9 Rhagfyr 2011, yn Las Vegas, ond gorffennodd y briodas ar ôl iddynt "fyw gyda'i gilydd am 7 diwrnod yn unig".[16] Yr wythnos ganlynol, ar 3 Ionawr 2012, cyhoeddodd O'Connor negeseuon ar y we yn dweud fod y cwpl wedi aduno.[17]

Newidiodd ei henw i Shuhada' Sadaqat yn 2018 ar ôl troi at Islam.

Roedd dioddef cyfnodau o anhwylderau iechyd corfforol a meddyliol yn ystod ei bywyd. Bu farw ei mab Shane yn 17 oed ym mis Ionawr 2022.[7]

Marwolaeth

Canfuwyd O'Connor yn farw yn ei chartref ar 26 Gorffennaf 2023, yn 56 mlwydd oed.[18] Cafwyd datganiad gan ei theulu yn cadarnhau ei bod wedi marw, heb ddatgan achos y farwolaeth.[19][20]

Disgyddiaeth

  • 1987: The Lion and the Cobra
  • 1990: I Do Not Want What I Haven't Got
  • 1992: Am I Not Your Girl?
  • 1994: Universal Mother
  • 1997: Gospel Oak (EP)
  • 2000: Faith and Courage
  • 2002: Sean-Nós Nua
  • 2005: Throw Down Your Arms
  • 2007: Theology
  • 2012: How About I Be Me (and You Be You)?
  • 2014: I'm Not Bossy, I'm the Boss
  • I ddod: No Veteran Dies Alone

Cyfeiriadau

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: