2023
blwyddyn
20g - 21g - 22g
1970au 1980au 1990au 2000au 2010au - 2020au 2030au 2040au 2050au 2060au 2070au
2018 2019 2020 2021 2022 - 2023 - 2024 2025 2026 2027 2028
Roedd yn rhan fwyaf o 2023 yn cael ei dominyddu gan y Rhyfel yn yr Wcrain, yr argyfwng hinsawdd a'r drafodaeth am Deallusrwydd artiffisial.Mae ymosodiad gan Hamas ar Israel ar 7 Hydref yn arwain at y cynnydd mwyaf difrifol yn y gwrthdaro rhwng Israel a Phalestina ers degawdau.
Bu nifer o ddaeargrynfeydd dinistriol yn ystod y flwyddyn hefyd; digwyddodd y mwyaf marwol o'r rhain yn rhanbarth ffin Twrci a Syria ym mis Chwefror.
Digwyddiadau
Ionawr
- 1 Ionawr
- Mae Chris Bryant (Aelod Seneddol y Rhondda) yn dod yn farchog ac mae Sophie Ingle yn derbyn OBE, yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd cyntaf y frenin Siarl.[1]
- Croatia sy'n mabwysiadau arian cyfred yr Ewros ac yn ymuno a Chytundeb Schengen.[2]
- Sweden yn derbyn arlywyddiaeth Cyngor yr Undeb Ewropeaidd.
- Lula da Silva yn dod yn Arlywydd Brasil am yr eildro.[3]
- 3 Ionawr – Mae gweithwyr rheilffordd Prydain yn dechrau streic pum diwrnod.[4]
- 5 Ionawr – Pab Ffransis sy'n arwain y gwasanaeth angladd i'r Pab Bened XVI.[5]
- 8 Ionawr
- Pandemig COVID-19: Gweriniaeth Pobl Tsieina yn dod a chyfyngiadau COVID-19 i ben.
- Mae adeiladau llywodraeth Brasil yn cael eu stormu gan gefnogwyr y cyn-Arlywydd Jair Bolsonaro.[6]
- 9 Ionawr – Gareth Bale yn cyhoeddi diwedd ei yrfa bel-droed.[7]
- 10 Ionawr – Mae cofiant y Tywysog Harri - gan y teitl "Spare" - yn mynd ar werth yn y Deyrnas Unedig.
- 11 Ionawr – Mae gweithiwr ambiwlans yng Nghymru (a'r rhan fwyaf o Loegr) yn mynd ar streic am yr eildro.
- 14 Ionawr – Ymosodiad Rwsia ar Wcrain: Mae streic taflegrau Rwsia ar adeilad fflatiau yn Dnipro, Wcrain, yn lladd leiaf 45 o bobl.
- 15 Ionawr – Mae damwain awyren ger Pokhara, canol Nepal, yn lladd 72 o bobl.
- 16 Ionawr – Mae llywodraeth y DU yn penderfynu atal cyfraith Trawsryweddol newydd Senedd yr Alban.
- 17 Ionawr – Dywed Gweriniaeth Pobl Tsieina fod gostyngiad yn ei phoblogaeth am y tro cyntaf mewn 60 mlynedd.
- 18 Ionawr – Mae damwain hofrennydd yn Brovary, ger Kyiv, Wcrain, yn lladd 14 o bobl, gan gynnwys gweinidog mewnol Wcrain.
- 19 Ionawr – Jacinda Ardern yn cyhoeddi ei hymddiswyddiad fel Prif Weinidog Seland Newydd.[8]
- 24 Ionawr – Ymosodiad Rwsia ar Wcrain: Mae'r Almaen yn cytuno i anfon tanciau "Leopard 2" i Wcrain.
- 25 Ionawr – Chris Hipkins yn dod yn Brif Weinidog Seland Newydd.
- 29 Ionawr – Tenis: Novak Djokovic yn ennill ei 10fed teitl Agored Awstralia.
- 30 Ionawr – Mae bom yn ymosod ar fosg yn Peshawar, Pacistan, yn lladd o leiaf 101 o bobl.[9]
Chwefror
- 1 Chwefror
- Mae'r gomed "C/2022 E3 ZTF" yn pasio o fewn 42 miliwn cilomedr o'r Ddaear.
- Mae 475,000 o weithwyr yn mynd ar streic ar draws y Deyrnas Unedig.[10]
- 2 Chwefror – Mae balwn ysbio Tsieineaidd honedig yn achosi ffrae ddiplomyddol rhwng Tsieina a'r Unol Daleithiau.
- 4 Chwefror – Dechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Cymru yn colli 34-10 i Iwerddon yn y gem gyntaf; Yr Alban yn curo Lloegr yn Twickenham am yr eildro yn olynol.
- 6 Chwefror
- Tarodd dau ddaeargryn cryf ranbarth ffin Twrci a Syria; Mae o leiaf 57,000 o bobl yn cael eu lladd.[11]
- Mae'r streic fwyaf erioed o weithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn digwydd.
- 8 Chwefror – Ymosodiad Rwsia ar Wcrain; Mae Volodymyr Zelenskyy yn ymweld a'r Deyrnas Unedig a Ffrainc.
- 11 Chwefror – Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Mae Cymru yn colli o 35-7 i'r Alban ym Murrayfield yn ei hail gem yn y gystadleuaeth.
- 15 Chwefror – Nicola Sturgeon yn cyhoeddi ei hymddiswyddiad fel Brif Weinidog yr Alban.[12]
- 17 Chwefror – Mae priodas o'r un rhyw yn dod yn gyfreithiol yn Andorra.
- 20 Chwefror
- 21 Chwefror – Vladimir Putin yn atal eyfranogiad Rwsia yn y cytundeb NewSTART.
- 24 Chwefror – Cynhelir digwyddiadau i nodi pen-blwydd cyntaf ymosodiad Rwsia ar Wcrain.
- 25 Chwefror
- 26 Chwefror – Mae suddo cwch mudol oddi ar Calabria, yr Eidal, yn lladd o leiaf 60 o bobl.
- 27 Chwefror – Rishi Sunak yn cyhoeddi cytundeb newydd gyda'r Undeb Ewropeaidd ar Brotocol Gogledd Iwerddon.
- 28 Chwefror – Mae dau drên yn gwrth daro ger Larissa, Gwlad Groeg, gan ladd 57 o bobl.
Mawrth
- 4 Mawrth – Cytunir i gytundeb newydd ar ddiogelu cefnforoedd y byd.
- 6 Mawrth – Mae protestiadau'n dechrau yn Georgia ar ôl i'r Senedd basio bil "asiantau tramor".
- 10 Mawrth
- Mae Xi Jinping yn cael trydydd tymor fel Arlywydd Gweriniaeth Pobl Tsieina; Li Qiang yw'r Premier newydd.
- Argyfwng bancio: Mae'r Banc Silicon Valley yn methu.
- 11 Mawrth – Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Cymru'n curo'r Eidal 29-17 er mwyn osgoi'r "llwy bren".
- 12 Mawrth – 95fed Gwobrau'r Academi: Michelle Yeoh a Brendan Fraser yn ennill y prif wobrau actio.
- 14 Mawrth
- Mae seiclon "Freddy" yn taro Mosambic a Malawi am yr eildro mewn llai na mis.
- Aaron Ramsey yw capten newydd tîm pêl-droed Cymru.
- 16 Mawrth – Pasiwyd mesur diwygio pensiwn dadleuol Ffrainc heb bleidlais seneddol.
- 17 Mawrth – Mae'r Llys Troseddol Rhyngwladol yn cyhoeddi gwarant arestio ar gyfer Vladimir Putin.
- 18 Mawrth – Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Iwerddon yn ennill y Gamp Lawn ar ôl curo Lloegr 29-16; Cymru'n gorffen yn y pumed safle ar ol colli 41-28 i Ffrainc.
- 19 Mawrth – Argyfwng bancio: Mae "UBS" yn penderfynu prynu ei gystadleuydd cythryblus Credit Suisse.
- 20 Mawrth
- Xi Jinping yn ymweld a Vladimir Putin yn Moscfa.
- Mae adroddiad newydd ar newid hinsawdd yn cael ei gyhoeddi.
- 25 Mawrth – Mae'r asteroid "2023 DZ2" yn pasio rhwng y Ddaear a'r Lleuad.
- 27 Mawrth
- Mae gweithwyr trafnidiaeth yn yr Almaen yn mynd ar streic.
- Daw Humza Yousaf yn arweinydd Plaid Genedlaethol yr Alban.[13]
- Israel: Benjamin Netanyahu yn cyhoeddi oedi i'w ddiwygiadau barnwrol dadleuol.
- Mae tan mewn canolfau brosesu ymfudol yn Ciudad Juarez, Mecsico, yn lladd o leiaf 39 o bobl.
- 28 Mawrth – Mae Jeremy Corbyn wedi ei wahardd rhag sefyll fel ymgeisydd y Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
- 29 Mawrth – Humza Yousaf yn dod yn Brif Weinidog yr Alban.
- 30 Mawrth
- Mae Siarl III, brenin y Deyrnas Unedig, yn mynd i'r afael a Bundestag yr Almaen.
- Mae Twrci yn cymeradwyo cais y Ffindir am aelodaeth NATO.
- Donald Trump yw Arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau i wynebu cyhuddiadau troseddol.
Ebrill
- 2 Ebrill – Etholiad cyffredinol y Ffindir.
- 4 Ebrill – Mae'r Ffindir yn ymuno a NATO, gan ddyblu ffin y gynghrair a Rwsia.
- 11 Ebrill
- Llu Awyr Myanmar yn lladd dros 130 o bobl yn mhentraf Pazigyi.
- Mae Joe Biden yn ymweld a Gogledd Iwerddon i nodi 25 mlynedd ers Cytundeb Belffast.
- 14 Ebrill – Mae chwilidydd "JUICE" yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd yn cael ei lansio o Kourou, Guiana Ffrengig; ei nod yw astudio lleuadau rhewllyd Iau.
- 15 Ebrill
- Mae Prif Weinidog Japan, Fumio Kishida, wedi goroesi ymgais i ymosod.
- Mae ymladd yn torri allan rhwng carfanau milwrol cystadleuol yn Swdan.
- Mae adweithyddion niwclear olaf yr Almaen yn cael eu diffodd.
- 17 Ebrill – Mae Parc Genedlaethol Bannau Brycheiniog yn gollwng ei enw Saesneg yn swyddogol.[14]
- 20 Ebrill
- Gwelir eclips solar cyfan dros rannau o Orllewin Awstralia a De-ddwyrain Asia.
- Mae'r roced "Starship" SpaceX yn ffrwydro bedwar munud ar ol ei lansio.
- 21 Ebrill – Dominic Raab yn ymddiswyddo o'r cabinet Prydeinig oherwydd dadlau o fwlio.
- 22 Ebrill – Mae CPD Wrecsam yn cael ei ddyrchafu i Gynghrair Bel-droed Lloegr wedi absenoldeb o 15 mlynedd.
- 24 Ebrill – Mae'r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif y bydd poblogaeth India yn frwy na Tsieina erbyn diwedd yr wythnos.
- 25 Ebrill
- Joe Biden yn cyhoeddi ei gais am ail dymor yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.
- Mabwysiadu gorfodol: Mae Julie Morgan yn ymddiheuro ar ran Llywodraeth Cymru.
- 29 Ebrill – Pencampwriaeth y chwe Gwlad Merched: Cymru'n gorffen yn y trydydd safle; Lloegr yn ennill y Gamp Lawn.
- 30 Ebrill – Mae'r brif blaid annibyniaeth yn ennill mwyafrif cyffredinol yn etholiad deddfwriaethol Polynesia Ffrengig.
Mai
- 1 Mai
- 3 Mai – Mae naw o bobl yn cael eu lladd mewn saethu ysgol yn Beograd, Serbia.
- 5 Mai
- Mae llifogydd yn Ne Kivu, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, yn lladd o leiaf 440 o bobl.
- Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn datgan nad yw nad yw COVID-19 bellach yn argyfwng iechyd byd-eang.
- 6 Mai – Coroni'r Brenin Siarl III a'r Frenhines Camilla.
- 7 Mai – Mae Syria yn cael ei haildderbyn i'r Gynghrair Arabaidd.
- 9 Mai – Dechrau'r Gystadleuaeth Can Eurovision yn Lerpwl.
- 10 Mai – Adam Price yn ymddiswyddo fel arweinydd Plaid Cymru; Llyr Huws Gruffydd yn dod yn arweinydd dros do.[15]
- 13 Mai
- Volodymyr Zelenskyy yn cwrdd a'r Pab Ffransis.
- Loreen yn ennill y Gystadleuaeth Can Eurovision dros Sweden; Mae Muller o'r Deyrnas Unedig yn gorffen yn ail-olaf.
- 14 Mai – Etholiadau yn Nhwrci a Gwlad Tai.
- 16 Mai – Mae tan mewn hostel yn Wellington, Seland Newydd, yn lladd 6 o bobl ac yn gadael 11 ar goll.
- 19 Mai
- Cychwyn 49ain Uwchgynhadledd yr G7 yn Hiroshima, Japan, a fyddai'n parhau nes 21 Mai.
- Mae Justin Tipuric ac Alun Wyn Jones yn ymddeol o'r undeb rygbi rhyngwladol.
- 21 Mai – Etholiad cyffredinol Gwlad Groeg.
- 22 Mai – Lladdwyd 19 o bobl mewn tan mewn ysgol yn Mahdia, Gaiana.
- 24 Mai – Ron DeSantis, Llywodraethwr Florida, yn cyhoeddi ei fwriad i redeg ar gyfer Arlywydd yr Unol Daleithiau yn 2024.
- 28 Mai
- Pencampwyr 2015/16 Leicester City F.C. yn cael eu gostwng o Uwch Gynghrair Lloegr.
- Recep Tayyip Erdogan yn cael ei ailethol yn Arlywydd Twrci.
- 29 Mai – Bola Tinubu yn dod yn Arlywydd Nigeria.
Mehefin
- 1 Mehefin
- Mae arweinwyr gwleidyddol Ewrop yn cyfarwfod ar gyfer uwchgynhadloedd ym Moldofa.
- Mae Geraint Davies yn cael ei wahardd o'r Blaid Lafur.
- 2 Mehefin
- Mae dri dren gwrthdaro ger Balasore, Odisha, India, gan ladd o leiaf 275 o bobl.
- Ajay Banga yn dod yn Arlywydd Banc y Byd.
- 5 Mehefin – Mike Pence yn cyhoeddi ei fwriad i redeg ar gyfer Arlywydd yr Unol Daleithiau.
- 6 Mehefin – Ymosodiad Rwsia ar Wcrain: Mae Argae Nova Kakhovka yn Ne Wcrain yn cael ei ddinistrio.
- 9 Mehefin – Boris Johnson yn ymddiswyddo o Dy'r Cyffredin.
- 10 Mehefin – Manchester City F.C. yn cwblhau trebl Uwch Gynghrair, Cwpan FA a Gynghrair y Pencampwyr.
- 11 Mehefin
- Mae Nicola Sturgeon yn cael ei harestio a'i rhyddhau fel rhan o chwiliedydd i gyllid yr SNP.
- Tenis, Agored Ffrainc: Novak Djokovic yn ennill ei deitl 23ain sengl; mae hon yn record yn y gem dynion.
- 12 Mehefin – Mae cwch priodas yn gorwedd ar Afon Niger yn Nigeria, gan ladd dros 100 o bobl.
- 13 Mehefin
- Mae tri o bobl wedi cael eu drywanu i farwolaeth yn Nottingham.
- Mae o leiaf 79 o bobl yn cael eu lladd ac mae cannoedd ar goll ar cwch sy'n cludo ymfudwyr yn capio oddi ar Wlad Groeg.
- 15 Mehefin – Partygate: Mae adroddiad ASau yn dod i'r casgliad bod Boris Johnson wedi camarwain y senedd yn fwriadol.
- 16 Mehefin
- Rhun ap Iorwerth yn dod yn arweinydd Plaid Cymru.
- Pel-droed: Cymru'n colli 4-2 i Armenia yng Nghaerdydd.
- Mae 41 o bobl wedi cael eu lladd mewn ymosodiad ar ysgol ym Mpondwe, Wganda.
- 18 Mehefin – Mae'r llong danfor "Titan" yn ffrwydro ger llongddrylliad yr RMS Titanic, gan ladd pob un o'r 5 o bobl ar fwrdd.
- 20 Mehefin – Petteri Orpo yn dod yn Brif Weinidog y Ffindir.
- 23-24 Mehefin – Rwsia grwp "Wagner" yn arwain gwrthryfel.
- 25 Mehefin – Etholiad cyffredinol Gwlad Groeg.
- 27 Mehefin
Gorffennaf
- 1 Gorffennaf
- Sbaen yn derbyn arlywyddiaeth Cyngor yr Undeb Ewropeaidd.
- Mae'r telesgop gofod "Euclid" yn cael ei lansio.
- 3 Gorffennaf – Mae Israel yn defnyddio grymoedd a dronau daear i wersyll ffoaduriaid Jenin, Y Lan Orllewinol.
- 4 Gorffennaf – Mae Mark Drakeford yn dyst yn ym chwiliad COVID-19 y DU.
- 7 Gorffennaf – Mae llywodraeth glymbaid yr Iseldiroedd yn cwympo.
- 11-12 Gorffennaf – Uwchgynhadledd NATO yn Vilnius.
- 12 Gorffennaf – Mae Huw Edwards wedi ei enwi fel cyflwynydd BBC yng nghanol honiadau a wnaed ym mhapur newydd The Sun.
- 14 Gorffennaf – India yn lansio llong ofod "Chandrayaan-3" ar ei thaith i'r Lleuad.
- 20 Gorffennaf – Dechrau o Cwpan y Byd Menywod FIFA 2023 yn Awstralia a Seland Newydd.
- 23 Gorffennaf – Etholiadau yn Sbaen a Chambodia.
- 24 Gorffennaf – Mae Elon Musk yn newid enw Twitter i "X".
- 26 Gorffennaf – Coup milwrol yn Niger.
- 27 Gorffennaf – Amcangyfrifir mai Gorffennaf 2023 yw'r mis poethaf en oed.
- 28 Gorffennaf – Mae Wcrain yn newid ei Dydd Nadolig o 7 Ionawr i 25 Rhagfyr.
- 30 Gorffennaf – Mae 63 o bobl wedi cael eu lladd mewn ymosodiad yn Khar, Pakistan.
Awst
- 1 Awst – Mae tymheredd cyfartalog y cefnfor yn cyrraedd y lefel uchaf erioed.
- 3-13 Awst – Cymhelir Pencampwriaethau Seiclo'r Byd yn yr Alban.
- 4 Awst – Mae’r achos yn erbyn yr ymgyrchydd iaith Gymraeg Toni Schiavone am fethu â thalu dirwy parcio oherwydd bod y tocyn wedi’i ysgrifennu yn uniaith Saesneg yn cael ei ollwng yn Llys y Goron Aberystwyth.[16]
- 8 Awst – Mae tan yn dinistrio tref Lahaina ar Ynys Maui yn Hawaii, gan ladd dros 100 o bobl.
- 14 Awst – Mae ffrwydrad mewn gorsaf betrol ym Makhachkala, Dagestan, De Rwsia, yn lladd 35 o bobl.
- 15 Awst – Mae argyfwng yn cael ei ddatgan yn Niriogaethau'r Gogledd-orllewin yng Nghanada oherwydd tanau gwyllt.
- 16 Awst – Mae Abi Tierney yn dod yn brif weithredwr yr Undeb Rygbi Cymru, y fenyw cyntaf i ddal y swydd honno.[17]
- 18 Awst – Lucy Letby yn euog o lofruddio saith babi yn Ysbyty Iarlles Caer.
- 19-27 Awst – Pencampwriaethau'r Athletau'r Byd yn Budapest.
- 20 Awst – Sbaen yn ennill Cwpan y Byd Merched FIFA, gan drechu Lloegr 1-0 yn y rownd derfynol.
- 23 Awst
- 30 Awst – Coup d'etat yn Gabon.
- 31 Awst – Mae tan mewn adeilad yn Johannesburg, De Affrica, wedi lladd 77 o bobl.
Medi
- 8 Medi
- Dechrau Cwpan Rygbi'r Byd 2023 yn Ffrainc: Ffrainc yn curo Seland Newydd 27-12 yn y gem agoriadol.
- Mae daeargryn yn taro Moroco, gan ladd 2,960 o bobl.
- 9-10 Medi – Uwchgynhadledd G20 yn Delhi.
- 10 Medi
- Mae Cymru'n curo Ffiji 32-26 yn ei gem agoriadol yng Nghwpan Rygbi'r Byd.
- Storm Daniel yn taro Libia, gan ladd o leiaf 5,000 o bobl.
- Tenis, Agored yr Unol Daleithiau: Novak Djokovic yn ennill 24ain teitl senglau Camp Lawn sy'n gyfartal a record.
- 12 Medi – Mae tan mewn adeilad yn Hanoi, Fietnam, yn lladd 54 o bobl.
- 17 Medi – Ffordd Cymru: Mae Cymru'n cyflwyno terfyn cyflymder o 20 milltir yr awr mewn ardaloedd adeiledig.
- 19 Medi – Mae Aserbaijan yn lansio ymosodiad yn erbyn Nagorno-Karabakh.
- 21 Medi – Rupert Murdoch yn cyhoeddi ei ymddeoliad.
- 23 Medi-8 Hydref – Gemau Asiaidd yn Hangzhou, Gweriniaeth Pobl Tsieina.
- 24 Medi – Cwpan Rygbi'r Byd: Cymru yn ennill buddugoliaeth fwyaf dros Awstralia, gan ennill 40-6.
- 30 Medi – Etholiad cyffredinol Slofacia.
Hydref
- 1 Hydref – Mae Ewrop yn trechu'r Unol Daleithiau yng Nghwpan Ryder.
- 5 Hydref
- 6 Hydref – Narges Mohammadi yn ennill Gwobr Heddwch Nobel.
- 7 Hydref
- Hamas yn lansio ymosodiad ar raddfa fawr o Llain Gaza i Dde Israel; mae'n ysgogi ymateb milwrol llawn gan Lluoedd Amddiffyn Israel.
- Mae tri daeargryn wedi taro Affganistan, gan ladd o leiaf 1,000 o bobl.
- 14 Hydref
- Etholiad cyffredinol Seland Newydd.
- Mae'r cynnig "Ilais brodorol" ar gyfer hawliau brodorol yn cael ei wrthod mewn refferendwm yn Awstralia.
- Cwpan Rygbi'r Byd: Yr Ariannin yn curo Cymru 29-17 yn rownd yr wyth olaf.
- 15 Hydref – Etholiad cyffredinol Gwlad Pwyl.
- 17 Hydref – Rhyfel Gaza: Ffrwydrad Ysbyty al-Ahli.
- 20 Hydref-5 Tachwedd – Gemau Pan Americanaidd yn Santiago de Chile.
- 25 Hydref – Cyflafan Lewiston, Maine.
- 27 Hydref – Rhyfel Gaza: Byddin Israel yn mynd i mewn i Llain Gaza.
- 28 Hydref – Cwpan Rygbi'r Byd: Mae De Affrica yn trechu Seland Newydd 12-11 yn rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Byd.
- 29 Hydref – Mae Gweriniaeth Twrci yn nodi ei chanmlwyddiant.
Tachwedd
- 1 Tachwedd – Mae'r Deyrnas Unedig yn cynnal cyfarfod uwchgynhadledd ar Ddeallusrwyd artiffisial.
- 2 Tachwedd – Mae'r Beatles yn rhyddhau eu can olaf, o'r enw "Now and Then".
- 3 Tachwedd – Mae daeargryn maint 5.6 yn Nepal, gan ladd o leiaf 157 o bobl.
- 5 Tachwedd – Rhyfel Gaza: Mae Lluoedd Israel wedi cyhoeddi eu bod wedi amgylchynu Dinas Gaza.
- 7 Tachwedd – Antonio Costa yn cyhoeddi ei ymddiswyddiad fel Prif Weinidog Portiwgal.
- 8 Tachwedd – Rhyfel Gaza: Mae Aelodau Senedd Cymru yn cefnogi cadoediad o 24 pleidlais i 19; mae Mark Drakeford yn un o 11 aeold Llafur i ymatal rhag y bleidlais.
- 10 Tachwedd – Mae "Now and Then" gan The Beatles yn cyrraedd brig siartiau senglau'r DU.
- 11 Tachwedd – Mae tref Grindavik yng Ngwlad yr Ia yn cael ei gwagio oherwydd folcanig sydd ar ddod.
- 13 Tachwedd – Ad-drefu cabinet y DU: Suella Braverman yn cael ei diswyddo fel Ysgrifennydd Cartref; David Cameron yn dod yn Ygrifennydd Tramor.
- 19 Tachwedd
- Awstralia yn ennill Cwpan Criced y Byd, gan drechu'r genedl letyol India yn y rownd derfynol.
- Javier Milei yn ennill etholiad arlywyddol yr Ariannin.
- 22 Tachwedd – Plaid Rhyddid Geert Wilders sy'n ennill y nifer fwyaf o seddi yn etholiad cyffredinol yr Iseldiroedd.
- 24 Tachwedd – Rhyfel Gaza: Mae cadoeliad wythnos o hyd yn dechrau gan ganiatau i lawer o wystlan Israel gael eu rhyddhau yn gyfnewid am garch arorion Palesteiniaid.
- 27 Tachwedd – Christopher Luxon yn dod yn Brif Weinidog Seland Newydd.
- 30 Tachwedd – Mae Cynhadledd Hinsawdd COP28 yn Dubai yn dechrau.
Rhagfyr
- 31 Rhagfyr
- Rasys Nos Galan[18]
- Margrethe II yn cyhoeddi ei hymwrthodiad fel brenhines Denmarc.
Diwylliant
Eisteddfod Genedlaethol
- Cadair: Alan Llwyd[19]
- Coron: Rhys Iorwerth[20]
- Medal Ryddiaith: Meleri Wyn James, "Hallt"[21]
- Medal Ddrama: Cai Llywelyn Evans, Eiliad o Ddewiniaeth[22]
- Gwobr Goffa Daniel Owen: Alun Ffred Jones[23]
Llenyddiaeth
- Gweler hefyd Llenyddiaeth yn 2023
Ffilm
Teledu
- Dal y Mellt[24]
- Drych: Y Dyn yn y Van[25]
- Steeltown Murders, yn serennu Steffan Rhodri ac Aneurin Barnard.[26]
Cerddoriaeth
Marwolaethau
Ionawr
- 1 Ionawr – Lise Nørgaard, awdures Danaidd, 105[27]
- 4 Ionawr – Fay Weldon, 91, awdures, dramodydd a ffeminist[28]
- 10 Ionawr – Cystennin II, brenin y Groegiaid, 82[29]
- 14 Ionawr – Les Barker, 75, bardd[30]
- 15 Ionawr – Victoria Chick, 86, economegydd[31]
- 25 Ionawr – J. Elwyn Hughes, 82, awdur, athro, golygydd ac ieithydd[32]
Chwefror
- 5 Chwefror
- Pervez Musharraf, 79, Arlywydd Pacistan[33]
- May Sayegh, 82, bardd, awdures ac ymgyrchwraig
- 6 Chwefror – Jane Dowling, 97, arlunydd[34]
- 8 Chwefror – Burt Bacharach, 94, cyfansoddwr caneuon[35]
- 9 Chwefror – Charlie Faulkner, 81, chwaraewr rygbi'r undeb[36]
- 12 Chwefror – Eileen Sheridan, 99, seiclwraig[37]
- 13 Chwefror
- Lalita Lajmi, 90, arlunydd[38]
- Zia Mohyeddin, 91, actor a chyflwynydd[39]
- 14 Chwefror – Christine Pritchard, 79, actores[40]
- 15 Chwefror – Raquel Welch, 82, actores[41]
- 17 Chwefror – Rebecca Blank, 67, economegydd, awdures ac academydd[42]
- 22 Chwefror – Philip Ziegler, 93, bywgraffydd a hanesydd[43]
- 26 Chwefror – Betty Boothroyd, 93, gwleidydd[44]
Mawrth
- 2 Mawrth – Wayne Shorter, 89, sacsoffonydd jazz
- 3 Mawrth – Camille Souter, 93, arlunydd
- 7 Mawrth – Lynn Seymour, 83, dawnsiwraig[45]
- 8 Mawrth – Chaim Topol, 87, actor
- 11 Mawrth – John Gruffydd Jones, 90, llenor a chemegydd[46]
- 17 Mawrth – Jorge Edwards, 91, nofelydd, beirniad llenyddol a diplomydd[47]
- 19 Mawrth – Petar Nadoveza, 80, pel-droediwr
- 20 Mawrth – Virginia Zeani, 97, cantores opera[48]
- 23 Mawrth
- Souhila Bel Bahar, 89, arlunydd
- Dafydd Hywel, 77, actor a chyfarwyddwr[49]
- 25 Mawrth – Lucinda Urrusti, 94, arlunydd[50]
- 28 Mawrth
- Ryuichi Sakamoto, 71, cerddor a chyfansoddwr[51]
- Paul O'Grady, 67, digrifwr, brenhines drag, cyflwynydd teledu ac ymgyrchydd hawliau LHDT[52]
Ebrill
- 3 Ebrill – Nigel Lawson, 91, gwleidydd, Canghellor y Trysorlys[53]
- 6 Ebrill – Nicola Heywood-Thomas, 67, darlledwraig a newyddiadurwraig[54]
- 7 Ebrill – Rachel Pollack, 77, awdures ffluglen wyddonol[55]
- 10 Ebrill – Anne Perry, 84, nofelydd[56]
- 11 Ebrill – Maya Wildevuur, 78, arlunydd[57]
- 13 Ebrill – Fonesig Mary Quant, 93, dylunydd ffasiwn[58]
- 15 Ebrill – Irma Blank, 88, arlunydd
- 23 Ebrill – Yvonne Jacquette, 88, arlunydd
- 25 Ebrill
- Harry Belafonte, 96, cerddor, canwr, actor ac ymgyrchydd hawliau sifil
- Hanna Johansen, 83, awdures
- 26 Ebrill – Adela Ringuelet, 93, seryddwraig
- 27 Ebrill – Jerry Springer, 79, darlledwr, newyddiadurwr a gwleidydd[59]
Mai
- 1 Mai – Gordon Lightfoot, cyfansoddwr a gitarydd, 84[60]
- 3 Mai – Linda Lewis, cantores, cyfansoddwraig caneuon a gitarydd, 72
- 7 Mai – Grace Bumbry, cantores opera, 86[61]
- 8 Mai – Yahne Le Toumelin, arlunydd, 99
- 10 Mai – Rolf Harris, arlunydd, cerddor, comediwr a chyflwynydd teledu, 93[62]
- 11 Mai
- Beverley Anne Holloway, gwyddonydd, 91[63]
- Shaun Pickering, peledwr, 61[64]
- 13 Mai – Sibylle Lewitscharoff, awdures, 69[65]
- 19 Mai – Martin Amis, nofelydd, 73[66]
- 24 Mai – Tina Turner, cantores ac actores, 83
- 27 Mai – Tyrone O'Sullivan, glowr, 77[67]
- 31 Mai – Ama Ata Aidoo, awdures ac academydd, 81
Mehefin
- 1 Mehefin – Margit Carstensen, 83, actores[68]
- 5 Mehefin
- Astrud Gilberto, 83, cantores a chyfansoddwraig caneuon samba a bossa nova[69]
- John Morris, Arglwydd Morris o Aberafan, 91, gwleidydd[70]
- 12 Mehefin – Silvio Berlusconi, 86, dyn busnes a gwleidydd, Prif Weinidog yr Eidal[71]
- 13 Mehefin – Cormac McCarthy, 89, nofelydd[72]
- 15 Mehefin – Glenda Jackson, 87, actores a gwleidydd[73]
- 21 Mehefin – Winnie Ewing, 93, gwleidydd, adnabyddir fel "Madame Ecosse"[74]
- 22 Mehefin – Cora Cohen, 79, arlunydd[75]
- 24 Mehefin – Margaret McDonagh, 61, gwleidydd[76]
- 29 Mehefin – Alan Arkin, 89, actor
Gorffennaf
- 1 Gorffennaf – Victoria Amelina, 37, awdures[77]
- 5 Gorffennaf – Coco Lee, 48, cantores
- 16 Gorffennaf – Jane Birkin, 76, actores a chantores
- 21 Gorffennaf
- Tony Bennett, 96, canwr
- Ann Clwyd, 86, gwleidydd
- 24 Gorffennaf – Adrian Street, 82, ymgodymwr proffesiynol[78]
- 26 Gorffennaf
- Sinead O'Connor, 56, cantores[79]
- Martin Walser, 96, awdur
- 29 Gorffennaf – Clive Rowlands, 85, chwaraewr rygbi'r undeb[80]
- 30 Gorffennaf – Paul Reubens, 70, actor a digrifwr
Awst
- 7 Awst – Gillian Bibby, 77, cyfansoddwraig, pianydd, awdures ac athrawes
- 8 Awst – Sixto Rodriguez, 81, canwr
- 13 Awst – Patricia Bredin, 88, actores a chantores
- 14 Awst – Brynley F. Roberts, 92, ysgolhaig a beirniad llenyddol[81]
- 16 Awst
- Renata Scotto, 89, soprano
- Syr Michael Parkinson, 88, cyflwynydd teledu[82]
- 19 Awst – John Warnock, 82, dyfeisiwr
- 20 Awst
- Isabel Crook, 107, athrawes ac anthropolegydd[83]
- R. Alun Evans, 86, darlledwr, awdur a gweinidog
- 23 Awst – Yevgeny Prigozhin, 62, hurfilwr
- 24 Awst – Barbara Rossi, 82, arlunydd
Medi
- 1 Medi – Jimmy Buffett, 76, canwr
- 6 Medi – Gareth Miles, 85, dramodydd ac ymgyrchydd
- 12 Medi – Jean Boht, 91, actores
- 22 Medi – Giorgio Napolitano, 98, Arlywydd yr Eidal
- 24 Medi – Keith Baxter, 90, actor[84]
- 26 Medi – Glanmor Griffiths, 83, gweinyddwr ym myd rygbi
- 27 Medi
- Pat Arrowsmith, 93, ymgyrchydd heddwch
- Syr Michael Gambon, 82, actor
- 29 Medi – Dianne Feinstein, 90, gwleidydd
Hydref
- 7 Hydref
- Marouf al-Bakhit, 76, gwleidydd
- Anthony Holden, 76, newyddiadurwr
- 8 Hydref – Nina Matviienko, 75, cantores
- 14 Hydref – Piper Laurie, 91, actores
- 16 Hydref
- Martti Ahtisaari, 86, Arlywydd y Ffindir
- Dyfed Elis-Gruffydd, 80, daearegwr, darlithydd ac awdur
- 21 Hydref – Syr Bobby Charlton, 86, pel-droediwr
- 22 Hydref – Ida Applebroog, 93, arlunydd
- 28 Hydref – Matthew Perry, 54, actor
Tachwedd
- 5 Tachwedd – Ryland Davies, 80, canwr opera[85]
- 16 Tachwedd – A. S. Byatt (Fonesig Antonia Susan Duffy), 87, nofelydd a bardd[86]
- 19 Tachwedd – Rosalynn Carter, 96, Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau[87]
- 20 Tachwedd – Annabel Giles, 64, actores a chyflwynydd radio a theledu
- 27 Tachwedd – Helen Lucas, 92, arlunydd
- 28 Tachwedd – Allan Rogers, 91, gwleidydd
- 29 Tachwedd
- Carol Byrne Jones, 80, athrawes, darlithydd a bardd[88]
- Henry Kissinger, 100, Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau[89]
- 30 Tachwedd
- Alistair Darling, 70, gwleidydd, Canghellor y Trysorlys
- Shane MacGowan, 65, canwr
Rhagfyr
- 1 Rhagfyr
- Brigit Forsyth, 83, actores
- Sandra Day O'Connor, 93, cyfreithwraig
- 3 Rhagfyr – Glenys Kinnock, 79, gwleidydd[90]
- 4 Rhagfyr – Juanita Castro, 90, ymgyrchydd
- 6 Rhagfyr – Barbara Levick, 92, hanesydd ac epigraffydd
- 7 Rhagfyr
- Benjamin Zephaniah, 65, bardd, actor ac ymgyrchydd
- Jacqueline Mesmaeker, 94, arlunydd
- 8 Rhagfyr – Ryan O'Neal, 82, actor
- 10 Rhagfyr – Shirley Anne Field, 87, actores
- 16 Rhagfyr – Nawaf Al-Ahmad Al-Jaber Al-Sabah, 86, Uchelwr Coweit
- 18 Rhagfyr – Brian Price, 86, chwaraewr rygbi'r undeb[91]
- 19 Rhagfyr – K.M. Peyton, 94, awdures[92]
- 27 Rhagfyr – Jacques Delors, 98, gwleidydd
- 30 Rhagfyr
- Tom Wilkinson, 75, actor[93]
- John Pilger, 84, newyddiadurwr a sgriptiwr
Gwobrau Nobel
- Ffiseg: Pierre Agostini, Ferenc Krausz & Anne L'Huillier[94]
- Cemeg: Moungi G. Bawendi, Louis E. Brus & Alexei I. Ekimov[95]
- Meddygaeth: Katalin Karikó & Drew Weissman[96]
- Llenyddiaeth: Jon Fosse[97]
- Economeg: Claudia Goldin
- Heddwch: Narges Mohammadi
Cyfeiriadau
🔥 Top keywords: XXX: Return of Xander CageHafanArbennig:SearchCarles PuigdemontWicipedia:Cysylltwch â niMarie AntoinetteXxx: State of The UnionDisturbiaDelwedd:XHamster logo.svgWicipedia:Porth y GymunedWicipedia:Ynglŷn â WicipediaFfilm llawn cyffroEagle EyeArbennig:RecentChangesKathleen Mary FerrierWicipedia:CymorthUnol Daleithiau AmericaYr Ail Ryfel BydDwylo Dros y MôrDriggThe Salton SeaWicipedia:CyflwyniadRhestr llynnoedd CymruDelwedd:XXx REACTIVADO Conferencia de Prensa.jpgWicipedia:Y CaffiCymruMichael D. JonesSimon BowerWicipedia:Gwadiad CyffredinolWikipediaSpecial:SearchYasser ArafatDefnyddiwr:Stefanik/Pwll TywodCaethwasiaethCymraegY Weithred (ffilm)Bartholomew RobertsWicipedia:CymraegCategori:Pentrefi Dyfnaint