Twrci (aderyn)

genws o adar
Twrci
Amrediad amseryddol: Mïosen cynnar hyd heddiw
Dau dwrci ym Mharc Gwledig Maesglas; 2013
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Animalia
Ffylwm:Chordata
Dosbarth:Aves
Urdd:Galliformes
Teulu:Phasianidae
Is-deulu:Meleagridinae
Genws:Meleagris
Linnaeus, 1758
Rhywogaeth

M. gallopavo
M. ocellata

Ŵy y twrci gwyllt, Meleagris gallopavo

Aderyn eitha mawr ydy'r twrci sy'n perthyn i deulu'r Phasianidae sy'n deillio o'r Americas yn wreiddiol. Mae'r rhywogaeth a elwir yn ‘dwrci gwyllt’ (Meleagris gallopavo) yn wreiddiol o fforestydd Gogledd America. Mae'r math dof yn perthyn o bell iddo. Daw'r trydydd math (neu rywogaeth) - y twrci llygedynnog (Meleagris ocellata) o'r Benrhyn Yucatán.[1]

Hanes

Camddehonglodd yr Ewropead cyntaf i weld twrci yn America yr aderyn fel math o iâr gini (Numidiae). Arferid galw'r iâr gini yn Saesneg (ac ar lafar) fel turkey fowl, turkey hen a turkey cock oherwydd mai o wlad Twrci yr arferid eu mewnforio i Ewrop a dyma darddiad y gair.[2][3][4] Yn 1550 anrhydeddwyd y fforiwr Saesneg William Strickland gydag arfbais fel gwobr am fewnforio'r twrci i Brydain am y tro cyntaf; wrth gwrs, roedd llun twrci ar yr arfbais.[5]

Ffosiliau o ddyddiau a fu

Twrci llygedynnog gwryw, Meleagris ocellata

Mae sawl rhywogaeth arall o'r twrci wedi'i ganfod ers cyfnod cynnar y Mïosen (c. 23 mya) gyda'r genws Rhegminornis a'r Proagriocharis bellach yn ddiflanedig. Math tebyg i'r Meleagris (o ddiwedd y cyfnod Mïosen) ydy'r Proagriocharis ac a ddarganfuwyd yn Westmoreland County, Virginia.[1] Diflanodd y Meleagris californica,[6] yn eitha diweddar - yn sicr - arferid ei hela gan bobl.[7] A chredir iddo ddiflannu oherwydd newid yn yr hinsawdd ar ddiwedd Oes yr Iâ diwethaf ac oherwydd gorhela.[8]

Nadolig!

Mae'n draddodiad ers tua hanner canrif yng Nghymru a rhai gwledydd eraill ychydig cyn hynny i fwyta'r twrci ar ddydd Nadolig.

Gweler hefyd

  • Ifan Twrci Tennau

Cyfeiriadau