Y Sefydliad dros Gydweithio Islamaidd

corf ryngwladol

Mae'r Sefydliad dros Gydweithio Islamaidd (Arabeg: منظمة التعاون الاسلامي); (Ffrangeg: Coopération Islamique; Saesneg: Organisation of Islamic Cooperation) yn sefydliad rhyngwladol sy'n grwpio gwladwriaethau'r crefydd Mwslemaidd. Crewyd y Sefydliad yn 1969 yn ystod Cynhadledd Rabat ac a ffurfiolodd ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Mae pencadlys y Sefydliad yn Jeddah, prifddinas Arabia Sawdi, ar arfordir Sawdi Arabia gyda'r Môr Coch. Mae ganddi 57 o aelodau, gan gynnwys cynrychiolaeth Awdurdod Palesteina. Ar 28 Mehefin 2011 newidiwyd yr enw o'r un wreiddiol sef "Sefydliad y Gynhadledd Islamaidd" (Arabeg: منظمة المؤتمر الإسلامي; Ffrangeg: Organisation de la Conférence Islamique; Saesneg: Organization of the Islamic Conference).

Mae ei weithredoedd yn gyfyngedig i'r gweithgarwch cydweithredol ymhlith ei aelodau, yn enwedig yn y frwydr yn erbyn imperialaeth, neocoloniaeth a thros rhyddid Palestina. Yn hanesyddol cynhaliwyd nifer o gyngherddau a gyfrannodd at ei ddatblygiad: Lahore (1974), Mecca (1981), Casablanca (1984), Kuwait (1987), Dakar (1991). Mae ei gwaddol yn llai na rhai'r Gynghrair Arabaidd.

Strwythur mewnol

* Uwchgynhadledd Penaethiaid Gwladol: Yn cyfarwyddo'r sefydliad trwy gyfarfodydd rheolaidd bob tair blynedd.
* Cynhadledd Gweinidogion Tramor: Maent yn cyfarfod mewn sesiynau cyffredin blynyddol ac maent yn gyfrifol am weithredu polisïau ar gyfer datblygu'r sefydliad.
* Ysgrifenyddiaeth Gyffredinol: Corff gweithredol wedi'i ethol am bedair blynedd a'i gynorthwyo gan bedwar dirprwy.

Ysgrifenyddion Cyffredinol

Ysgrifenyddion Cyffredinol y Sefydliad dros Gydweithio Islamaidd[1]
RhifGwladDechrauGorffen
1Tunku Abdul Rahman  Mali19711973
2Hassan Al-Touhami  Yr Aifft19741975
3Amadou Karim Gaye  Senegal19751979
4Habib Chatty  Tunisia19791984
5Syed Sharifuddin Pirzada  Pacistan19851988
6Hamid Algabid]]  Nigeria19891996
7Azzeddine Laraki  Morocco19972000
8Abdelouahed Belkeziz  Morocco20012004
9Ekmeleddin İhsanoğlu  Twrci20042013
10Iyad bin Amin Madani  Sawdi Arabia2014Actualmente

Aelodaeth

Aelod-wladwriaethau - gwyrdd; gwladwriaethau arsylwi - coch; gwladwriaethau wedi ei blocio - glas

Rhestr y 57 gwladwriaeth sy'n aelod o'r Sefydliad:

Affrica

Asia

Ewrop

De America

Cyfeiriadau

Nodyn:Listaref

Dolenni allanol