Adele (cantores)
Cantores a chyfansoddwr Seisnig ydy Adele Laurie Blue Adkins[1] (ganwyd 5 Mai 1988), sy'n adnabyddus fel Adele. Cynigwyd cytundeb recordio i Adele gyda XL Recordings ar ôl iddynt ddod o hyd i'w phrawf-fideo a bostiwyd gan ffrind iddo ar MySpace yn 2006. Y flwyddyn nesaf, enillodd y wobr "Critics' Choice" yn y Brit Awards a'r Sound of 2008 gan y BBC. Rhyddhawyd ei halbwm gyntaf, 19, yn 2008 a chafodd hi lawer o lwyddiant beirniadol a masnachol. Ardystir yr albwm yn bedair gwaith platinwm yn y DU, a dwywaith platinwm yn y UDA.[2][3] Cafodd ei gyrfa yn yr UDA wthiad ymhellach gan iddi berfformio ar Saturday Night Live yn 2008. Yng Ngwobrau'r Grammy 2009, cafodd Adele wobrau ar gyfer Artist Gorau Newydd a Pherfformiad Lleisiol Pop Benyw Gorau.[4][5]
Adele | |
---|---|
Ffugenw | Adele |
Ganwyd | Adele Laurie Blue Adkins 5 Mai 1988 Tottenham |
Label recordio | XL Recordings, Columbia Records, Sony Music Entertainment |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, canwr, gitarydd, pianydd, drymiwr, cerddor, artist recordio, cynhyrchydd gweithredol |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, blue-eyed soul, rhythm a blŵs, cerddoriaeth yr enaid, jazz, cerddoriaeth roc |
Math o lais | mezzo-soprano |
Priod | Simon Konecki |
Plant | Angelo Adkins |
Gwobr/au | MBE, Gwobr Gammy am yr Artist Newydd Gorau, Grammy Award for Best Pop Solo Performance, Grammy Award for Record of the Year, Gwobr yr Academi am y Gân Wreiddiol Orau, Golden Globe Award for Best Original Song, Gwobr Grammy am Albwm y Flwyddyn, Brit Award for British Female Solo Artist, Gwobr Grammy am Berfformiad Lleisiol Pop Benywaidd Gorau, Gwobr Grammy am Albwm y Flwyddyn, Grammy Award for Best Pop Vocal Album, Gwobr Grammy am y Fideo Cerdd Gora, Grammy Award for Song of the Year, Grammy Award for Best Pop Solo Performance, Grammy Award for Best Song Written for Visual Media, Grammy Award for Best Pop Vocal Album, Grammy Award for Record of the Year, Grammy Award for Song of the Year, Grammy Award for Best Pop Solo Performance, Premios Odeón, Gwobr Time 100, Broadcast Film Critics Association Award for Best Song |
Gwefan | https://www.adele.com |
llofnod | |
Bywyd cynnar
Ganwyd Adele yn Tottenham, Llundain, i fam Seisnig, Penny Adkins, a thad Cymreig, Marc Evans.[6] Gadawodd Evans y teulu pan oedd Adele yn ddwy mlwydd oed, gan adael i'w mam ei magu.[7][8] Cychwynodd ganu yn bedair mlwydd oed a mae'n honni ei bod wedi gwirioni gyda lleisiau.[9][10] Erbyn 1997 roedd mam Adele wedi dod i hyd i waith fel gwneuthrwr dodrefn a threfnydd gweithgareddau i oedolion, a symudodd hi ac Adele i Brighton.[11]
Yn 1999 symudodd hi a'i mam nôl i Lundain; yn gyntaf i Brixton, yna i'r ardal gyfagos West Norwood yn ne Llundain, a ddaeth yn destun i'w chân gyntaf “Hometown Glory”.[12] Treuliodd lawer o amser yn ei llencyndod yn Brockwell Park lle byddai'n chwarae'r gitâr a chanu i ffrindiau, ac mae'n dweud yr hanes yn ei chân 2015 “Million Years Ago”. Mae'n datgan, “It has quite monumental moments of my life that I’ve spent there, and I drove past it [in 2015] and I just literally burst into tears. I really missed it.”[13] Graddiodd Adele o ysgol BRIT ar gyfer Celfyddydau Perfformio a Technoleg yn Mai 2006,[14] lle roedd yn gyd-ddisgybl i Leona Lewis a Jessie J.[1][15] Mae Adele yn cydnabod yr ysgol am feithrin ei thalent[16] er ar y pryd, roedd ganddi mwy o ddiddordeb mynd i fyd A&R ac yn gobeithio lansio gyrfaoedd pobl eraill.[1]
Bywyd personol
Cychwynodd Adele garu gyda'r entrepreneur elusennol Simon Konecki yn Haf 2011.[17] Ym Mehefin 2012, cyhoeddodd Adele ei bod hi a Konecki yn disgwyl babi.[18][19] Ganwyd eu mab Angelo ar 19 Hydref 2012.[20]
Yn gynnar yn 2017, roedd straeon tabloid yn dyfalu bod y cwpl wedi priodi yn gyfrinachol wedi i'r ddau gael eu gweld yn gwisgo modrwyon cyfatebol.[21] Wrth dderbyn ei gwobr Grammy ar gyfer Albwm y Flwyddyn, cadarnhaodd Adele ei phriodas drwy gyfeirio at Konecki fel ei gŵr a diolch iddo.[22] Cadarnahodd hyn eto mewn cyngerdd yn Brisbane Awstralia drwy ddatgan i'r gynulleidfa "I'm married now".[23]
Yn Ebrill 2019, gwnaed datganiad i'r Associated Press gan gynrychiolydd i Adele yn dweud ei bod hi a Konecki wedi gwahanu ar ôl saith mlynedd gyda'i gilydd, ond byddent yn parhau i fagu eu mab gyda'i gilydd.[24][25] Ar 13 Medi 2019 daeth y newyddion fod Adele wedi gofyn am ysgariad o Konecki yn yr Unol Daleithiau.[26]