Aelod-wladwriaethau NATO

Cynghrair milwrol sydd yn cynnwys 32 o aelod-wladwriaethau o Ogledd America ac Ewrop yw Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO). Y ddwy aelod o Ogledd America yw Canada a'r Unol Daleithiau. Mae gan bob un o'r aelodau luoedd milwrol, er nad oes gan Wlad yr Iâ fyddin arferol (ond mae ganddi gwylwyr y glannau milwrol ac uned fechan o filwyr ar gyfer ymgyrchoedd i gadw'r heddwch). Mae gan dri o aelodau NATO arfau niwclear: Ffrainc, y Deyrnas Unedig, a'r Unol Daleithiau.

Aelod-wladwriaethau NATO
Aelodau NATO (mewn glas).
Enghraifft o'r canlynolcollective Edit this on Wikidata
Mathaelod-wladwriaeth Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.nato.int/cps/en/natohq/nato_countries.htm Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llinell amser o ymaelodaethau gwledydd NATO. Dynodir gwledydd oedd yn aelodau NATO yn barod ar y pryd gan las tywyll. Dynodir aelodau newydd gan las golau.

Aelod-wladwriaethau yn ôl dyddiad eu hymaelodaeth

DyddiadGwladEhangiadNodiadau
4 Ebrill 1949  Gwlad BelgSefydlwyr
 Canada
 DenmarcNid yw aelodaeth Denmarc o NATO yn cynnwys Føroyar na'r Ynys Las, yn wahanol i'w haelodaeth yn yr Undeb Ewropeaidd.
 FfraincGadawodd Ffrainc reolaeth filwrol gyfunol NATO ym 1966 i ddilyn system amddiffyn annibynnol ond dychwelodd at aelodaeth lawn ar 4 Ebrill 2009.
 Gwlad yr IâYmunodd Gwlad yr Iâ, yr unig aelod sydd heb fyddin sefydlog, ar yr amod ni fydd rhaid iddi sefydlu un. Er hyn, roedd yn aelod pwysig oherwydd ei leoliad daearyddol strategol yng Nghefnfor yr Iwerydd. Mae ganddi wylwyr y glannau ac yn ddiweddar llu cadw'r heddwch gwirfoddol, a hyfforddir yn Norwy ar gyfer NATO.
 Yr Eidal
 Lwcsembwrg
 Yr Iseldiroedd
 Norwy
 Portiwgal
 Y Deyrnas Unedig
 Unol Daleithiau America
18 Chwefror 1952  GroegCyntafTynodd Gwlad Groeg ei luoedd yn ôl o strwythur rheolaeth filwrol NATO rhwng 1974 a 1980 o ganlyniad i densiynau rhyngddi a Thwrci yn sgîl goresgyniad Cyprus gan Dwrci ym 1974.
 Twrci
9 Mai 1955  Yr AlmaenAilYmaelododd fel Gorllewin yr Almaen; adunodd â Saarland ym 1957 a thiriogaethau Berlin a'r cyn-Weriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (DDR) ar 3 Hydref 1990. Roedd y DDR yn aelod o Gytundeb Warsaw, 1956-1990.
30 Mai 1982  SbaenTrydydd
12 Mawrth 1999  TsieciaPedweryddAelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, fel rhan o Tsiecoslofacia.
 HwngariAelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991.
 Gwlad PwylAelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991.
29 Mawrth 2004  BwlgariaPumedAelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991.
 EstoniaAelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, a rhan o'r Undeb Sofietaidd.
 LatfiaAelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, a rhan o'r Undeb Sofietaidd.
 LithwaniaAelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, a rhan o'r Undeb Sofietaidd.
 RwmaniaAelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991.
 SlofaciaAelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, fel rhan o Tsiecoslofacia.
 SlofeniaCyn-weriniaeth Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia, 1945-1991 (Amhleidiol)
1 Ebrill 2009  AlbaniaChwechedAelod Cytundeb Warsaw, 1955-1968.
 CroatiaCyn-weriniaeth Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia, 1945-1991 (Amhleidiol)
5 Mehefin 2017  MontenegroSeithfedCyn-weriniaeth Iwgoslafia
27 Mawrth 2020  Gogledd MacedoniaWythfedCyn-weriniaeth Iwgoslafia
4 Ebrill 2023  Y FfindirNawfed
7 Mawrth 2024  SwedenDegfed

Gweler hefyd