Camdrin plant yn rhywiol
Ffurf ar gamdrin plant yw camdrin plant yn rhywiol pan mae oedolyn neu berson yn ei arddegau yn defnyddio plentyn er cyffroad rhywiol.[1][2] Mae ffurfiau ar gamdrin plant yn rhywiol yn cynnwys rhoi pwysau ar blentyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol (boed y plentyn yn gwneud hynny ai peidio), dinoethiad anweddus (sef dangos yr organau cenhedlu, tethau'r fenyw, ayyb.) o flaen plentyn er boddhad rhywiol neu i ddychryn neu i geisio sefydlu perthynas â'r plentyn er mwyn ei gamdrin (grooming), gweithgareddau rhywiol corfforol gyda phlentyn, neu ddefnyddio plentyn i greu pornograffi plant.[1][3][4]
Rhyw a'r Gyfraith |
---|
Materion Cymdeithasol |
Hawliau · Moeseg |
Pornograffi · Sensoriaeth |
Hilgymysgedd |
Priodas hoyw · Homoffobia |
Ardal golau coch |
Oed cydsynio |
Trais · Caethweisiaeth |
Moesoldeb gyhoeddus · Normiau |
Troseddau penodol |
Gall amrywio yn ôl gwlad |
Godineb · Llosgach |
Llithio |
Cyfathrach rywiol gwyrdroedig |
Sodomiaeth · Sodomiaeth · Söoffilia |
Trosglwyddo troseddol o HIV |
Enwaedu |
Aflonyddu rhywiol · Anweddusdra cyhoeddus |
Adran 63 y DU (2008) · Pornograffi o blant |
Ymosodiad rywiol · Treisio · Trais statudol |
Camdrin rhywiol (Plant) |
Puteindra a Phimpio |
Gall effeithiau camdrin plant yn rhywiol gynnwys iselder,[5] anhwylder straen wedi trawma,[6] gorbryder,[7] tueddiad i ragor o fictimeiddio mewn oedolaeth,[8] a niwed corfforol i'r plentyn, ymhlith problemau eraill.[9] Mae camdriniaeth rywiol gan aelod o'r teulu yn llosgach, a gall achosi trawma seicolegol mwy ddifrifol a hir-dymor, yn enwedig mewn achos o losgach gan riant.[10]
Amcangyfrifir cyffredinrwydd byd-eang camdrin plant yn rhywiol yn 19.7% i fenywod a 7.9% i wrywod, yn ôl astudiaeth o 2009 a gyhoeddwyd yn Clinical Psychology Review gyda gwybodaeth o 65 o astudiaethau mewn 22 o wledydd. Yn ôl y data sydd ar gael, Affrica sydd â'r gyfradd cyffredinrwydd uchaf o gamdrin plant yn rhywiol (34.4%), yn bennaf oherwydd cyfraddau uchel yn Ne Affrica; Ewrop sydd â'r gyfradd cyffredinrwydd isaf (9.2%); mae gan yr Amerig ac Asia cyfraddau cyffredinrwydd rhwng 10.1% a 23.9%.[11] Yn y gorffennol, cafodd 15% i 25% o fenywod a 5% i 15% o ddynion yng Ngogledd America eu camdrin yn rhywiol pan oeddynt yn blant.[12][13][14] Mae'r mwyafrif o gamdrinwyr yn adnabod eu dioddefwyr; mae tua 30% yn aelod o deulu'r plentyn, gan amlaf brodyr, tadau, ewythrod neu gefndryd; mae tua 60% yn gyfeillion i'r teulu, gwarchodwyr, cymdogion, ayyb.; ac mae tua 10% yn ddieithr i'r plentyn.[12] Dynion sy'n gyfriol am y mwyafrif o'r gamdriniaeth; mae menywod yn cyflawni 14% i 40% o'r achosion a riportiwyd yn erbyn bechgyn a 6% o'r achosion a riportiwyd yn erbyn merched.[12][13][15] Pedoffiliaid yw'r mwyafrif o droseddwyr sy'n camdrin plant cyn y glasoed yn rhywiol,[16][17] ond nid yw rhai camdrinwyr yn bodloni'r safonau clinigol am ddiagnosis o bedoffilia.[18][19]
Yn gyfreithiol, term mantell yw "camdrin plant yn rhywiol" sy'n disgrifio tramgwyddau troseddol a sifil pan mae oedolyn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol gyda phlentyn dan oed neu yn ecsbloetio plentyn dan oed er boddhad rhywiol.[4][20] Yn ôl y Gymdeithas Seiciatrig Americanaidd "ni all plant gydsynio i weithgareddau rhywiol gydag oedolion", ac "mae oedolyn sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol gyda phlentyn yn weithred droseddol ac anfoesol, ni all byth gael ei hystyried yn ymddygiad normal neu'n dderbyniol gan gymdeithas".[21]
Gweler hefyd
- Camdrin plant yn rhywiol yn yr Eglwys Gatholig
- Jimmy Savile
- Sgandal camdrin plant yng Ngogledd Cymru
Cyfeiriadau
Darllen pellach
- Lew, Mike (2004). Victims No Longer (Second Edition) : The Classic Guide for Men Recovering from Sexual Child Abuse. Perennial Currents. ISBN 0-06-053026-X.
- Cynthia Crosson-Tower (2008). Understanding child abuse and neglect. Boston: Pearson/Allyn & Bacon. ISBN 0-205-50326-8.
- Asa Don Brown (2009). Posttraumatic stress disorder in childhood. New Orleans: Family and Marriage Counseling, FMC. http://family-marriage-counseling.com/mentalhealth/posttraumatic-stress-disorder-childhood.htm.
- Lascaratos, J; Ascaratos J; Poulakou-Rebelakou, E (2000). "Child Sexual abuse: Historical cases in the Byzantine Empire (324–1453 A.D.)". Child Abuse& Neglect 24 (8): 1085–1090. doi:10.1016/S0145-2134(00)00156-3.
- Durkin, KF; Clifton DB (1999). "Propagandizing pederasty: A thematic analysis of the on-line exculpatory accounts of unrepentant pedophiles". Deviant Behavior 20 (2): 103–127. doi:10.1080/016396299266524.
- Zimring, Franklin E. (2009). An American Travesty: Legal Responses to Adolescent Sexual Offending. University of Chicago Press. ISBN 978-0-226-98358-5.