Clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint

Clefyd rhwystrol yr ysgyfaint a nodir gan ddiffyg parhaol o lif aer i'r ysgyfaint yw clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD).[1] Mae'n tueddu i waethygu dros amser. Y prif symptomau yw diffyg anadl, peswch, a chrachboer (spwtwm).[2] Yr afiechyd hwn sydd gan y mwyafrif o bobl gyda broncitis cronig.[3]

Chronic obstructive pulmonary disease
Dosbarthiad ac adnoddau allanol

Ysgyfant sy'n dangos emffysema canol-labedynnol sy'n briodol i ysmygu. Gwelir nifer o dyllau llawn cramennau o garbon du.
ICD-10 J40.–J44., J47.
ICD-9 490492, 494496
OMIM 606963
DiseasesDB 2672
MedlinePlus 000091
eMedicine med/373 emerg/99
MeSH C08.381.495.389

Ysmygu tybaco yw achos mwyaf gyffredin COPD, ac mae nifer o ffactorau eraill megis llygredd aer a geneteg yn chwarae rhan fach.[4] Yn y byd datblygol, un o ffynonellau cyffredin llygredd aer yw tanau ar gyfer coginio a gwres ond heb ddigon o awyru. Os oes gormodedd o'r achosion hyn ar raddfa hir-dymor, achosir llid yn yr ysgyfaint gan gulháu'r llwybrau aer bychain a distrywio meinwe'r ysgyfaint, afiechyd a elwir yn emffysema.[5] Gwneir diagnosis ar sail diffyg llif aer yn ôl profion swyddogaeth yr ysgyfaint.[6] Yn wahanol i asthma, nid yw'r diffyg llif aer yn gwella'n sylweddol o ganlyniad i feddyginiaeth.

Gellir atal COPD drwy leihau'r achosion. Mae hyn yn cynnwys ymdrechion i ostwng cyfraddau ysmygu ac i wella safon yr awyr yn y cartref ac yn yr awyr agored. Ymhlith triniaethau ar gyfer COPD mae rhoi'r gorau i ysmygu, brechiadau, adfer yr ysgyfaint, ac yn aml broncoledyddion a steroidau a anadlir. Mae therapi ocsigen hir-dymor neu trawsblaniad ysgyfaint o fudd i rai cleifion.[5] Os oes cyfnod o waethygu difrifol, mae'n bosib bydd angen mwy o feddyginiaeth a thriniaeth yn yr ysbyty.

Mae COPD yn effeithio ar 329 miliwn o bobl, sef bron i 5% o boblogaeth y byd.[7] Yn 2013 achosodd 2.9 miliwn o farwolaethau, cynnydd ar 2.4 miliwn o farwolaethau ym 1990.[8] Disgwylir i'r nifer o farwolaethau gynyddu o ganlyniad i gyfraddau uwch o ysmygu a phoblogaethau sy'n heneiddio mewn nifer o wledydd.[9] Amcangyfrifir i'r clefyd gostio US$2.1 triliwn i economi'r byd yn 2010.[10]

Cyfeiriadau

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: