Fitamin

Cyfansoddyn organig yw fitamin, sydd yn angenrheidiol ar lawer o organebau byw. Fel arfer mae'r organeb yn derbyn y fitamin drwy ei ddiet ond mae rhai eithriadau megis fitamin D sy'n dod o belydrau is-goch yr haul ac yn cael ei greu yn y croen.

Fitamin
Enghraifft o'r canlynolgroup of chemical entities Edit this on Wikidata
Mathcyfansoddyn organig, micronutrient, nutrient Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebantivitamin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dosberthir fitaminau yn ôl yr hyn maen nhw'n ei wneud (eu gweithgaredd cemegol a biolegol yn hytrach na sut maen nhw wedi cael eu creu (hy eu gwneuthuriad strwythurol).

Mae dau fath o fitaminau: y rhai sy'n hydoddi mewn dŵr a'r rhai hynny sy'n hydoddi mewn olew.

Ei bwrpas

Mae llawer o effeithiau biocemegol i fitaminau yn y corff, a gallent gael effaith ar: hormonau (e.e. fitamin D), gwrthocsidant (e.e. fitamin E) a rheolwyr celloedd a datblygiad meinwe'r corff. Mae teulu fitaminau B yn rhagflaenu ensymau a chydensymau ('coenzymes') sy'n gweithio fel catalyddion y metaboledd. Yr adeg hon, maent yn clymu eu hunain yn sownd i'r ensymau a chânt eu galw yn gwrpiau prosthetig e.e. biotin, sy'n cynorthwyo ensymau i greu 'fatty acids' .

Hanes

Roedd yr hen Eifftiaid yn deall gwerth bwyta iau er mwyn gwella rhai afiechyd e.e. dallineb nos (nyctalopia); erbyn hyn fe wyddom mai diffyg fitamin A yw'r rheswm. Roedd fforwyr a morwyr y 17g hefyd yn deall pwysigrwydd ffrwythau ffres i gadw'r clefri poeth (neu 'sgyrfi') i ffwrdd; diffyg fitamin C oedd y tu ôl i'r cwbwl.

Blwyddyn eu darganfod a'u tarddiad
Blwyddyn
ei darganfod
FitaminTarddiad
1909Fitamin A (retinol)olew penfras
1912Fitamin B1 (thiamin)reis
1912Fitamin C (asid ascorbig)lemonau
1918Fitamin D (calciferol)olew penfras
1920Fitamin B2 (ribofflafin)wyau ieir
1922Fitamin E (tocofferol)gwenith, cosmetic and iau
1926Fitamin B12 (cobalamin)iau
1929Fitamin Kalfalfa
1931Fitamin B5 (asid pantothenig)iau
1931Fitamin B7 (biotin)iau
1934Fitamin B6 (pyridocsin)reis
1936Fitamin B3 (niacin)iau
1941Fitamin B9 (asid ffolig)iau
Roedd yr hen Eifftiaid yn deall gwerth bwyta iau (neu afu (yng nghefn y llun) er mwyn gwella rhai afiechyd e.e. dallineb nos (nyctalopia).

Gweler hefyd

Cyfeiriadau