Diffyg maeth

afiechyd dynol

Pan na fwyteir digon o faetholion bydd y corff yn dioddef o ddiffyg maeth. Mae'r gair malnutrition yn y Saesneg hefyd yn cynnwys adegau pan y bwyteir gormod o faetholion; yn y Gymraeg, fodd bynnag, defnyddir y gair gor-faeth am y stad hwn. Mae'r erthygl hon yn cynnwys diffyg maeth a gor-faeth.[1]

Diffyg maeth
Rhuban oren: y symbol rhyngwladol
o ddiffyg maeth.
Dosbarthiad ac adnoddau allanol
Arbenigeddendocrinoleg, intensive care medicine, maethiad
ICD-10E40.{{{3}}}-E46.{{{3}}}
ICD-9-CM263.9
MedlinePlus000404
eMedicineped/1360
Patient UKDiffyg maeth
MeSHD044342

Gall unrhyw un o'r elfennau hanfodol fod ar goll: caloriau, protein, carbohydrad, fitaminau neu fwynau.[1][2]

Pan fo merch feichiog yn dioddef o ddiffyg maeth, gall effeithio'r babi yn y groth, a hynny'n barhaol: yn ffisegol neu'n broblemau meddyliol. Mae hyn hefyd yr un mor wir gyda babanod dan ddwy oed, lle'r effeir eu datblygiad yn barhaol.[1] Gelwir diffyg maeth eithafol yn newyn, lle mae'r symtomau'n cynnwys: corff hir, main gyda diffyg ynni, a choesau a bol wedi chwyddo.[1][2] Un o'r sgil effeithiau, neu ganlyniad newyn a diffyg maeth yw anallu'r corff i ymladd yn erbyn haint a bydd y claf yn aml yn teimlo'r oerfel yn waeth nag arfer, a hyd yn oed hypothermia.

Mae symtomau diffyg micro-faetholion yn dibynnu ar ba ficro-faetholion sy'n ddiffygiol. yn y corff.[2]

Geirdarddiad

Ystyr y gair "maeth" yw "Cynhaliaeth, lluniaeth, porthiant, ymborth neu fwyd".[3] Cofnodir y gair yn Historia Gruffud vab Kenan) (HGK 10) yn y C13: Gruffud eu car ac eu mab maeth. Mae'r gair hefyd yn digwydd fel: "tad maeth", "chwaer faeth" ac yn y gair "mamaeth".

Achos

Mae diffyg maeth yn digwydd fel arfer gan nad oes digon o fwyd ar gael.[4] Gall hyn fod o ganlyniad i bris uchel y bwyd a werthir, a thlodi.[1][4] Mae peidio a rhoi llaeth o'r fron hefyd yn medru cyfrannu at y broblem, ond gall heintiau hefyd achosi diffyg maeth e.e. gastroenteritis, niwmonia, malaria a brech goch - sy'n cynyddu'r angen am fwy o faetholion.[4] Gellir dosbarthu diffyg maeth yn ddau wahanol fath: diffyg protein a diffyg yn y diet.[5]

Marwolaethau o ddiffyg maeth. Dangosir nifer y marwolaethau am bob mil o bobl, yn 2012.

Mae marasmws (diffyg protein a chaloriau) a kwashiorkor (diffyg protein) yn enghreifftiau o'r cyntaf.[2] Mae diffyg micro-maetholion yn cynnwys diffyg haearn, iodin a fitamin A yn y diet.[2] Yn y 'gwledydd datblygedig', mae gor-fwyta a gor-faeth yn digwydd oddi fewn i'r un cymunedau lle ceir diffyg maeth. Un arall o achosion diffyg maeth yw Anorecsia nerfosa.[6][7][8]

Ledled y byd amcangyfrifir fod anorecsia'n effeithio oddeutu dwy filiwn o bobl (amcangyfrifon 2013).[9] Hynny yw, mae'n digwydd mewn 0.9% - 4.3% o ferched a 0.2% i 0.3% o ddynion gwledydd y Gorllewin, rywbryd yn ystod eu bywydau.[10] Mae tua 0.4% o ferched wedi'u heffeithio ar unrhyw flwyddyn. Mae hyn yn ddeg gwaith yn fwy na gyda dynion.[10] Mae cyfraddau gwledydd tlota'r byd yn fwy niwlog, heb ddata digonol. Yn 2013 amcangyfrifir fod dros 600 o bobl wedi marw o anorecsia drwy'r byd: cynnydd yn y niferoedd o 400 o farwolaethau yn 1990.[11]

Triniaeth

Mae sawl triniaeth i ddiffyg maeth, gyda nifer ohonyn nhw wedi bod yn llwyddiannus, dros y blynyddoedd. Gall hyrwyddo mamau i roi llaeth o'r fron yn hytrach na llaeth potel leihau'r problemau a marwolaethau.[1][12][13] Felly hefyd pan roddir llaeth i fabanod a phlant rhwng 6 mis a 2 flynedd oed. Ceir tystiolaeth hefyd fod rhoi ychwanegion ar ffurf tabledi o faetholion ayb hefyd yn gwella'r canlyniadau.[13] Yn yr un modd mae'r ychwanegiadau hyn hefyd yn llwyddiannus pan gant eu rhoi i'r fam feichiog. Y dull symlaf a mwyaf naturiol, wrth gwrs yw drwy roi arian i bobl tlawd i brynnu bwyd.[12][14]

Cyfeiriadau