Galiseg

iaith

Iaith Romáwns sy'n perthyn yn agos i Bortiwgaleg a siaredir yng Nghymuned Ymreolaethol Galisia yw Galiseg[1] (galego) a rhywfaint yn Asturias a Castile a León. Fel pob un o'r ieithoedd Romáwns mae'n perthyn i'r Ieithoedd Indo-Ewropeaidd ac yn 2012 roedd 2.4 miliwn o bobl yn ei siarad (58% o boblogaeth Galisia).[2] Ceir llawer o eirfa Ieithoedd Germanaidd a [[:en:https://www.search.com.vn/wiki/en/List_of_Galician_words_of_Celtic_origin%7CBrythoneg[dolen marw]]] ynddi.

Fel iaith swyddogol gyntaf Galisia, fe'i defnyddir yn helaeth ym meysydd gweinyddiaeth, addysgol a masnach yn y Gymuned ac fe'i haddysgir i bob plentyn.

O 2007 ymlaen, roedd hi'n bosib astudio Galisieg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.

Cyfeiriadau

Wikipedia
Argraffiad Galiseg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd