Gemau Olympaidd y Gaeaf 2022

24dd Gemau Olympaidd y Gaeaf, ym Meijing, Tseina, mis Chwefror 2022

Trefnwyd i Tsieina gynnal Gemau Olympaidd y Gaeaf 2022 (Tsieineaidd: 第二十四届冬季奥林匹克运动会; pinyin: Dì Èrshísì Jiè Dōngjì Àolínpǐkè Yùndònghuì), y 24ydd Gemau Olympaidd y Gaeaf, yn Beijing o 4 hyd 20 Chwefror 2022.[1]

Olympic Winter Games
Dinas,
Arwyddair起向未来; Yīqǐ xiàng wèilái (Gyda'n gilydd ar gyfer dyfodol a rennir)
Gwledydd sy'n cystadlu91
Athletwyr sy'n cystadlu2,871
Agorwyd yn swyddogol ganXi Jinping, Arlywydd Tsieina
Cynnau'r FflamDinigeer Yilamujiang a Zhao Jiawen

Roedd y Gemau 2022 cafwyd ei hadnabod yn gyffredinol fel Beijing 2022 (北京2022), ac yr roedd yn ddigwyddiad aml-chwaraeon gaeafol rhwngwladol cafodd ei gynnal rhwng y 4ydd o Chwefror tan yr 20fed ym Meijing, Tsieina, ac ardaloedd lleol, gyada'r cystadlu mewn cystadlaon pennodol yn cychwyn ar yr 2ail o Chwefror.[2]

Cafodd Beijing ei ddewis fel y safle cynnal yn ystod yr 128fed IOC Sessiwn yn Kuala Lumpur, Maleisia, yr ail waith mae'r ddinas wedi cynnal y gemau, ac yr safle olaf allan o'r tair diweddaraf sy'n cael eu cynnal yn Nwyrain Asia. Ar ôl cynnal Gemau Olympaidd yr Haf 2008 yn flaenorol, ddoth Beijing y ddinas cynaf i gynnal y gemau Olympaidd Haf ac Gaeaf. Roedd y lleoliadau ar gyfer y Gemau yn cylchu'r ddinas, megis maestrefi'r Yanqing District, yn ogystal â Zhangjiakou, gyda ychydig o ddiwgyddiadau (yn cynnwys curling a'r seremoniau) yn defnyddio lleoliadau cafwyd ei aduladu yn wreiddiol ar gyfer Beijing 2008 (er enghraifft Stadiwm Cenedlaethol Beijing a'r Beijing National Aquatics Centre).

Roedd y Gemau yn cynnwys 109 o ddigwyddiadau (y mwyaf eirioed) ar draws 15 o ddisgylblaetholion, gyda sgio freestyle a monobob menywod yn cael eu gynnal am y tro cyntaf yn ogystal â rhagor o gystadlaeon cymysg. Roedd cyfanswm o 2,871 o athletwyr yn cynrychioli 91 o dimau yn cystadlu, gyda Haiti a Saudi Arabia yn cystadlu yn y gemau gaeafol am y tro cyntaf.

Codwyd y penderfyniad i alluogi Beijing i gynnal sawl pryderon a sawl dadleuon yn gysylltiedig a Tseinia yn torri sawl ddef hawliau dynol, megis Hil-laddiad yr Wigwriaid, yn arwain at alwadon i foicotio'r gemau. [3] [4] Fel Gemau Olympaidd yr Haf a gynhaliwyd chwe mis ynghynt yn Tokyo, arweiniodd pandemig COVID-19 at weithredu protocolau iechyd a diogelwch, gan gynnwys cyfyngiadau ar bresenoldeb y cyhoedd yn y Gemau, yn ogystal â diffyg cyfranogiad rhai cenhedloedd.

Y tîm mwyaf llwyddiannus ar y tabl medal roedd Norwy, am yr ail waith, yn ennill cyfanswm o 37 o fedalau, 16 ohonynt yn aur, yn gosod record newydd am y nifer o fedalau aur a enillwyd yn y Gemau.[5] Ddoth Tsiena yn drydydd, gyda 9 medal aur a chyfanswm o 11, ei ymdrech mwyaf llwyddiannus mewn gem Olympaidd gaeafol.[5]

Chwaraeon

Torrodd y gemau'r record gyda 109 o ddigwyddiadau gyda dros 15 o ddisgyblaethau mewn saith o chwaraeon,[6] roedd yna 7 o gystadlaethau newydd yn cynnwys ‘big air Freestyle’ a ‘Bobsled menywod’.[7]

Mae'r niferoedd mewn cromfachau yn dangos nifer y medalau a ymleddir ym mhob disgyblaeth.

  • Sgïo alpaidd (11)
  • Biathlon (11)
  • Bobsleigh (4)
  • Sgïo traws gwlad (12)
  • Cyrlio (3)
  • Sglefrio ffigwr (5)
  • Sgïo dull rhydd (13)
  • Hoci iâ (2)
  • Luge (4)
  • Cyfuniad Nordig (3)
  • Sglefrio cyflum trac byr (9)
  • Sgerbwd (2)
  • Sgïo neidio (5)
  • Eirafyrddio (11)
  • Sglefrio cyflym (14)

Bwrdd medalau

Y tîm mwyaf llwyddiannus ar y tabl medal roedd Norwy, am yr ail waith, yn ennill cyfanswm o 37 o fedalau, 16 ohonynt yn aur, yn gosod record newydd am y nifer o fedalau aur a enillwyd yn y Gemau.[8]. Ddoth yr Almaen yn ail gyda 12 aur a chyfanswm o 27 medal yn gyfan gwbl gyda Tsiena yn dod yn drydydd gyda 9 medal aur, yr ymdrech mwyaf llwyddiannus mewn hanes y gemau gaeafol.[5] Y nifer ail fwyaf o fedalau a enillwyd roedd y tîm roedd yn cynrychioli’r POR (Saesneg: ROC), gyda chyfanswm o 32 ond fe ddoth yn 9fed ar y tabl medalau oherwydd roedd dim ond 6 o’r medalau yn aur. Er enillwyd 26 o fedalau, roedd dim ond 4 o fedalau Canada, tîm gaeafol traddodiadol o lwyddiannus, yn aur, yn gorffen i fyny tu allan i’r 10 top am y tro cyntaf ers 1988.[9][10]

Yn ystod y broses o fidio, cwestiynwyd bid Beijing, yn dadlau bod y lleoliadau tu allan ddim yn derbyn cwymp eira dibynadwy ar gyfer chwaraeon gaeafol. Dywedwyd efallai y bydd rhaid cludo eira, yn codi costau ariannol ac ansicrwydd o ran canlyniadau amgylcheddol.

Codwyd rhagor o bryderon yn ystod y gemau. Roedd yr athletwraig o Sweden, Frida Karlsson bron a chwympo o ganlyniad i dymherodd isel.[11] Yn dilyn hyn, roedd y Swediaid yn ystyried rhoi ymgais i symyd y digwyddiadau yn gynharach yn y dydd oherwydd roedd y prynhawniau a’r nosweithiau cynnar ar gyfer gynulleidfa teledu Ewropeaidd yn tarfu ar berfformiad yr athletwyr. [12]

Yn debyg i 2008, bu galwadau  i foicotio’r Gemau Olympaidd pan gânt eu cynnal gan Weriniaeth Pobl Tsieina. Yn dilyn gollyngiad 2019 o bapurau Xinjiang, protestiadau Hong Kong 2019–20, a hil- laddiad Uyghur, [13][14] roedd yna alwadau am boicot o Gemau 2022.[15] [16][17] Oherwydd y materion hyn, cafwyd ymateb cymysg wrth ddewis athletwr o Xinjiang fel rhan o'r cludwyr terfynol.[18] [19] [20]


Cyfeiriadau