Kharkiv

Dinas yn Wcráin a chanolfan weinyddol Oblast Kharkiv yw Kharkiv (Wcreineg: Ха́рків, Rwseg: Харькoв Kharkov; trawslythrennu: Charcif).[1] Dyma'r ddinas fwyaf yn Nwyrain Wcráin a'r ddinas ail fwyaf yn yr holl wlad, a'r brif ddinas yn rhanbarth hanesyddol Slobozhanshchyna. Saif ar gymer afonydd Uda, Lopan, a Kharkiv.

Kharkiv
Trem ar Sgwâr Rhyddid yng nghanol y ddinas.
Mathcanolfan oblast, dinas yn Wcráin Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,421,125 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1654 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethIhor Terekhov Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Wcreineg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRaion Kharkiv Edit this on Wikidata
GwladBaner Wcráin Wcráin
Arwynebedd350 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr152 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Kharkiv Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau49.9925°N 36.2311°E Edit this on Wikidata
Cod post61000–61499 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCyngor Dinas Kharkiv Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethIhor Terekhov Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganAleksei I Edit this on Wikidata

Hanes

Anheddid yr ardal o amgylch safle Kharkiv ers yr ail fileniwm CC, a chanfuwyd tystiolaeth o ddiwylliannau Oes yr Efydd, y Sgythiaid, a'r Sarmatiaid. Daeth y Cumaniaid i reoli'r stepdiroedd yn y 12g, ac yn ddiweddarach y Tatariaid. Yn nechrau'r 17g, gorchfygwyd yr ardal gan Tsaraeth Rwsia, a chodwyd garsiynau ac amddiffynfeydd ar hyd y gororau i rwystro goresgyniadau'r Tatariaid. Wrth i'r Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd ehangu tua'r dwyrain, ymsefydlwyd Cosaciaid a gwerinwyr yn y cyffindiroedd er mwyn osgoi'r gwaith llafur a orfodwyd arnynt. Adeiladwyd tref gaerog ar y safle gan Gosaciaid Zaporizhzhia ym 1654–55. Yn ôl y chwedl leol, sefydlwyd y gaer gan Gosac o'r enw Kharko, ond yn wir mae'n debyg iddi gael ei henwi ar ôl Afon Kharkiv. Yn ystod cyfnod yr Hetmanaeth (Llu Zaporizhzhia), dan dra-arglwyddiaeth y Rwsiaid, o ganol yr 17g hyd at 1765, hon oedd canolfan Catrawd Kharkiv, un o israniadau gweinyddol Slobozhanshchyna ac un o brif unedau milwrol y Cosaciaid. Ymgartrefodd nifer o filwyr, marsiandwyr, a chrefftwyr Rwsiaidd yn y gaer, ac ar ei chyrion codwyd nifer o bentrefi di-dreth (slobody) gan y Cosaciaid, a fuont yn amaethu, magu anifeiliaid, ac yn cyfnewid nwyddau er ennill tamaid.

Byddai Kharkiv yn gadarnle bwysig i Ymerodraeth Rwsia hyd at ganol y 18g, pryd gwthiwyd ffiniau'r ymerodraeth tua'r de. Wedi diwedd yr Hetmanaeth, datblygodd y ddinas yn ganolfan fasnachol a diwylliannol yn hytrach na safle filwrol. Cynhaliwyd ffair fasnach flynyddol a atynnai farsiandwyr o orllewin Wcráin, Rwsia, a gwledydd eraill yn Nwyrain Ewrop. Sefydlwyd Colegiwm Kharkiv, un o ysgolion crefyddol pwysicaf yr ymerodraeth, ym 1734 a Phrifysgol Kharkiv ym 1805.[2] Adeiladwyd rheilffordd o Kharkiv i faes glo Basn Donets ym 1869, a thyfai diwydiannau'r ddinas, yn enwedig peirianneg, yn y cyfnod hwn.

Yn sgil Chwyldro Rwsia ym 1917, gwnaed Kharkiv yn brifddinas Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin cyn iddi ildio'r safle hwnnw i Kyiv ym 1934.[3] Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cipiwyd Kharkiv gan luoedd yr Almaen Natsïaidd yn Hydref 1941, a methiant a fu'r ymdrech gan y Fyddin Goch i ailgipio'r ddinas ym Mai 1942. Llwyddodd y Sofietiaid i yrru'r Almaenwyr allan yn sgil Cyrch Zvezda yn Chwefror 1943, ond ildiodd y ddinas unwaith eto i'r gelyn mewn brwydr arall ym Mawrth. O'r diwedd, daeth Kharkiv eto dan reolaeth yr Undeb Sofietaidd yn Awst 1943. Bu farw niferoedd mawr o filwyr a thrigolion yn ystod y brwydrau hyn, a difrodwyd y mwyafrif o adeiladau'r ddinas.

Demograffeg

Ar un pryd yr oedd Kharkiv yn ddinas fwy poblog na Kyiv, ond am y gan mlynedd ddiwethaf mae nifer y trigolion wedi gostwng yn raddol. Gostyngodd y boblogaeth o 1,521,000 ym 1995[4] i 1,471,000 yn 2001,[3] 1, 447,000 yn 2011,[2] ac 1,434,000 yn 2021.[3] Mae'n debyg y byddai'r boblogaeth yn lleihau ymhellach o ganlyniad i gyrch Rwsia ar Kharkiv yn 2022, un o frwydrau mwyaf y rhyfel rhwng Rwsia ac Wcráin.

Enwogion

Cyfeiriadau