Turku
Dinas ar arfordir de-orllewin y Ffindir ar aber Afon Aura yw Turku (Ffinneg: [ˈturku], Swedeg: Åbo [ˈoːbu]). Gwladychwyd y dref yn ystod y 13eg ganrif a sefydlwyd hi ar ddiwedd y ganrif honno, sy'n golygu mai dinas hynaf y Ffindir yw hi. Daeth yn ddinas bwysicaf y wlad, a bu felly am ganrifoedd. Ar ôl i'r Ffindir ddod yn rhan o Ymerodraeth Rwsia ym 1809, symudwyd prifddinas Uchel Ddugiaeth y Ffindir i Helsinki ym 1812, ond Turku oedd y ddinas fwyaf poblog yn y Ffindir tan ddiwedd y 1840au. Mae'n dal yn brifddinas ranbarthol ac yn ganolbwynt busnes a diwylliant.
Math | bwrdeistref y Ffindir, dinas |
---|---|
Poblogaeth | 202,250 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Minna Arve |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffinneg, Swedeg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Southwest Finland |
Gwlad | Y Ffindir |
Arwynebedd | 245.63 km² |
Uwch y môr | 0 metr |
Gerllaw | Afon Aura, Archipelago Sea |
Yn ffinio gyda | Pargas, Aura, Pöytyä, Mynämäki, Nousiainen, Rusko, Kaarina, Lieto, Raisio, Naantali |
Cyfesurynnau | 60.4514°N 22.2667°E |
Cod post | 20000–20960 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Turku city board |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Turku |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Mayor of Turku |
Pennaeth y Llywodraeth | Minna Arve |
Enw
Mae'r enw Ffinneg Turku yn deillio o air Hen Slafeg Dwyreiniol tǔrgǔ, sy'n golygu "marchnad".[1] Mae'r gair turku yn dal i olygu "marchnad" mewn rhai idiomau yn y Ffinneg. Torg yw'r gair Swedeg am farchnad ac mae'n debyg iddo gael ei fenthyg o Hen Slafeg Dwyreiniol, ond roedd eisoes yn cael ei ddefnyddio yn Hen Swedeg.[2]
Mae'r enw Swedeg Åbo i'w weld yn hawdd ei esbonio, oherwydd iddo gynnwys y geiriau å ("afon") a bo ("nyth, annedd") a allai olygu rhyweth tebyg i "dŷ'r afon". Er hynny, mae geirdarddwyr yn credu bod yr esboniad hwn yn anghywir gan mai hen enw yw ef ac nad oes dim enwau tebyg eraill.[3] Ceir hen derm cyfreithiol o'r enw åborätt (sy'n golygu "hawl i fyw yn"), a oedd yn rhoi'r hawl etifeddadwy i ddinasyddion ("åbo") i fyw ar dir a oedd yn perthyn i'r goron.[4]
Awgrymwyd hefyd fod yr enw Ffinneg Turku yn cyfeirio at y farchnad yn wreiddiol ond bod yr enw Swedeg Åbo yn cyfeirio at y castell.
Yn Ffinneg, Turun yw cyflwr genidol Turku, felly mae llawer of enwau Ffineg ar sefydliadau Turku yn dechrau gyda'r gair hwn, er enghraifft, Turun yliopisto am Brifysgol Turku.
Gefeilldrefi
Gefeilliwyd Turku â:
|
|
Mae gan Turku gytundebau cydweithredu â'r dinasoedd hyn:
Oriel
- Castell Turku
- Amgueddfa Gelf Turku
- Yr Amgueddfa Fferylliaeth
- Y Llys Apêl
- Amgueddfa Grefftau Luostarinmäki
- Eglwys Mihangel
- Eglwys Marthin
- Afon Aura
- Eglwys Uniongred Turku
- Maenor Brinkhall ar ynys Kakskerta
- Eglwys Kakskerta
- Yr Hen Felin yn Samppalinna