Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014

Lansiwyd Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014 (Hebraeg: מִבְצָע צוּק אֵיתָן, Mivtza' Tzuk Eitan, yn llythrennol: "Ymgyrch y Clogwyni Cedyrn"; Saesneg: Operation Protective Edge) ar 8 Gorffennaf 2014 gan Lu Amddiffyn Israel (IVF) yn swyddogol yn erbyn aelodau o Hamas ond erbyn 28ain o Awst roedd 2,145 o Balisteinaidd wedi eu lladd[9][10][11] (80% sifiliaid) a 10,895 o Balesteiniaid wedi'u hanafu.[12][13] Yn y cyfamser, lladdwyd 6 o sifiliaid Israelaidd. Cafwyd ymateb rhyngwladol chwyrn - gan mwyaf yn cytuno bod ymateb milwrol Israel yn rhy lawdrwm ("disproportional").

Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014
Rhan o: Wrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd

Ymosodiad gan fyddin Israel ar gartrefi yn ninas Gasa
Dyddiad8 Gorff. 2014 – presennol
LleoliadPalesteina Y Llain Gasa
StatusYn parhau
Rhyfelwyr
 Israel
Arfau:
 Unol Daleithiau America[1][2]
Palesteina Mudiadau Palesteinaidd
  • Hamas
  • PIJ
  • PRC
  • PFLP
  • DFLP
  • al-Aqsa Martyrs' Brigades
Arweinwyr
Benjamin Netanyahu
Prif Weinidog Israel
Moshe Ya'alon
Gweinyddiaeth Amddiffyn Israel)
Ismail Haniyeh
Mohammed Deif
(Arweinydd brigâd Izz ad-Din al-Qassam)
Ramadan Shalah
(Arweinydd y PIJ)
Unedau a oedd yn weithredol
Llu Amddiffyn Israel
Awyrlu Israel
Llynges Israel
Shin Bet
Asgell arfog Hamas
Cryfder
176,500 milwr[3]

445,000 wrth gefn[3][4]

Tua 10,000 o Balesteiniaid arfog[5][6]
Clwyfwyd neu laddwyd
64 milwr; 6 sifiliad (oedolion)[7]
400 milwr 23 sifiliad wedi'u hanafu
2,145 wedi eu lladd (1,462 yn sifiliaid)[8] (ffynhonnell: Canolfan Iawnderau Palesteina)
Stryd yn Ramallah wedi ymosodiad gan Israel

Roedd yr ymosodiad hwn gan Israel yn dilyn sawl ffactor gan gynnwys lladd tri bachgen; ac roedd awdurdodau Israel yn beio Hamas. Gwadodd Hamas unrhyw gysylltiad â llofruddiaeth y tri bachgen. Ffactorau cefndirol eraill oedd bod cyflwr bywyd yn y Llain Gaza wedi gwaethygu'n arw ers ei droi'n warchae yn 2005 a methiant cynlluniau Unol Daleithiau America i greu cynllun heddwch derbyniol.[14] Yn y gwrthdaro dilynol lladdodd byddin Israel 8 o Balesteiniaid ac arestiwyd cannoedd o bobl ganddynt. Ymatebodd Hamas drwy ddweud na fyddai'n ymatal hyd nes bod Israel yn rhyddhau'r bobl hyn.[15]

Erbyn y 12fed taniwyd 525 roced o Lain Gaza i gyfeiriad Israel ac ataliwyd 118 ohonynt gan system arfau Iron Dome Israel.[16] Credir bod 22 o sifiliaid Israelaidd wedi derbyn mân-anafiadau.

Yr ymosodiad hwn oedd y mwyaf gwaedlyd yn Gaza ers 1957.[17] Yn Ionawr 2015 cyhoeddwyd y byddai y Llys Troseddau Rhyngwladol yn agor Ymchwiliad i droseddau yn ymwneud ag Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014.

Cyhoeddodd Amnest Rhyngwladol nad oedd unrhyw dystiolaeth bod sifiliaid wedi cael eu defnyddio fel tariannau i amddiffyn arfau neu bersonél. Cyhoeddodd Human Rights Watch fod ymateb llawdrwm Israel yn "disproportionate" and "indiscriminate".[18]

Rhai digwyddiadau yn nhrefn amser

  • 13 Taniodd Israel 1,300 o rocedi i'r Llain Gaza, y rhan fwyaf gan awyrennau isel a thaniwyd 800 roced o'r Llain i gyfeiriad Israel.
  • 16 Gorffennaf: Cyflwynodd Hamas a'r Mudiad Jihad Islamaidd ym Mhalesteina gadoediad 10-mlynedd gyda deg prif feincnod.[19]
  • 17 Gorffennaf: yn ystod y bore bach, cytunodd y ddwy ochr i argymhelliad y Cenhedloedd Unedig o gadoediad am bum awr[20][21] a digwyddodd hyn rhwng 10yb a 3.00yp.[22] Am 10.30yh cyhoeddodd yr orsaf deledu IDF fod milwyr traed byddin Israel wedi mynd i mewn i Lain Gaza[23] a chadarnhawyd hyn gan Ysgrifennydd Amddiffyn Israel, Moshe Ya'alon.[24] Mynegodd yr Aifft mai bai Hamas oedd hyn gan iddynt dorri'r cadoediad.[25] Yn ogystal â milwyr traed ceir tystiolaeth o danciau'n saethu at Ysbyty yn Gasa.[26][27]
  • 20 Gorffennaf: byddin Israel yn brwydro eu ffordd i mewn i ran o ddinas Gaza (maestref Shuja'iyya).
  • 24 Gorffennaf: 10,000 - 15,000 o Balesteiniaid yn y Lan Orllewinol yn protestio yn erbyn triniaeth eu cydwladwyr Palesteinaidd yn Gaza. Lladdwyd 2 ohonynt ac anafwyd 265 o Balesteiniaid.[28][29][30]
  • 26 Gorffennaf: cadoediad am 12 awr,[31] ac yna 24 awr arall yn dilyn hynny.[32]
  • 28 Gorffennaf: Y Pab Ffransis yn galw ar y ddwy ochr i ymatal, gan ddweud "I think of the children who are robbed of the hope of a dignified life, of a future. Dead children, wounded children, orphans, children who have for toys the debris of war." Ar y diwrnod y dywedodd hyn, amcangyfrifir bod 251 o blant Palesteinaidd wedi'u lladd, a dim un plentyn Israelaidd.[33]
  • 5 Awst: Tanciau a milwyr Israel yn gadael y Llain; tridiau o gadoediad yn cael ei gyhoeddi. Hyn yn cael ei ymestyn.

Ymateb

Protest yn erbyn ymosodiad Israel yn Nulyn, Gorffennaf 2014.

Gwledydd eraill

Mae'r ymateb o du gwledydd eraill yn amrywio o'r naill begwn i'r llall. Er enghraifft ar 9 Gorffennaf 2014, ffoniodd Canghellor yr Almaen Angela Merkel Benjamin Netanyahu i gollfarnu "without reservation rocket fire on Israel".[34] Ymateb Gweinidog Materion Tramor Iwerddon drwy ddweud, "(We are) gravely concerned at the escalating violence and civilian casualties" a'i fod yn collfarnu'r ddwy ochr yn gyfartal ac apeliodd am gadoediad."[35] Condemniodd Llywodraeth Pacistan (ar 9 Gorffennaf) y trais a'r lladd yn Gasa a achoswyd gan ffyrnigrwydd Israel.[36]

Ymddiswyddodd Baronness Warsi fel Gweinidog gan ddweud na fedrai gytuno â Pholisi Llywodraeth Prydain ac, “It appals me that the British government continues to allow the sale of weapons to a country, Israel, that has killed almost 2,000 people, including hundreds of kids, in the past four weeks alone. The arms exports to Israel must stop.” Ymatebodd y Prif Weinidog David Cameron drwy ddweud, “I understand your strength of feeling on the current crisis in the Middle East – the situation in Gaza is intolerable.”.[37]

Mudiadau rhyngwladol

  • Human Rights Watch: "Palestinian rocket attacks on Israel appear to be indiscriminate or targeted at civilian population centers, which are war crimes, while Israeli attacks targeting homes may amount to prohibited collective punishment."[38]

Mae sawl mudiad dyngarol e.e. Amnesty Rhyngwladol,[39][40] B'Tselem[41] a Human Rights Watch[42] wedi datgan bod Israel yn gyfrifol am dorri deddfau rhyfel o dan cyfreithiau rhyngwladol dry ladd sifiliaid a dinistrio cartrefi sifiliaid.[43] Mynegodd Uwch Gomisiynydd Hawliau Iawnderau Dynol y Cenhedloedd Unedig hefyd fod yna "bosibilrwydd cryf" bod Israel wedi torri deddfau rhyngwladol "in a manner that could amount to war crimes".[44] Mae'r C.U. hefyd wedi condemnio Hamas o anelu ei rocedi at sifiliaid Israelaidd a chydnabyddodd Navi Pillay,[30] Llysgennad Palesteina yng Nghyngor Hawliau Dynol y C.U. fod Hamas wedi torri deddfau rhyngwladol drwy wneud hyn.[45]

Protestiadau

Israeliaid asgell chwith ac Arabiaid Israelaidd yn Tel Aviv Israel yn dangos eu gwrthwyneb i ymosodiad byddin Israel ar y Palesteiniaid

Ymosodwyd ar rai o'r prostestwyr heddychlon fu'n mynychu'r protest yn erbyn y rhyfel yn Tel Aviv gan eithafwyr Israelaidd adain-dde.[46] Ar 21 Gorffennaf caewyd stryd fawr Nazareth yn llwyr wrth i fusnesau a thrigolion y dref uno gyda phrotest cyffredinol yn erbyn ymosodiad pythefnos oed gan Israel ar y Palesteiniaid yn Gaza. Arestiwyd dros 700 o gan heddlu Israel. Cafwyd protestiaidau tebyg drwy Israel.[47]

Cynhaliwyd hefyd sawl protest o blaid Israel yn yr UDA ond roedd mwyafrif helaeth y protestiadau, mewn llawer o wledydd ledled y byd, yn erbyn gweithredoedd Israel gan gynnwys:

Oriel berthnasol

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: