Yn yr Oesoedd Canol cynnar roedd teyrnas Elfed - a gyfeirir yn aml fel Elmet - yn gysylltiedig â'r rhan yma o Swydd Efrog. Teyrnas Frythonig ôl-Rufeinig oedd Elmet. Nid oes sicrwydd am ei ffiniau, ond credir fod Afon Sheaf yn ffin iddi yn y de, ac Afon Wharfe yn y dwyrain. Yn y gogledd roedd yn ffinio ar Deira ac yn y de ar Mersia.
Ymosodwyd ar Elmet gan Northumbria yn hydref 616 neu 626. yn yr Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, ceir sôn am Edwin, brenin Northumbria "occupauit Elmet, et expulit Cretic, regem illius regionis" ("meddiannodd Elmet ac alltudiodd Certic, brenin y wlad honno").
Cedwir yr enw mewn nifer o enwau lleoedd yn y cylch, megis Barwick-in-Elmet a Sherburn-in-Elmet. Gelwir yr etholaeth seneddol hon hefyd yn "Elmet".
Mae'r deyrnas wedi cael ei choffau gan nifer o feirdd o Gymru o'r 6g hyd y presennol.
Roedd y bardd Ted Hughes hefyd yn ymwybodol iawn o etifediaeth Frythoneg ei sir enedigol a chyhoeddodd lyfr o gerddi a ffotograffiau o'r enw "Remains of Elmet" hefo Fay Godwin ym 1979. Ail-gyhoeddwyd y llyfr ym 1994 gan Faber and Faber dan yr enw "Elmet".
Mae'r ddinas hefyd yn enwog iawn am ei thim pêl-droed fu'n hynod llwyddiannus yn y 60au a'r 70au ac yn enillwyr cyson yn haen uchaf cynghreiriau Lloegr ac yn y cwpannau Ewropeaidd o dan arweiniaeth Don Revie - bu Terry Yorath cyn gapten a rheolwr Cymru yn rhan allweddol o dim a gynhwysai Billy Bremner, Joe Jordan, Peter Lorimer ac eraill. Cafodd y cyfnod cythrublys a ddilynodd ymadawiad Revie pan ddaeth Brian Clough i reoli'r time ei goffau yn llyfr enwog David Peace - 'The Damned United' a wnaethpwyd yn ffilm gyda'r Cymro Michael Sheen yn actio Clough. Bellach mae Leeds United yn chwarae ym mhencampwriaeth Lloegr - sel ail reng y cynghreiriau.