Cernyweg

iaith

Mae Cernyweg (Kernewek, Kernowek, neu Curnoack[2]) yn iaith Geltaidd. Bu'r iaith farw ond mae wedi cael adfywiad dros y ganrif ddiwethaf ac mae tua mil o bobl yng Nghernyw yn siarad Cernyweg. Mae'n bosibl gwrando ar y newyddion yn Gernyweg ar BBC Radio Cornwall bob nos Sul. Mae'n hynod ddiddorol i siaradwyr Cymraeg wrando arno, gan ei bod ar adegau'n swnio fel Cymraeg.

Cernyweg
Kernewek, Kernowek
Siaredir ynBaner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
RhanbarthBaner Cernyw Cernyw
Cyfanswm siaradwyr2,000 rhugl[1]
Teulu ieithyddolIndo-Ewropeaidd
System ysgrifennuYr wyddor Ladin
Statws swyddogol
Iaith swyddogol ynDim
Iaith leiafrifol gydnabyddedig ynBaner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
Rheoleiddir ganPartneriaeth yr Iaith Gernyweg (Cernyweg: Keskowethyans an Taves Kernewek)
Codau ieithoedd
ISO 639-1kw
ISO 639-2cor
ISO 639-3cor
Wylfa Ieithoedd

Mae'n bosib dysgu'r iaith drwy'r rhyngrwyd, drwy ddefnyddio Kernewek Dre Lyther lle ceir nifer o wersi ar ffurf Adobe Acrobat. [angen ffynhonnell]

Hanes

Origo mundi (1425)

Mae'r Gernyweg yn hanu o iaith Brythoniaid de-orllewin Prydain, a gafodd eu gwahanu o Frythoniaid y Gorllewin (y Cymry) wedi brwydr Deorham, ym 577. Aeth tiriogaeth y Brythoniaid yn y de-orllewin yn llai ac yn llai nes oddeutu 810, pan goncrwyd Dyfnaint gan y Sacsoniaid gan adael Cernyw yn unig yn nwylo'r Brythoniaid. Concrodd Athelstan, brenin y Sacsoniaid, Gernyw tua 920, ond ni wladychwyd y wlad gan Saeson fel y digwyddodd yn y rhan fwyaf o Loegr, ac Athelstan a wnaeth Afon Tamar yn ffin rhwng y Saeson yn Nyfnaint a'r Brythoniaid yng Nghernyw. Er hyn, parhaodd yr iaith i fyw hyd o leiaf y ddeunawfed ganrif, gan gyrraedd uchafbwynt o oddeutu 38,000 o siaradwyr (amcangyfrif Ken George) yn y drydedd ganrif ar ddeg.

Symudiad terfyn ieithyddol Cernyweg 1300-1750

Astudiwyd Cernyweg Modern Cynnar yn y 1700au gan yr ieithydd o Gymro, Edward Lhuyd. Erbyn hyn, roedd yr iaith yn diflannu'n gyflym. Mae chwedl yn dweud mai'r person olaf i siarad yr iaith fel mamiaith oedd Dolly Pentreath, a fu farw ym 1777. Ond mae tystiolaeth bod rhai siaradwyr brodorol wedi parhau tan y 19g. Er iddi ddweud, yn ôl y chwedl, "My ny vednav kows Sowsnek!" — "dwi ddim isio siarad Saesneg!" — roedd hi'n gallu ychydig o Saesneg o leiaf. Mae'n bosibl mai'r person olaf i siarad Cernyweg yn unig oedd Chesten Marchant, a fu farw ym 1676. Canrif yn ddiweddarach (1776), ysgrifennodd William Bodinar lythyr byr dwyieithog i'r hynafiaethydd Daines Barrington, y darn olaf o Gernyweg draddodiadol rugl a wyddys, yn ôl pob tebyg. Dyma ei ddiweddglo, Na ges moye vel pager po pemp en dreau nye, ell clapia Cornoack leben — poble coath, pager egance blouth; Cornoack ewe oll naceaves gen poble younk ("Does dim mwy na phedwar neu bump yn ein tre ni, sy'n gallu sgwrsio Cernyweg ar hyn o bryd — hen bobl, pedwar ugain blwydd; Cernyweg yw angofiedig yn hollol wrth y bobl ieuanc").

Llythyr William Bodinar, 3 Gorffennaf 1776

Adfywiad

Arwydd Cernyweg - 'Croeso i Bensans', yng Ngorsaf reilffordd Penzance.

Ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, gwelwyd adfywiad yn yr iaith. Erbyn y dauddegau, sefydlwyd Gorsedh Kernow - Gorsedd Cernyw, i sicrhau fod yr iaith yn parhau, yn debyg i fudiad yr Eisteddfod yng Nghymru. Ym 1967, sefydlwyd Kesva an Taves Kernewek — Bwrdd yr Iaith Gernyweg (mudiad gwirfoddol). Pwrpas y bwrdd oedd cynorthwyo pobl Cernyw, ac eraill, i ddysgu a siarad y iaith. Ym 1979 sefydlwyd Kowethas an Yeth Kernewek (Cymdeithas yr Iaith Gernyweg) i gynrychioli y rhai sy'n siarad a dysgu yr iaith, i gyd a'i hybu mewn sefyllfaoedd pob dydd. Mae'r Gowethas yn gymdeithas agor i bawb o blaid y Gernyweg, a'i haelodau yn ffurfio etholaeth am y Gesva (Bwrdd yr Iaith).

Mae'r cofnod cynharaf yn y Gernyweg sydd wedi goroesi i'w ganfod mewn llawysgrif Lladin a luniwyd yn y 9g,[3] ond ni ddatblygodd orgraff safonol yn y Gernyweg fel ag a ddigwyddodd yn y Gymraeg. Erbyn hyn mae pedair ffordd o ysgrifennu Cernyweg.

Mae'r rhan fwyaf o siaradwyr yn defnyddio "Kernewek Kemmyn", sydd wedi'i seilio ar lenyddiaeth Cernyweg Canol gydag orgraff i gynrychioli'r seiniau tybiedig.

Kernewek Unyes ("Cernyweg Unedig"), y ffurf a ddyfeisiwyd gan Robert Morton Nance yn bennaf, gydag orgraff Cernyweg Canol wedi'i safoni, oedd y ffurf a ddefnyddiwyd dros y rhan fwyaf o'r 20g. Hyrwyddwyd y ffurf hon gan Agan Tavas.

Ym 1986 datblygodd Ken George, awdur Gerlyver Kernewek-Sawsnek Kernewek Kemmyn (yn llythrennol Cernyweg Cyffredin). Fe fabwysiadwyd y system gan Fwrdd yr Iaith Gernyweg, ac mae hyd at 80% o ddysgwyr a siaradwyr Cernyweg yn ei ddefnyddio.

Yn y 90au datblygwyd ffurf adolygedig o Kernewek Unyes, UCR ("Unified Cornish Revised"), gan Nicholas Williams, wedi'i seilio ar destunau o gyfnod ychydig yn ddiweddarach yn yr 16g. Cyhoeddwyd geiriadur mewn UCR yn 2000.

Ac yn olaf, gwell gan rai siaradwyr ddefnyddio Cernyweg Diweddar, sef iaith yr 17eg a'r 18goedd. Dyma'r ffurf a adferwyd yn yr 80au o dan yr enw Curnoack Nowedga ("Cernyweg Modern") gan Richard Gendall ac eraill. Mae orgraff Cernyweg Diweddar yn edrych yn aml yn debycach i orgraff y Saesneg.

Mae'r Testament Newydd wedi'i gyfieithu i Kernewek Kemmyn, ac i UCR.

Mae'r dadlau sydd wedi bod rhwng cefnogwyr y ffurfiau gwahanol wedi'i ganoli yn helaeth ar y cwestiwn i ba raddau, wrth adfer iaith farw, y dylid glynu wrth orgraff y testunau ysgrifenedig sydd ar gael o'r cyfnod pan oedd yr iaith yn fyw, ac i ba raddau mae'n deg i sillafu geiriau er mwyn dangos eu seiniau tybiedig. Ar ôl cyfnod o ymgynghori, cyhoeddoedd Partneriaeth yr Iaith Gernyweg orgraff i gael ei defnyddio'n swyddogol o'r enw'r Ffurf Ysgrifenedig Safonol yn 2008 ac fe'i hadolygwyd yn 2013.

Yn 2015 gosododd Cyngor Cernyw gynllun iaith ar gyfer y Gernyweg i "hybu a hyrwyddo'r iaith". Ond roedd ymgyrchwyr, fel Loveday Jenkin, am weld mwy o wario ar addysg yn yr iaith gan nodi nad oedd buddsoddi mewn addysg cyfrwng Cernyweg.[4]

Enghreifftiau

Mae'r rhestr yma yn cymharu Cernyweg (mewn "Furv Scrifys Savonek" — "ffurflen ysgrifenedig safonol") gyda'r ddwy iaith Frythoneg arall, Cymraeg a Llydaweg.

Cernyweg (orgraff safonol)CymraegLlydaweg
Kernowek/KernewekCernywegKerneveureg
gwenenengwenynengwenanenn
kadorcadairkador
keuscawskeuz
yn-mesmas, allaner-maez
kodhacwympo, syrthiokouezhañ
gavergafrgavr
chiti
gweusgwefusgweuz
aberaberaber
nivernifer, rhifniver
perenperen, gellygenperenn
skolysgolskol
megimygumogediñ
sterenserensteredenn
hedhywheddiwhiziv
hwibanachwibanuc'hwibanat

Gramadeg

Treigladau

Fel llydaweg, mae gan yr iaith Gernyweg pedwar treiglad; y treiglad meddal (treylyans medhel), y treiglad caled (treylyans kales), y treiglad llaes (treylyans hwythys) ac y treiglad cymysg (treylyans kemmysk).

Taflen treigladau cernyweg
Heb dreigladMeddalCaledLlaesCymysg
bvp-f
ddht-t
gdiflannith/wk-h/hw
gwwkw-hw
pb-f-
td-th-
kg-h-
mv--f
chj---

Beth yw'r gair am (yn yr orgraff safonol)

  • Bore da — Myttin da
  • P'nawn da — Dohajydh da
  • Noswaith dda — Gorthugher da
  • Nos da — Nos da
  • Sut wyt ti? — Fatla genes? (Sut gennyt ti?)
  • Iawn diolch — Yn poynt da, meur ras (Ym mhwynt da, gras mawr)
  • Diolch — Meur ras (Gras mawr)
  • Os gwelwch yn dda — Mar pleg (Os boddlonith/Os boddith)
  • Iawn boi? — Hou sos?
  • Pwy wyt ti? — Piw os ta?
  • Aled ydw i — Aled ov vy
  • Rydw i'n dda iawn, diolch, a ti? — Yn poynt da ov vy meur ras, ha ty? (Ym mhwynt da ydw i, gras mawr, a ti?)
  • Ble wyt ti'n byw? — Ple a drig'ta? (Ble a drigi di?)
  • Rydw i'n byw yng Nghaerdydd — My a drig yn Kerdydh (Mi a drig yng Nghaerdydd)
  • Rydw i'n hoffi — Da yw genev vy (Da yw gennyf i)
  • Hoffwn i — My a vynnsa (Mi a fynnai)
  • A elli di? — A yll'ta?
  • Gallaf i — My a yll (Mi a all)
  • Allaf i ddim — Ny allav vy
  • Mae rhaid i fi — Res yw dhymm (Rhaid yw i fi/i mi)
  • Beth ydy/yw? — Pyth yw?

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Cyswllt

Wikipedia
Argraffiad Cernyweg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
v · t · e Ieithoedd Celtaidd/Celteg
Brythoneg - (Celteg P)Goedeleg - (Celteg Q)
Cernyweg ·Cymraeg ·Llydaweg |Gaeleg ·Gwyddeleg ·Manaweg
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd
Chwiliwch am Cernyweg
yn Wiciadur.