Ieithoedd Celtaidd
Mae'r ieithoedd Celtaidd yn tarddu o Gelteg (hefyd ‘Celteg Cyffredin’), cangen orllewinol o'r teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd. Defnyddiwyd y term "Celteg" gyntaf i ddisgrifio'r grŵp hwn o ieithoedd gan Edward Lhuyd ym 1707.[1]
Celteg | |
---|---|
Dosraniad daearyddol: | Siaredid hwy'n eang ar draws Ewrop, ond erbyn heddiw yn Ynysoedd Prydain, Llydaw, Patagonia a Nova Scotia |
Dosraniad Ieithyddol: | Indo-Ewropeaidd Celteg |
Israniadau: | |
ISO 639-2 a 639-5: | cel |
Siaredir yr ieithoedd Celtaidd yn bennaf ar ymylon gorllewin Ewrop, yn enwedig yng Nghymru, yr Alban, Iwerddon, Llydaw, Cernyw ac Ynys Manaw, ac fe'u ceir ar Ynys Cape Breton yng Nghanada ac yng Ngwladfa Patagonia yn yr Ariannin. Gellir cael hyd i rai sy'n siarad yr ieithoedd mewn ardaloedd y bu siaradwyr ieithoedd Celtaidd yn ymfudo iddynt hefyd, fel yr Unol Daleithiau,[2] Canada, Awstralia,[3] a Seland Newydd.[4] Yn yr ardaloedd hyn i gyd, gan leiafrif o bobl y siaredir yr ieithoedd Celtaidd, er bod ymdrechion i'w hadfywio. Y Gymraeg yw'r unig iaith nad yw UNESCO yn ei dosbarthu'n iaith mewn perygl.
Yn ystod y mileniwm cyntaf CC, fe siaredid yr ieithoedd Celtaidd ar draws Ewrop, ar yr Orynys Iberaidd, o lannau Môr Iwerydd a Môr y Gogledd, drwy ddyffrynnoedd Rhein a Donwy hyd at y Môr Du, Gorynys Uchaf y Balcanau ac yng Ngalatia yn Asia Leiaf. Aeth Gaeleg yr Alban i Ynys Cape Breton a'r Gymraeg i Batagonia yn ystod y cyfnodau modern. Câi ieithoedd Celtaidd, yn enwedig yr Wyddeleg, eu siarad yn Awstralia cyn y cyfuno ym 1901 ac maent yn cael eu defnyddio yna o hyd i ryw raddau.
Ieithoedd byw
Rhestra Ethnologue chwe iaith Geltaidd "fyw", lle mae pedair ohonynt wedi dal gafael ar nifer sylweddol o siaradwyr brodorol, sef: y Gymraeg a'r Lydaweg (a darddodd o'r Frythoneg) a'r Wyddeleg a Gaeleg yr Alban a darddodd o Aeleg cyffredin, a elwir yn Wyddeleg Fodern Gynnar (neu Wyddeleg Clasurol).
Siaradwyd y ddwy iaith arall, y Gernyweg a'r Fanaweg, hyd at y cyfnodau cynnar ond buont farw yn iaith gymunedol.[5][6][7] Ond bu mudiadau adfywiol i'r ddwy iaith sydd wedi dilyn i oedolion ddysgu'r iaith a hefyd siaradwyr plant brodorol.[8]
Ar y cyfan, roedd tua miliwn o siaradwyr brodorol o'r ieithoedd Celtaidd ers y 2000au.[9]
Demograffeg
Iaith | Enw brodorol | Dosbarth | Nifer o siaradwyr brodorol | Nifer o bobl sydd wedi caffael un neu ragor o sgiliau yn yr iaith | Prif wlad/wledydd ymhle y siaredir yr iaith | Rheolir gan/corff iaith |
---|---|---|---|---|---|---|
Cymraeg | Cymraeg | Brythonaidd | Mae 562,000 (19.0% o boblogaeth Cymru) yn dweud eu bod yn "gallu siarad Cymraeg" yn ôl cyfrifiad 2011[10][11] | Cyfanswm siaradwyr: ≈ 947,700 (2011) Cymru: 788,000 siaradwr, pob gallu (26.7% o'r boblogaeth)[10][11] Lloegr: 150,000[12] Talaith Chubut, yr Ariannin: 5,000[13] yr Unol Daleithiau: 2,500[14] Canada: 2,200[15] | Cymru; Y Wladfa, Chubut | — Comisiynydd yr Iaith Gymraeg — Llywodraeth Cymru (Bwrdd yr Iaith Gymraeg gynt) |
Gwyddeleg | Gaeilge | Goidelig | 40,000–80,000[16][17][18][19] Yn y Weriniaeth, mae 94,000 yn defnyddio'r Wyddeleg yn ddyddiol, y tu allan i'r byd addysg.[20] | 1,887,437 Gweriniaeth Iwerddon: 1,774,437[20] y Deyrnas Unedig: 95,000 yr Unol Daleithiau: 18,000 | Iwerddon | Foras na Gaeilge |
Llydaweg | Brezhoneg | Brythonaidd | 226,000 (2018) | 206,000[21] | Llydaw | Ofis ar Brezhoneg |
Gaeleg | Gàidhlig | Goidelig | 58,552 yn 2001[22] yn ogystal ag amcangyfrif o 400–1000 o siaradwyr brodorol ar Ynys Cape Breton[23][24] | 92,400[25] | Yr Alban | Bòrd na Gàidhlig |
Cernyweg | Kernewek | Brythonaidd | 600[26] | 3,000[27] | Cernyw | Keskowethyans an Taves Kernewek |
Manaweg | Gaelg | Goidelig | 100,[28] gan gynnwys nifer bach o blant sydd yn siaradwyr brodorol newydd[29] | 1,700[30] | Ynys Manaw | Coonceil ny Gaelgey |
Ieithoedd cymysg
Celteg Ynysig
Rhennir yr ieithoedd Celtaidd gorllewinol, neu Ynysig, yn ddau deulu neu gangen o Gelteg Ynysig:
Goideleg
Mae tair iaith yn deillio o'r Goideleg, a elwir weithiau'n Gelteg Q, sef:
Brythoneg
Mae tair iaith yn deillio o'r Frythoneg, a elwir weithiau'n Gelteg P, sef:
Gweler hefyd:
- Cymbreg, tafodiaith gynnar o'r Frythoneg yn ardal Cumbria a'r Hen Ogledd. Mae ei statws ieithyddol - fel iaith neu dafodiaith - yn ddadleuol.
Celteg y Cyfandir
Roedd Celteg y Cyfandir neu Gelteg Gyfandirol yn cynnwys sawl iaith a thafodiaith Celteg a siaredid ar gyfandir Ewrop a rhan o Asia Leiaf, yn cynnwys,
- Galateg* (iaith y Galatiaid)
- Galeg* (iaith Gâl)
- Celtibereg* (iaith rhannau o Bortiwgal a Sbaen)
- Leponteg* (iaith Gallia Cisalpina yng ngogledd Yr Eidal)
Geiriau a fenthyciwyd o'r Gelteg drwy'r Lladin i'r Saesneg
Benthyciwyd:[34]
Galeg | Lladin | Saesneg |
---|---|---|
ambactos | ambactus | ambassador |
beccos | beccus | beak |
bulgā | bulga | bilge (gwaelod cwch) |
brennos | drwy'r Ffrangeg 'bren' | bran |
bragos | drwy'r Gatalaneg 'brau' | brave |
bulgā | bulga | budget |
karros | carrum, carrus | car |
crāmum | drwy'r Ffrangeg cresme | creme |
kamb | cambire | change |
ambactos | ambasciata | embassy |
glanos | glennare | to glean (casglu) |
vorēdos | verēdus / paraverēdus | palfrey (ceffyl) |
trougo | truant | truant |
wasso | vassallus | vassal (gwas) |
Rhai Geiriau Celtaidd
Rhifau
Cymraeg | un | dau | tri | pedwar | pump | chwech | saith | wyth | naw | deg |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Llydaweg | unan | daou | tri | pevar | pemp | c'hwec'h | seizh | eizh | nav | dek |
Gwyddeleg | aon | dó | trí | ceathair | cúig | sé | seacht | ocht | naoi | deich |
Gaeleg yr Alban | aon | dà | trì | ceithir | còig | sia | seachd | ochd | naoi | deich |
Lliwiau
Cymraeg | lliw | du | glas | brown | gwyrdd | llwyd | oren | coch | gwyn | melyn |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Llydaweg | liv | du | glas | gell | gwer | louet | liv-orañjez | ruz | gwenn | melen |
Gwyddeleg | dath | dubh | gorm | donn | uaine, glas | liath, glas | oráiste, flann-bhui | dearg | bán | buí |
Gaeleg yr Alban | dath | dubh | gorm | donn | uaine | glas, liath | orains | dearg | geal | buidhe |
Anifeiliaid
Cymraeg | arth | cath | buwch | ci | gafr | ceffyl | llygoden | dafad | blaidd | pysgodyn |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Llydaweg | arzh | kazh | buoc'h | ki | gavr | marc'h | logodenn | dañvad | bleiz | pesk |
Gwyddeleg | béar | cat | bó | madra, madadh, gadhar, cú | gabhar | capall, each | luch | caora | mac-tíre | iasc |
Gaeleg yr Alban | mathan | cat | bò, mart | cù, madadh | gobhar | each | luch | caora | madadh-allaidh | iasc |
Rhagenwau
Cymraeg | fi, i | ti | fe, e | hi | ni | chi | nhw |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Llydaweg | me | te | eñ | hi | ni | c'hwi | int |
Gwyddeleg | mé | tú | sé, é | sí, í | muid, sinn | sibh | iad |
Gaeleg yr Alban | mi | thu | e | i | sinn | sibh | iad |
Cyfeiriadau
v · t · e Ieithoedd Celtaidd/Celteg | ||||||||||||||||||||||||||
| ||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd |