Cyrdiaid

Mae'r Cyrdiaid (Cyrdeg: کورد, Kurd neu Gelê Kurdî) yn grŵp ethnig sy'n byw yn bennaf yn nwyrain a de-ddwyrain Twrci ond hefyd mewn rhannau o ogledd Syria, gogledd Irac a gogledd-orllewin Iran.[1][2] Mae'r Cyrdiaid yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol yn perthyn yn agos iawn i'r Iraniaid[3][4] Galwent y tiriogaethau hyn yn 'Gyrdistan', enw a arferir yn ogystal am eu tiriogaeth yn nwyrain Twrci.

Cyrdiaid
Merched yn dathlu'r flwyddyn newydd
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
MamiaithCyrdeg edit this on wikidata
CrefyddSunni, shïa, alevism, yazidism, cristnogaeth, iddewiaeth edit this on wikidata
GwladTwrci, Irac, Iran, Syria, yr Almaen, Affganistan, Aserbaijan, Libanus, Rwsia, Georgia, Armenia, Casachstan, y Deyrnas Unedig, Israel, yr Ariannin Edit this on Wikidata
Rhan oPobl o Iran Edit this on Wikidata
Yn cynnwysYazidis, Sorani, Kelhuri, Kurmanji, Zaza people, Kurds of Khorasan, Shabak people, Q120281391 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Siaradent yr iaith Gyrdeg, iaith Indo-Ewropeaidd sy'n ymrannu'n sawl tafodiaith. Mae'r Cyrdeg yn isddosbarth o 'Ieithoedd Gogledd Iran'.[5]

Y Cwrd Mohammad Bagher Ghalibaf, Maer Tehran.

Mae llawer o Gyrdiaid yn ystyried eu hunain yn ddisgynyddion y Medes (neu'r Mediaid) hynafol, ac mae nhw'n defnyddio calendr sy'n dyddio o 612 CC, pan lwyddodd y Medes i goncro y brifddinas Asyraidd Ninefeh.[6] Pobl o Iran oedd y Medes.[7]). Caiff y syniad hwn eu bod o dras Mediaidd ei gadarnhau ganddynyt yn eu hanthem genedlaethol: "ni yw plant y Mediaid a'r Kai Khosrow".[8]

Amcangyfrifir fod rhwng 30-32 miliwn o gyrdiaid drwy'r byd ac o bosib, cymaint â 37 miliwn.[9]

Siaradir tafodiaith Mukriani yn ninasoedd Piranshahr a Mahabad. Piranhahr a Mahabad yw dwy ddinas fawr Mukrian.[10]


Cyrdiaid enwog

  • Leyla Zana, gwleidydd ac ymgyrchwraig hawliau dynol
  • Saladin, cadfridog a gwladweinydd
  • Sivan Perwer, cerddor

Gweler hefyd

Cyfeiriadau