Pencampwriaeth UEFA Euro 2016

Pencampwriaeth Pêl-droed UEFA Euro 2016, a gyfeirir ato yn aml fel Euro 2016, oedd y 15fed Pencampwriaeth Ewrop ar gyfer timau pêl-droed cenedlaethol dynion a drefnwyd gan UEFA. Fe'i cynhaliwyd yn Ffrainc rhwng 10 Mehefin hyd 10 Gorffennaf 2016.[1][2]

UEFA Ewro 2016
Championnat d'Europe de football 2016 (Ffrangeg)
Logo Swyddogol UEFA Ewro 2016
Le Rendez-Vous
Manylion
CynhaliwydFfrainc
Dyddiadau10 Mehefin – 10 Gorffennaf 2016
Timau24
Lleoliad(au)10 (mewn 10 dinas)
2012
2020

Roedd 24 o dimau yn cystadlu ym Mhencampriaeth Ewrop am y tro cyntaf wedi i UEFA godi nifer y timau o 16 (oedd wedi cystadlu yn y rowndiau terfynol ers 1996) i 24.[3]. O dan y fformat newydd roedd 24 tîm yn cystadlu mewn chwe grŵp o bedwar gydag 16 o dimau yn camu ymlaen i'r rownd nesaf. Roedd Ffrainc yn y rowndiau terfynol fel y wlad oedd yn cynnal y gystadleuaeth. Cystadleuodd 53 o wledydd UEFA rhwng Medi 2014 a Tachwedd 2015 am y 23 o lefydd eraill oedd yn weddill. Yn eu mysg roedd y deiliaid, Sbaen, ac am y tro cyntaf ers ymuno ag UEFA, Gibraltar.

Dewis Lleoliad

Roedd pedwar cais i gynnal y gystadleuaeth wedi dod ger bron UEFA cyn y dyddiad cau ar 9 Mawrth 2009 sef Ffrainc, Twrci, Yr Eidal a chais ar cyd rhwng Norwy a Sweden[4] ond tynodd Norwy a Sweden eu cais yn ôl ym mis Rhagfyr 2009[5]

Dewisiwyd y lleoliad ar 28 Mai 2010 gyda Ffrainc yn ennill y nifer fwyaf o bleidleisiau (43 dewis cyntaf a 7 ail bleidlais) gyda Thwrci yn ail (38 a 6) a'r Eidal yn drydydd (23 pleidlais)[6].

Canlyniadau'r etholiad
GwladRownd[7]
1af (pwyntiau)2il (pleidleisiau)
Ffrainc437
Twrci386
Yr Eidal23
Cyfanswm10413
  • Rownd 1: Roedd pob un o'r 13 aelod ar Bwyllgor Gweithredol UEFA yn gosod y tri chais yn gyntaf, ail a thrydydd. Roedd safle cyntaf yn derbyn 5 pwynt, ail yn derbyn 2 bwynt a thrydydd yn derbyn 1 pwynt.
  • Rownd 2: Roedd yr un aelodau yn pleidleisio am un o'r ddwy wlad gyrhaeddodd yr ail rownd.

Rowndiau rhagbrofol

Roedd Ffrainc yn cyrraedd y rowndiau terfynol fel y sawl sy'n cynnal y gystadleuaeth gyda 53 o wledydd UEFA yn cystadlu rhwng Medi 2014 a Tachwedd 2015 am y 23 o lefydd eraill yn weddill. Daeth yr enwau allan o'r het ar gyfer y gemau rhagbrofol yn y Palais des Congres Acropolis, Nice ar 23 Chwefror 2014 gyda'r timau yn cael eu rhannu i wyth grŵp o chwe tîm ac un grŵp o bump tîm.

Roedd enillwyr pob grŵp, y timau yn yr ail safle a'r tîm oedd â'r record gorau o'r holl dimau yn y trydydd safle yn sicrhau eu lle yn y rowndiau terfynol. Roedd yr wyth tîm arall orffennodd yn y trydydd safle yn wynebu eu gilydd mewn gemau ail gyfle ar gyfer y pedwar lle arall yn y rowndiau terfynol.[8][9][10]

Timau llwyddiannus

Didoli

Daeth yr enwau allan o'r het ar gyfer y rowndiau terfynol yn y Palais des congrès de Paris ym Mharis ar 12 Rhagfyr 2015.[1][2][11].

Pot 1
TîmCyfernodSafle
Sbaen37,9622
yr Almaen40,2361
Lloegr35,9633
Portiwgal35,1384
Gwlad Belg34,4425
Pot 2
TeamCoeffRank
yr Eidal34,3456
Rwsia31,3459
y Swistir31,25410
Awstria30,93211
Croatia30,64212
Wcráin30,31314
Pot 3
TeamCoeffRank
Y Weriniaeth Tsiec29,40315
Sweden29,02816
Gwlad Pwyl28,30617
Romania28,03818
Slofacia27,17119
Hwngari27,14220
Pot 4
TeamCoeffRank
Twrci27,03322
Iwerddon26,90223
Gwlad yr Iâ25,38827
Cymru24,53128
Albania23,21631
Gogledd Iwerddon22,96133

Lleoliadau

Cafwyd 12 stadiwm yn rhan o gais gwreiddiol Ffrainc ar 28 Mai 2010 gyda Ffederasiwn Bêl-droed Ffrainc yn bwriadu cwtogi'r rhestr i naw stadiwm erbyn mis Mai 2011. Yn ogystal â'r Stadiwm Genedlaethol, y Stade de France, roedd pedair stadiwm newydd i'w hadeiladu yn Lille, Lyon, Nice a Bordeaux, a phenderfynwyd cynnal gemau hefyd yn y ddwy ddinas fwyaf, Paris a Marseille.

Tynodd Strasbourg yn ôl ar ôl i'r clwb ddisgyn allan o Ligue 1 [12] a dewisiwyd Lens a Nancy gyda Saint-Étienne a Toulouse yn cael eu gosod ar y rhestr wrth gefn.

Ym mis Mehefin 2011, wedi i'r gystadleuaeth gael ei hymestyn i 24 tîm, penderfynwyd codi nifer y meysydd i 11[13] gan olygu y byddai Toulouse a Saint-Étienne yn cael eu defnyddio, ond ym mis Rhagfyr 2011 tynodd Nancy yn ôl wedi i'w cynlluniau i uwchraddio'r stadiwm fethu[14] gan adael deg lleoliad ar gyfer y bencampwriaeth.

Y Stade de la Beaujoire yn Nantes a'r Stade de la Mosson ym Montpellier yw'r lleoliadau fu'n rhan o Gwpan y Byd 1998 na gafwyd eu defnyddio eto yn 2014.

Saint-Denis 2 5Marseille 1 2 3 4Lyon 1 2 4 5Lille
Stade de FranceStade VélodromeParc Olympique LyonnaisStade Pierre-Mauroy
48°55′28″N 2°21′36″E / 48.92444°N 2.36000°E / 48.92444; 2.36000 (Stade de France)43°16′11″N 5°23′45″E / 43.26972°N 5.39583°E / 43.26972; 5.39583 (Stade Vélodrome)45°45′56″N 4°58′52″E / 45.76556°N 4.98111°E / 45.76556; 4.98111 (Stade des Lumières)50°36′43″N 3°07′50″E / 50.61194°N 3.13056°E / 50.61194; 3.13056 (Stade Pierre-Mauroy)
Uchafswm Torf: 81,338Uchafswm Torf: 67,500
(uwchraddwyd)
Uchafswm Torf: 58,215
(stadiwm newydd)
Uchafswm Torf: 50,186
(stadiwm newydd)
 
Pencampwriaeth UEFA Euro 2016 (France)
 
Paris 1 2 3 4Bordeaux 1 2
Parc des PrincesNouveau Stade de Bordeaux
48°50′29″N 2°15′11″E / 48.84139°N 2.25306°E / 48.84139; 2.25306 (Parc des Princes)44°53′50″N 0°33′43″W / 44.89722°N 0.56194°W / 44.89722; -0.56194 (Bordeaux)
Uchafswm Torf: 48,712
(uwchraddwyd)
Uchafswm Torf: 42,052
(stadiwm newydd)
  
Saint-Étienne 2 4 5NiceLens 2 4Toulouse 1 2
Stade Geoffroy-GuichardAllianz RivieraStade Félix-BollaertStadium Municipal
45°27′39″N 4°23′24″E / 45.46083°N 4.39000°E / 45.46083; 4.39000 (Saint-Étienne)43°42′25″N 7°11′40″E / 43.70694°N 7.19444°E / 43.70694; 7.19444 (Nice)50°25′58.26″N 2°48′53.47″E / 50.4328500°N 2.8148528°E / 50.4328500; 2.8148528 (Lens)43°34′59″N 1°26′3″E / 43.58306°N 1.43417°E / 43.58306; 1.43417 (Toulouse)
Uchafswm Torf: 41,965
(uwchraddwyd)
Uchafswm Torf: 35,624
(stadiwm newydd)
Uchafswm Torf: 38,223
(uwchraddwyd)
Uchafswm Torf: 33,300
(uwchraddwyd)

Rownd y Grwpiau

Grŵp A

TîmChwECyfC+-GGPt
Ffrainc321041+37
y Swistir312021+15
Albania310213-23
Romania301224-21
10 Mehefin 2016
21:00
Ffrainc 2 – 1 Romania
Giroud  57'
Payet  89'
Stancu  65' (c.o.s.)
Stade de France, Saint-Denis
Torf: 75,113
Dyfarnwr: Viktor Kassai (Hwngari)
11 Mehefin 2016
15:00
Albania 0 – 1 y Swistir
Schär  5'
Stade Bollaert-Delelis, Lens
Torf: 33,805
Dyfarnwr: Carlos Velasco Carballo (Sbaen)

15 Mehefin 2016
18:00
Rwmania 1 – 1 y Swistir
Stancu  18' (c.o.s.)Mehmedi  57'
Parc des Princes, Paris
Torf: 43,576
Dyfarnwr: Sergei Karasev (Rwsia)
15 Mehefin 2016
21:00
Ffrainc 2 – 0 Albania
Griezmann  90'
Payet  90+6'
Stade Vélodrome, Marseille
Torf: 63,670
Dyfarnwr: Willie Collum (Yr Alban)

19 Mehefin 2016
21:00
y Swistir 0 – 0 Ffrainc
Stade Pierre-Mauroy, Lille
Torf: 45,616
Dyfarnwr: Damir Skomina (Slofenia)
19 Mehefin 2016
21:00
Rwmania 0 – 1 Albania
Sadiku  43'
Stade des Lumières, Lyon
Torf: 49,752
Dyfarnwr: Pavel Královec (Y Weriniaeth Tsiec)

Grŵp B

TîmChwECyfC+-GGPt
Cymru320163+36
Lloegr312032+15
Slofacia31113304
Rwsia301226-41
11 Mehefin 2016
18:00
Cymru 2 – 1 Slofacia
Bale  10'
Robson-Kanu  81'
Duda  61'
Nouveau Stade de Bordeaux, Bordeaux
Torf: 37,831
Dyfarnwr: Svein Oddvar Moen (Norwy)
11 Mehefin 2016
21:00
Lloegr 1 – 1 Rwsia
Dier  73'Berezutski  90+2'
Stade Vélodrome, Marseille
Torf: 62,343
Dyfarnwr: Nicola Rizzoli (Yr Eidal)

15 Mehefin 2016
18:00
Rwsia 1 – 2 Slofacia
Glushakov  80'Weiss  32'
Hamšík  45'
Stade Pierre-Mauroy, Lille
Torf: 38,989
Dyfarnwr: Damir Skomina (Slofenia)
16 Mehefin 2016
15:00
Lloegr 2 – 1 Cymru
Vardy  56'
Sturridge  90+2'
Bale  42'
Stade Bollaert-Delelis, Lens
Torf: 34,033
Dyfarnwr: Felix Brych (Yr Almaen)

20 Mehefin 2016
21:00
Slofacia 0 – 0 Lloegr
Stade Geoffroy-Guichard, Saint-Étienne
Torf: 39,051
Dyfarnwr: Carlos Velasco Carballo (Sbaen)
20 Mehefin 2016
21:00
Rwsia 0 – 3 Cymru
Ramsey  11'
Taylor  20'
Bale  67'
Stadium Municipal, Toulouse
Torf: 28,840
Dyfarnwr: Jonas Eriksson (Sweden)

Grŵp C

TîmChwECyfC+-GGPt
yr Almaen321030+37
Gwlad Pwyl321020+27
Gogledd Iwerddon31022203
Wcráin300305-50
12 Mehefin 2016
18:00
Gwlad Pwyl 1-0 Gogledd Iwerddon
Allianz Riviera, Nice
12 Mehefin 2016
21:00
yr Almaen 2-0 Wcráin
Stade Pierre-Mauroy, Lille

16 Mehefin 2016
18:00
Wcráin 0-2 Gogledd Iwerddon
Stade des Lumières, Lyon

21 Mehefin 2016
18:00
Wcráin 0-1 Gwlad Pwyl
Stade Vélodrome, Marseille

Grŵp D

TîmChwECyfC+-GGPt
Croatia321053+27
Sbaen320152+36
Twrci310224-23
Y Weriniaeth Tsiec301225-31
12 Mehefin 2016
15:00
Twrci 0-1 Croatia
13 Mehefin 2016
15:00
Sbaen 1-0 Y Weriniaeth Tsiec
Stadium Municipal, Toulouse

17 Mehefin 2016
18:00
Y Weriniaeth Tsiec 2-2 Croatia
Stade Geoffroy-Guichard, Saint-Étienne
17 Mehefin 2016
21:00
Sbaen 3-0 Twrci
Allianz Riviera, Nice

21 Mehefin 2016
21:00
Croatia 2-1 Sbaen
Nouveau Stade de Bordeaux, Bordeaux
21 Mehefin 2016
21:00
Y Weriniaeth Tsiec 0-2 Twrci
Stade Bollaert-Delelis, Lens

Grŵp E

TîmChwECyfC+-GGPt
yr Eidal320131+26
Gwlad Belg320142+26
Gweriniaeth Iwerddon311124−24
Sweden301213−21
13 Mehefin 2016
21:00
Gwlad Belg 0-2 yr Eidal
Stade des Lumières, Lyon

17 Mehefin 2016
15:00
yr Eidal 1-0 Sweden
Stadium Municipal, Toulouse
18 Mehefin 2016
15:00
Gwlad Belg 3-0 Gweriniaeth Iwerddon
Nouveau Stade de Bordeaux, Bordeaux

22 Mehefin 2016
21:00
Sweden 0-1 Gwlad Belg
Allianz Riviera, Nice
22 Mehefin 2016
21:00
yr Eidal 0-1 Gweriniaeth Iwerddon
Stade Pierre-Mauroy, Lille

Grŵp F

TîmChwECyfC+-GGPt
Hwngari312064+25
Gwlad yr Iâ312043+15
Portiwgal30304403
Awstria301214-31
14 Mehefin 2016
18:00
Awstria 0-2 Hwngari
Nouveau Stade de Bordeaux, Bordeaux
14 Mehefin 2016
21:00
Portiwgal 1-1 Gwlad yr Iâ
Stade Geoffroy-Guichard, Saint-Étienne

18 Mehefin 2016
18:00
Gwlad yr Iâ 1-1 Hwngari
Stade Vélodrome, Marseille

22 Mehefin 2016
18:00
Hwngari 3-3 Portiwgal
Stade des Lumières, Lyon

Rowndiau Olaf

Rownd yr 16Rownd yr Wyth OlafRownd GynderfynolRownd Derfynol
              
25 Mehefin - Saint-Étienne      
  y Swistir 1 (4)
30 Mehefin - Marseilles
  Gwlad Pwyl (c.o.s.) 1 (5) 
  Gwlad Pwyl 1 (3)
25 Mehefin - Lens
   Portiwgal (c.o.s.) 1 (5) 
  Croatia 0
6 Gorffennaf - Lyon
  Portiwgal 1 
  Portiwgal 2
25 Mehefin - Paris
   Cymru 0 
  Cymru 1
1 Gorffennaf - Lille
  Gogledd Iwerddon 0 
  Cymru 3
26 Mehefin - Toulouse
   Gwlad Belg 1 
  Hwngari 0
10 Gorffennaf - Saint-Denis
  Gwlad Belg 4 
  Portiwgal 1
26 Mehefin - Lille
   Ffrainc 0
  yr Almaen 3
2 Gorffennaf - Bordeaux
  Slofacia 0 
  yr Almaen (c.o.s.) 1 (6)
27 Mehefin - Saint-Denis
   yr Eidal 1 (5) 
  yr Eidal 2
7 Gorffennaf - Marseilles
  Sbaen 0 
  yr Almaen 0
26 Mehefin - Lyon
   Ffrainc 2 
  Ffrainc 2
3 Gorffennaf - Saint-Denis
  Gweriniaeth Iwerddon 1 
  Ffrainc 5
27 Mehefin - Nice
   Gwlad yr Iâ 2 
  Lloegr 1
  Gwlad yr Iâ 2 

Cyfeiriadau