Glawcoma

Mae Glawcoma yn grwp o glefydau y llygad sy'n achosi difrod i'r nerf optig ac yn arwain at golli golwg.[1] 

Glawcoma
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathclefyd y llygad, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Y math mwyaf cyffredin yw glwcoma ongl-agored gyda mathau llai cyffredin yn cynnwys glawcoma ongl-gaeedig a glawcoma tensiwn-normal. Mae glawcoma ongl-agored yn datblygu yn araf dros amser a heb boen. Gall golwg ochr ddechrau lleihau ac yna'r golwg canolog gan arwain at ddallineb os nad yw'n cael ei drin. Gall glawcoma ongl-gaeedig gael ei gyflwyno'n raddol neu'n sydyn. Gall cyflwyniad sydyn fod yn boenus tu hwnt, gyda'r golwg yn aneglur, cannwyll lledagored, cochni yn y llygad, a chyfog.[2] Mae colli golwg o ganlyniad i glawcoma, unwaith y mae wedi digwydd, yn barhaol.

Mae'r ffactorau risg ar gyfer glawcoma yn cynnwys cynnydd ym mhwysedd y llygad, hanes o'r cyflwr yn y teulu, Cur pen eithafol, pwysedd gwaed uchel, a gordewdra

Os yw'n cael ei drin yn gynnar mae'n bosibl arafu neu atal datblygiad y clefyd gyda meddyginiaeth, triniaeth laser, neu lawfeddygaeth. Nod y triniaethau hyn yw lleihau pwysedd y llygad. Mae nifer o wahanol ddosbarthiadau o feddyginiaeth glawcoma ar gael. Gall triniaethau laser fod yn effeithiol mewn achosion o glawcoma ongl-agored ac ongl-gaeedig. Gellir defnyddio nifer o wahanol fathau o lawfeddygaethau glawcoma ar bobl nad ydynt yn ymateb yn ddigonol i gamau eraill. Mae trin glawcoma ongl-gaeedig yn fater meddygol brys.

Mae gan tua 6 i 67 miliwn o bobl y byd glawcoma. Yn y 2010au roedd gan tua 2 filiwn o bobl yn yr Unol Daleithiau glawcoma. Mae fwyaf cyffredin ymhlith yr henoed ac mae glawcoma ongl-gaeedig yn fwy cyffredin ymhlith menywod. Gelwir glawcoma weithiau'n "lleidr distaw" am fod colli'r golwg fel arfer yn digwydd yn araf dros gyfnod hir o amser.[3] Yn fyd-eang, glawcoma yw ail achos mwyaf cyffredin dallineb (yn dilyn cataractau).[4] Daw'r gair "glawcoma" o'r hen Roeg glaukos sy'n golygu glas, gwyrdd neu lwyd.[5] Daeth y defnydd o'r gair yn fwy cyffredin ar ôl 1850, gyda datblygiad yr ophthalmosgop sy'n galluogi i ni weld difrod i'r nerf optig.[6]

Cyfeiriadau