Neidio i'r cynnwys

Aelod-wladwriaethau NATO

Oddi ar Wicipedia
Aelod-wladwriaethau NATO
Aelodau NATO (mewn glas).
Enghraifft o'r canlynolcollective Edit this on Wikidata
Mathaelod-wladwriaeth Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.nato.int/cps/en/natohq/nato_countries.htm Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llinell amser o ymaelodaethau gwledydd NATO. Dynodir gwledydd oedd yn aelodau NATO yn barod ar y pryd gan las tywyll. Dynodir aelodau newydd gan las golau.

Cynghrair milwrol sydd yn cynnwys 32 o aelod-wladwriaethau o Ogledd America ac Ewrop yw Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO). Y ddwy aelod o Ogledd America yw Canada a'r Unol Daleithiau. Mae gan bob un o'r aelodau luoedd milwrol, er nad oes gan Wlad yr Iâ fyddin arferol (ond mae ganddi gwylwyr y glannau milwrol ac uned fechan o filwyr ar gyfer ymgyrchoedd i gadw'r heddwch). Mae gan dri o aelodau NATO arfau niwclear: Ffrainc, y Deyrnas Unedig, a'r Unol Daleithiau.

Aelod-wladwriaethau yn ôl dyddiad eu hymaelodaethgolygu cod

DyddiadGwladEhangiadNodiadau
4 Ebrill 1949Baner Gwlad Belg Gwlad BelgSefydlwyr
Baner Canada Canada
Baner Denmarc DenmarcNid yw aelodaeth Denmarc o NATO yn cynnwys Føroyar na'r Ynys Las, yn wahanol i'w haelodaeth yn yr Undeb Ewropeaidd.
Baner Ffrainc FfraincGadawodd Ffrainc reolaeth filwrol gyfunol NATO ym 1966 i ddilyn system amddiffyn annibynnol ond dychwelodd at aelodaeth lawn ar 4 Ebrill 2009.
Baner Gwlad yr Iâ Gwlad yr IâYmunodd Gwlad yr Iâ, yr unig aelod sydd heb fyddin sefydlog, ar yr amod ni fydd rhaid iddi sefydlu un. Er hyn, roedd yn aelod pwysig oherwydd ei leoliad daearyddol strategol yng Nghefnfor yr Iwerydd. Mae ganddi wylwyr y glannau ac yn ddiweddar llu cadw'r heddwch gwirfoddol, a hyfforddir yn Norwy ar gyfer NATO.
Baner Yr Eidal Yr Eidal
Baner Lwcsembwrg Lwcsembwrg
Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd
Baner Norwy Norwy
Baner Portiwgal Portiwgal
Baner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
18 Chwefror 1952Baner Groeg GroegCyntafTynodd Gwlad Groeg ei luoedd yn ôl o strwythur rheolaeth filwrol NATO rhwng 1974 a 1980 o ganlyniad i densiynau rhyngddi a Thwrci yn sgîl goresgyniad Cyprus gan Dwrci ym 1974.
Baner Twrci Twrci
9 Mai 1955Baner Yr Almaen Yr AlmaenAilYmaelododd fel Gorllewin yr Almaen; adunodd â Saarland ym 1957 a thiriogaethau Berlin a'r cyn-Weriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (DDR) ar 3 Hydref 1990. Roedd y DDR yn aelod o Gytundeb Warsaw, 1956-1990.
30 Mai 1982Baner Sbaen SbaenTrydydd
12 Mawrth 1999Baner Tsiecia TsieciaPedweryddAelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, fel rhan o Tsiecoslofacia.
Baner Hwngari HwngariAelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991.
Baner Gwlad Pwyl Gwlad PwylAelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991.
29 Mawrth 2004Baner Bwlgaria BwlgariaPumedAelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991.
Baner Estonia EstoniaAelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, a rhan o'r Undeb Sofietaidd.
Baner Latfia LatfiaAelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, a rhan o'r Undeb Sofietaidd.
Baner Lithwania LithwaniaAelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, a rhan o'r Undeb Sofietaidd.
Baner Rwmania RwmaniaAelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991.
Baner Slofacia SlofaciaAelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, fel rhan o Tsiecoslofacia.
Baner Slofenia SlofeniaCyn-weriniaeth Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia, 1945-1991 (Amhleidiol)
1 Ebrill 2009Baner Albania AlbaniaChwechedAelod Cytundeb Warsaw, 1955-1968.
Baner Croatia CroatiaCyn-weriniaeth Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia, 1945-1991 (Amhleidiol)
5 Mehefin 2017Baner Montenegro MontenegroSeithfedCyn-weriniaeth Iwgoslafia
27 Mawrth 2020Baner Gogledd Macedonia Gogledd MacedoniaWythfedCyn-weriniaeth Iwgoslafia
4 Ebrill 2023Baner Y Ffindir Y FfindirNawfed
7 Mawrth 2024Baner Sweden SwedenDegfed

Gweler hefydgolygu cod

🔥 Top keywords: XXX: Return of Xander CageHafanWicipedia:Cysylltwch â niXxx: State of The UnionCarles PuigdemontArbennig:SearchFfilm llawn cyffroDisturbiaJean SimmonsXHamsterEagle EyeCadwyn BlocUnol Daleithiau AmericaVirgin TerritoryThe Salton SeaYr Ail Ryfel BydWicipedia:CymorthTlws AdranWicipedia:Gwadiad CyffredinolSpecial:SearchArbennig:RecentChangesWicipedia:Ynglŷn â WicipediaTudur OwenDelwedd:XXx REACTIVADO Conferencia de Prensa.jpgThe Inbetweeners MovieMET-ArtWicipedia:Y CaffiWicipedia:Porth y GymunedWikipediaBig BoobsBig Fat LiarBeirdd y TywysogionAdran Gyfiawnder yr Unol DaleithiauCategori:Materion cyfoesSaesnegMeilir GwyneddDefnyddiwr:Stefanik/Pwll TywodSefydliad elusennolWicipedia:Cyflwyniad