Grŵp yn y tabl cyfnodol

Mae grŵp yn deulu o elfennau tebyg mewn colofn fertigol o'r tabl cyfnodol.

Grŵp yn y tabl cyfnodol
Mathcyfres gemegol Edit this on Wikidata
Rhan otabl cyfnodol Edit this on Wikidata

Ystyrir grwpiau yn un o brif nodweddion defnyddiol y tabl cyfnodol. Mae bron pob grŵp yn cynnwys elfennau tebyg, gyda phatrymau ym mhriodweddau'r elfennau wrth fynd i lawr grŵp. Rhoddir enwau i nifer o'r grwpiau hyn, yn cynnwys y Metelau alcalïaidd (grŵp 1), yr Halogenau (grŵp 7) a'r nwyon nobl (grŵp 0). Mae rhai grwpiau, yn enwedig yn y bloc-p, yn dangos llai o debygrwydd ymysg yr elfennau felly nid oes enw ychwanegol (e.e. Grŵp 14 a Grŵp 15). Gall theorïau mecaneg cwantwm modern o adeiledd atomig egluro'r patrymau hyn. Mae pob elfen yn yr un grŵp yn cynnwys yr un nifer o electronau yn eu plisg falens (y plisg allanol) sy'n rheoli eu priodweddau cemegol.

Y grwpiau

Dyma grwpiau’r tabl cyfnodol:

Trefn rhifo newydd IUPACYr hen IUPAC (Ewropeaidd)CAS (Americanaidd)Enw
Grŵp 1IAIAY metalau alcalïaidd neu deulu'r lithiwm
Grŵp 2IIAIIAY metelau daear alcalïaidd neu deulu'r beriliwm
Grŵp 3IIIAIIIBTeulu'r sgandiwm sy'n cynnwys yr elfennau Daear prin a'r actinadau
Grŵp 4IVAIVBY teulu titaniwm
Grŵp 5VAVBY teulu Fanadiwm
Grŵp 6VIAVIBY teulu cromiwm
Grŵp 7VIIAVIIBY teulu manganis
Grŵp 8VIIIVIIIBY teulu haearn
Grŵp 9VIIIVIIIBY teulu cobalt
Grŵp 10VIIIVIIIBY teulu nicel
Grŵp 11IBIBY teulu efydd
Grŵp 12IIBIIBY teulu sinc
Grŵp 13IIIBIIIA"the triels", y teulu boron
Grŵp 14IVBIVA"the tetrels", y teulu carbon
Grŵp 15VBVAY teulu nitrogen
Grŵp 16VIBVIAY teulu Chalcogenau neu'r teulu ocsigen
Grŵp 17VIIBVIIAYr halogenau
Grŵp 18Group 0VIIIAY teulu nwyon nobl neu weithiau'r teulu heliwm neu neon

Gweler hefyd