Rhyfel Gaza (2023‒24)
Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |
Rhan o'r gwrthdaro rhwng Israel a'r Palesteiniaid yn Llain Gaza yw Rhyfel Gaza (2023) a sbardunwyd gan ymosodiad o dir Israel a lansiwyd o'r Llain ar 7 Hydref 2023. Y prif garfan Palesteinaidd yw Hamas, a lywodraetha Llain Gaza ers 2007, ac ymhlith y grwpiau Palesteinaidd llai mae Mudiad y Jihad Islamaidd, y Ffrynt Democrataidd (DFLP), a Gwâl y Llewod. Bu'r goresgyniad, a elwir yn Cyrch Llif al-Aqsa gan Hamas, yn cynnwys ymosodiadau yn erbyn cymunedau a sifiliaid yn ogystal â chyrchoedd ar dargedau milwrol.[1] Ymatebodd Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) gyda'r gwrthymosodiad Ymgyrch Cleddyfau Haearn.[2]
Dinas yn Llain Gaza yn Ionawr 2024, wedi'i fomio gan fyddin Israel. | |
Enghraifft o'r canlynol | rhyfel |
---|---|
Dyddiad | 2023 |
Lladdwyd | 11,500, 16,075, 17,180, 21,600, 24,800, 31,475, 34,904 |
Rhan o | Gwrthdaro Israel-Gaza |
Dechreuwyd | 7 Hydref 2023 |
Daeth i ben | Unknown |
Lleoliad | Lefant |
Yn cynnwys | goresgyniad Llain Gaza gan Israel, ymosodiadau gan fyddin Israel ar ysbytai yn ystod Rhyfel Israel-Palesteina yn 2023 a 2024, ymosodiadau o'r awyr gan Israel ar wersylloedd sifiliaid Palesteinaidd yn Rhyfel Israel-Palesteina 2023 a 2024, ymosodiadau o'r awyr gan Israel ar ysgolion Palesteinaidd yn Rhyfel Israel-Palesteina 2023 a 2024 |
Enw brodorol | عملية طوفان الاقصى |
Rhanbarth | Israel, Llain Gaza |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ar 8 Tachwedd 2023 galwodd Senedd Cymru am gadoediad; mae hyn yn debyg i ddatganiad Senedd yr Alban, ond yn gwbwl groes i farn San Steffan a Phlaid Lafur y DU.[3]
Mae'r rhyfel yn cynrychioli trobwynt yn y gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd, a'r gwrthdaro rhwng Israel ac Hamas yn benodol. Rhagflaenwyd yr ymladd gan flwyddyn o drais, gan gynnwys ymledu'r gwladfeydd Israelaidd yn y Lan Orllewinol a thrais gan setlwyr yn erbyn Palesteiniaid,[4] cyrch milwrol ar wersyll ffoaduriaid Jenin, terfysg ym Mosg Al-Aqsa yn Jeriwsalem, a brwydro yn Gaza. Yn 2023, hyd at gychwyn y rhyfel, lladdwyd o leiaf 247 o Balesteiniaid gan luoedd Israel, a 32 o Israeliaid a dau dramorwr gan Balesteiniaid. Datganodd Hamas yn Hydref 2023 bod y digwyddiadau hyn yn gyfiawnhad am y goresgyniad, a galwyd ar yr holl Balesteiniaid i ymuno â'r frwydr i "yrru'r meddianwyr allan a dymchwel y muriau". Mewn ymateb, cyhoeddodd Benjamin Netanyahu, Prif Weinidog Israel, argyfwng a rhyfel, ac mae rhai o'r gwrthbleidiau wedi galw am ffurfio llywodraeth undod cenedlaethol.[5]
Dechreuodd yr ymladd yn y bore ar 7 Hydref 2023 pan saethwyd o leiaf 3000 o rocedi gan Hamas tuag at Israel, a chyrchoedd ar diriogaeth Israel gyda cherbydau.[6] Torrodd lluoedd Palesteinaidd hefyd drwy'r gwahanfur rhwng Israel a Llain Gaza a thrwy croesfannau ar y ffin, ac ymosodasant ar gymunedau ac adeiladau milwrol Israelaidd cyfagos, gan ladd 1,200 o Israeliaid a dinasyddion o wledydd eraill.[7] Cyflawnwyd trais yn erbyn sifiliaid gan ryfelwyr Hamas o'r cychwyn, gan gynnwys cyflafan mewn gŵyl cerddoriaeth a laddodd o leiaf 260 o bobl. Mae rhyw 200 o filwyr a sifiliaid Israelaidd, gan gynnwys plant, wedi eu herwgipio gan ymladdwyr Palesteinaidd ac wedi eu cymryd yn wystlon yn Llain Gaza.[8]
Aeth Israel ati i alw'r lluoedd wrth gefn a chlirio'r ymladdwyr Palesteinaidd o'i thiriogaeth, a thalu'r pwyth yn ôl gyda chyrchoedd awyr ar dargedau milwrol a strategol yn Llain Gaza. Mae dwysedd poblogaeth y llain yn hynod o uchel, a cafwyd o leiaf 20 o achosion o ffrwydron yn taro isadeiledd sifil, gan gynnwys cartrefi, mosgiau, ac ysbytai. Yn ôl y Weinyddiaeth Iechyd yn Gaza, bu farw o leiaf 900 o Balesteiniaid yn ystod tridiau cyntaf y rhyfel, mewn ysgarmesau saethu ac o ganlyniad i gyrchoedd awyr, gan gynnwys 260 o blant. Hawliodd yr IDF ladd "mwy na 1,500" o ymladdwyr Palesteinaidd y tu mewn i ffiniau Israel. Cyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig bod mwy na 200,000 o Balesteiniaid—un o bob deg o boblogaeth Llain Gaza—wedi eu dadleoli ers dechrau'r brwydro. Cynyddodd y braw o argyfwng dyngarol wed i Israel dorri cyflenwadau bwyd, dŵr, trydan, a thanwydd i'r llain, a fu dan warchae ers 2007.[9]
Condemniwyd Hamas gan nifer o wledydd y Gorllewin,[10] a chafodd yr ymosodiadau eu hystyried yn derfysgaeth.[11] Mae nifer o wledydd eraill, yn enwedig yn y byd Mwslimaidd, wedi disgrifio meddiannaeth y Tiriogaethau Palesteinaidd a'r gwarchae ar Lain Gaza fel achos sylfaenol y gwrthdaro ac yn rhoi'r bai ar lywodraeth Israel am waethygu'r sefyllfa, ac yn galw am ddatchwyddo'r ymladd a chyhoeddi cadoediad.[12][13] Cyhuddwyd Hamas ac Israel ill dau o droseddau rhyfel gan Human Rights Watch.[14] Datganodd llywodraeth Unol Daleithiau America y byddai'n cefnogi Israel trwy symud ei chludydd awyrennau USS Gerald R. Ford a'i grŵp brwydro, a jetiau milwrol, i ddwyrain y Môr Canoldir a darparu cyfarpar a ffrwydron rhyfel ychwanegol i'r IDF.[15] Erbyn 8 Hydref ymledodd y gwrthdaro i Libanus, gyda Hezbollah a Brigadau Al-Quds yn brwydro'n erbyn lluoedd Libanus ac Israel.[16][17]
Ymosodiadau Hamas ar Israel
- Prif: Cyrch Llif al-Aqsa
Cyhoeddwyd cychwyn Cyrch Llif al-Aqsa gan Muhammad Deif, arweinydd milwrol Hamas, wrth i'r ymosodiadau ddechrau ar fore 7 Hydref 2023. Lladdwyd cannoedd o sifiliaid mewn ymosodiadau ar drefi a chibwtsau yn y gororau. Rhoes Israel ei lluoedd ar eu gwyliadwriaeth ymhen dwy awr, a chychwynnodd cyrchoedd awyr ar Lain Gaza gan Awyrlu Israel. Trannoeth y drin, ar 8 Hydref, cyhoeddodd Israel yn ffurfiol gyflwr rhyfel, y tro cyntaf i Erthygl 40A o'r Gyfraith Sylfaenol gael ei galw i rym ers Rhyfel Yom Kippur ym 1973.
Ymgyrch Israel yng ngogledd Llain Gaza
Ehangu'r gwarchae
Ar 9 Hydref cyhoeddodd Yoav Gallant, Gweinidog Amddiffyn Israel, gwarchae "llwyr" ar Lain Gaza, gan gynnwys torri cyflenwadau trydan ac atal bwyd a thanwydd rhag mynd i mewn i'r diriogaeth. Meddai, "rydym yn ymladd ag anifeiliaid dynol ac yr ydym yn gweithredu yn gyfatebol". Ail-gyhoeddwyd difrifoldeb y gwarchae ar 12 Hydref, pan cyhoeddodd y llywodraeth na fydd Llain Gaza yn derbyn dŵr, tanwydd, na thrydan nes i'r gwystlon Israelaidd yn y diriogaeth gael eu rhyddhau.
Cyrchoedd awyr
Cynyddodd cyrchoedd awyr gan yr IDF ar 11 Hydref, a chafodd nifer o adeiladau Prifysgol Islamaidd Gaza eu dinistrio gan awyrennau Israel. Yn ogystal, cafodd croesfan Rafah ar y ffin rhwng Llain Gaza a'r Aifft ei thargedu gan yr IDF.
Ar 11 Hydref, cyhoeddodd Gweinyddiaeth Iechyd Palesteina 1,055 o farwolaethau a 5,184 o anafiadau o ganlyniad i gyrchoedd awyr Israel, a 2,600 o bobl wedi'u dadleoli'n fewnol. Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, cynyddodd y ffigur ganplyg i 260,000 o drigolion Gaza wedi eu dadleoli.
Gwacâd a dadleoli
Ar 13 Hydref 2023, gorchmynnodd yr IDF wacâd y rhan o Lain Gaza i ogledd Wadi Gaza, gan gynnwys Dinas Gaza, gan gyfarwyddo holl sifiliaid yr ardal—rhyw 1.1 miliwn o bobl—i symud i ddeheubarth y llain ymhen 24 awr. Gollyngodd yr IDF daflenni o'r awyr ar Ddinas Gaza yn cyfarwyddo sifiliaid i "ymadael i'r de er diogelwch eich hunain a diogelwch eich teuluoedd" ac i "ymddieithrio'ch hunain oddi wrth derfysgwyr Hamas sy'n defnyddio chi fel tarianau dynol". Ffoes yr ymadawyr mewn ceir, bysiau bychain a chertiau mulod, ac ar gerdded, er gwaetha'r prinder tanwydd o ganlyniad i'r gwarchae, a ffyrdd a ddinistriwyd gan fomiau'r IDF.[18][19] Erbyn 14 Hydref symudodd cannoedd o filoedd ohonynt tua'r de.
Er i Israel annog i bobl ymadael er diogelwch eu hunain, cafodd cerbydau a oedd yn cludo sifiliaid ar hyd ffordd Salah-a-Din, un o'r ddau lwybr tua'r de, eu bomio gan yr IDF yn hwyr y prynhawn ar 13 Hydref. Yn ôl gweinyddiaeth iechyd Palesteina, lladdwyd 70 o bobl yn y cyrch awyr.[20]
Cafodd croesfan Rafah ei chau gan yr Aifft, a'i hagor ar achlysuron i alluogi dinasyddion tramor i ddianc Llain Gaza. Ni chaniateir i drigolion Palesteinaidd groesi'r ffin. Fodd bynnag, mae nifer ohonynt wedi ymgasglu yn y fan honno yn y gobaith byddai'r Aifft yn derbyn ffoaduriaid.[21]
Goresgyniad Llain Gaza
Er i Israel dynnu ei lluoedd a'i setlwyr yn ôl o'r diriogaeth yn 2005, mae wedi dychwelyd mewn sawl ymgyrch a gwrthdaro ers hynny, gan gynnwys Ymgyrch Plwm Bwrw (2008–09), Ymgyrch Colofn o Niwl (2012), ac Ymgyrch y Clogwyni Cedyrn (2014). Goresgynnwyd Llain Gaza gan yr IDF unwaith eto yn sgil Ymgyrch Llif Al-Aqsa, a dygwyd gyrchoedd ar adeiladau i dargedu celloedd o frwydrwyr Hamas. Yn sgil cyhoeddi'r gorchymyn gwacâd yn y gogledd, bu disgwyl i Israel gynyddu ei phresenoldeb milwrol yn Llain Gaza, ac yn ystod oriau mân y bore ar 28 Hydref, wedi noson o fomio trwm, lansiwyd goresgyniad ar raddfa eangach gan filwyr yr IDF i mewn i'r diriogaeth. Ailgyhoeddwyd y gorchymyn i drigolion ymadael y gogledd, a datganodd Netanyahu bod "ail gam y rhyfel wedi dechrau".[22]
Camwybodaeth a thwyllwybodaeth
Câi twyllwybodaeth am y rhyfel eu lledaenu ar bwrpas gan y ddwy ochr, yn enwedig ar-lein, ac âi ffug-newyddion a lluniau a fideos o darddiad annibynnol neu ansicr yn firaol. Un o'r honiadau amlycaf ar y cyfryngau cymdeithasol oedd y cyhuddiad o derfysgwyr Hamas yn torri pennau rhyw 40 o fabanod yng nghyflafan Kfar Aza. Cyhoeddwyd y stori gan gyfrifon y sianel newyddion i24NEWS a llywodraeth Israel ar wefan X, a chafodd ei hailadrodd gan y mwyafrif o bapurau newydd cenedlaethol y Deyrnas Unedig, Sky News yn Awstralia, a Fox News yn yr Unol Daleithiau. Tarddiad y cyhuddiad oedd milwr o'r IDF, a feddai mewn cyfweliad ag i24NEWS i 40 o blant gael eu lladd gan Hamas yn Kfar Aza, a phennau rhai ohonynt wedi eu torri.[23] Honnai Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau, ar gam ei fod wedi gweld tystiolaeth ffotograffig o'r hwnnw.[24] Mae'n sicr i o leiaf 52 o bobl gael eu lladd yn y gyflafan, gan gynnwys plant, ond mae ffynonellau newyddion eraill wedi bwrw amheuaeth ar yr honiad priodol o "dorri pennau 40 o fabanod".[25]