Justin Bieber

Canwr pob ac R&B[1] o Ganada yw Justin Drew Bieber[2] (ganwyd 1 Mawrth 1994).[3] Darganfuwyd Bieber yn 2008 gan Scooter Braun, a ddaeth o hyd iddo wrth wylio fideos Bieber ar YouTube. Daeth Braun yn rheolwr Bieber, ac fe yw ei reolwr cyfredol. Trefnodd Braun gyfarfod rhwng Bieber ac Usher yn Atlanta, Georgia, a chytunodd Bieber i arwyddo gyda Raymond Braun Media Group (RBMG), cyd-fenter rhwng Braun ac Usher,[4] ac wedyn i gytundeb recordio gydag Island Records a gynigwyd gan L.A. Reid.[5]

Justin Bieber
FfugenwBiebs, Bizzle, Bieb, JB, RickTheSizzler Edit this on Wikidata
GanwydJustin Drew Bieber Edit this on Wikidata
1 Mawrth 1994 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Man preswylWaterloo Edit this on Wikidata
Label recordioIsland Records, RBMG Records, School Boy Records, Def Jam Recordings Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCanada Edit this on Wikidata
Alma mater
  • St. Michael Catholic Secondary School
  • Stratford District Secondary School
  • Jeanne Sauvé Catholic School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr-gyfansoddwr, cyfansoddwr caneuon, gitarydd, awdur geiriau, canwr, cynhyrchydd recordiau, actor ffilm, model, dawnsiwr, cynhyrchydd YouTube, pianydd, actor teledu, actor llais, actor, cyfansoddwr, perfformiwr, offerynnau amrywiol, cynhyrchydd gweithredol, cerddor, cynhyrchydd teledu, sglefr-fyrddwr Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, cyfoes R&B, hip hop Edit this on Wikidata
Math o laistenor Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadMichael Jackson, The Beatles, Boyz II Men, Mariah Carey, Justin Timberlake, Stevie Wonder, Tupac Shakur, Usher Edit this on Wikidata
Taldra1.75 metr Edit this on Wikidata
TadJeremy Bieber Edit this on Wikidata
MamPattie Mallette Edit this on Wikidata
PriodHailey Baldwin Edit this on Wikidata
PartnerSelena Gomez Edit this on Wikidata
Gwobr/auGrammy Award for Best Dance/Electronic Recording, Latin Grammy Award for Best Urban Fusion/Performance, Juno Fan Choice, Juno Fan Choice, Medal Jiwbilî Deimwnt y Frenhines Elisabeth II, MTV Video Music Awards/Artist of the Year, Gwobr MTV Music Video amy Fideo Pop Gorau, American Music Award for Artist of the Year, American Music Award for New Artist of the Year, Diamond Play Button, Billboard 21 Under 21, Billboard 21 Under 21 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.justinbiebermusic.com/ Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCanada Edit this on Wikidata
llofnod

Rhyddhawyd ei sengl gyntaf, "One Time", yn fyd-eang yn ystod 2009, a chyrhaeddodd 30 uchaf y siartiau mewn mwy na deg gwlad. Dilynwyd ei sengl gyntaf gyda My World ar 17 Tachwedd, 2009, ac aeth yn blatinwm yn yr Unol Daleithiau yn seiliedig ar ei werthiant. Bryd hynny, rhoddodd hyn y début uchaf gan gerddor newydd y flwyddyn i Bieber, a wnaeth Bieber y cerddor cyntaf i gael saith cân o siart albwm début ar siart Billboard Hot 100.[6] Rhyddhawyd ei CD cyntaf, My World 2.0 ar 23 Mawrth, 2010, a aeth i rif un, gan gynnwys y deg uchaf mewn sawl gwlad. Blaenorwyd My World 2.0 gan ei gân, "Baby", a gafodd lwyddiant rhyngwladol.

Bywyd cynnar

Fe anwyd Bieber ar 1 Mawrth 1994, yn Stratford, Ontario. Roedd mam Bieber, Pattie Mallette, yn 18 blwydd oed pan ddaeth yn feichiog gyda fe. Magodd Mallette, a weithiodd swyddi swydd is-dâl, Bieber fel mam sengl. Sut bynnag, mae cysylltiadau gan Bieber gyda'i dad o hyd, Jeremy Bieber.[7][8] Wrth iddo dyfu, dysgodd Bieber ei hun i chwarae'r piano, y drymiau, y gitâr, a'r trymped.[9] Yn 2007 cynnar, pan roedd yn ddeuddeg, canodd Bieber gân Ne-Yo, "So Sick", am gystadleuaeth ganu leol yn Stratford a daeth yn ail.[5] Uwchlwythodd Mallette fideo o'r perfformiad i YouTube ar gyfer eu teulu a'u ffrindiau i'w weld. Parhaodd i uwchlwytho fideos o Bieber yn canu caneuon R&B gwahanol, a thyfodd boblogaeth Bieber ar y gwefan.[10]

Gyrfa

2008: Darganfyddiad

Wrth chwilio am fideos gan ganwr gwahanol, cliciodd Scooter Braun, cyn-weithredwr marchnata ar gyfer So So Def, ar fideo o Bieber ar ddamwain.[7] Gwnaeth y fideo argraff arno, traciodd Braun y theatr lle oedd Bieber yn perfformio ynddo i lawr, sef ysgol Bieber, a chysylltodd â Mallette. Roedd Mallette yn anfodlon; roedd yn cofio gweddïo, "Duw, fe roddais ef iti. Gallet ddanfon dyn Cristnogol imi, label Cristnogol!"[7] Sut bynnag, wedi gweddïo gyda'i hynafgwyr yn yr eglwys a chael eu cefnogaeth, cytunodd i Braun hedfan Bieber, a oedd yn 13 ar y pryd,[10] i Atlanta, Georgia, er mwyn recordio tapiau demo.[7] Ar ôl wythnos, canodd Bieber am Usher.[11] Arwyddodd Bieber yn fuan i Raymond Braun Media Group (RBMG), cyd-fenter rhwng Braun ac Usher.[4] Roedd eisiau Bieber ar Justin Timberlake hefyd, ond methodd â'i arwyddo.[4][12] Wedyn, trefnodd Usher gynulleidfa gydag Antonio L.A. Reid o Island Def Jam Music Group, ac arwyddodd Bieber i Island Records yn Hydref 2008 (gan ddilyn i gyd-fenter 50/50 rhwng RBMG ac Island Records).[4][5][10] Ar bryd hynny, symudodd Bieber a'i fam i Atlanta, cartref hefyd Usher a Braun, er mwyn sefydlu'i yrfa yno.[4] Wedyn, daeth Braun yn rheolwr i Bieber.[10]

Disgyddiaeth

Prif: Disgyddiaeth Justin Bieber

Albymau

  • 2009: My World
  • 2010: My World 2.0
  • 2011: Under the Mistletoe
  • 2012: Believe
  • 2013: Journals (EP)
  • 2015: Purpose
  • 2020: Changes
  • 2021: Justice

Teithiau

  • 2009: Taith Urban Behavior
  • 2010: Taith Fy Myd
  • 2012: Taith y Byd Credi
  • 2015: Taith y Byd Pwrpas

Act agoriadol

  • 2009: Taith Fearless (Y Deyrnas Unedig)

Ffilmyddiaeth

BlwyddynTeitlRôlNodiadau
2009True Jackson, VPEi hunSeren gwahodd
My Date With...
2010Silent Library
School GyrlsCameo
Saturday Night LiveSeren gwahodd/perfformiwrRhaglen 35.18

Gwobrau ac enwebiadau

2010, Albwm y Flwyddyn, My World – Enwebwyd
2010, Albwm Poblogaidd y Flwyddyn, My World – Enwebwyd
2010, Cerddor Newydd y Flwyddyn – Enwebwyd
2010, Cerddor Gorau Newydd - Enwebwyd
  • Gwobrau MuchMusic Video[15]
2010, Fideo Rhyngwladol y Flwyddyn, gan Ganadiad, "One Time" - Enwebwyd
2010, Fideo Rhyngwladol y Flwyddyn, gan Ganadiad, "Baby" - Enwebwyd
2010, Dy Hoff Fideo, "Baby" - Enwebwyd
2010, Dy Hoff Gerddor Newydd, "Baby" - Enwebwyd
  • Gwobrau Myx Music (Y Philipinau)
Hoff Fideo Rhyngwladol – "One Time" - Enwebwyd
  • Gwobrau TRL (Yr Eidal)[16]
2010, Act Gorau Rhyngwladol – Enillwyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol