SARS-CoV-2
Coronafirws RNA un-edefyn (single stranded) yw SARS-CoV-2, sy'n fathiad o'r Saesneg Severe acute respiratory syndrome coronavirus 2. Yr enw gwreiddiol (a dros dro) arno oedd ' 2019 novel coronafirws (2019-nCoV)'.[1] Oherwydd bod y firws yma'n heintus i bobl, mae'n achosi'r hyn a elwir yn "afiechyd COVID-19" a ymledodd, yn fydeang, yn epidemig Coronafirws 19-20.[2] WHO a fathodd y term SARS-CoV-2 a nhw hefyd, ar 30 Ionawr 2020, a gyhoeddodd fod yr epidemig yn 'Argyfwng Iechyd Cyhoeddus Rhyngwladol o Bryder Mawr'.[3]
Enghraifft o'r canlynol | group or class of strains, math, Firws, rhywogaeth |
---|---|
Math | Coronafeirws |
Dyddiad darganfod | Rhagfyr 2019 |
Safle tacson | rhywogaeth |
Rhiant dacson | Sarbecovirus |
Yn cynnwys | SARS-Cov-2 genome, spike glycoprotein [SARS-CoV-2], envelope protein [SARS-CoV-2], membrane protein [SARS-CoV-2], nucleocapsid protein [SARS-CoV-2], viral envelope |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Mae'r erthygl hon yn ymwneud â'r straen o firws sy'n achosi clefyd a elwir yn "COVID-19".
- Am yr erthygl ar y pandemig a achoswyd gan y firws, gweler yma.
- Am yr erthygl ar yr haint, geweler COVID-19.
Oherwydd bod Sefydliad Iechyd y Byd yn annog pobl i beidio â defnyddio enwau sy'n seiliedig ar lefydd, ac er mwyn osgoi dryswch â'r clefyd SARS, mae "SARS-CoV-2" yn aml yn cyfeirio at y firws sy'n gyfrifol am COVID-19 neu "y Firws COVID-19" o fewn iechyd cyhoeddus.[4] Mae'r cyhoedd yn aml yn galw'r firws a'r afiechyd yn "coronafirws", ond mae gwyddonwyr a'r mwyafrif o newyddiadurwyr fel arfer yn defnyddio termau mwy manwl gywir.[5] Mae'r cyhoedd yn gyffredinol, fodd bynnag, yn galw'r firws yma a'r haint yn "coronafirws".[6]
Ym Mawrth 2020, nid oedd brechlyn ar gael i ymladd yn erbyn y firws, nid oedd unrhyw fath o imiwnedd ar gael i atal heintio pellach. Gan mai firws ydyw ac nid bacteria, nid yw meddyginiaethau gwrthfeiotig yn ei goncro. Mae'r dulliau mwyaf effeithiol i'w atal rhag ymledu yn cynnwys ynysu (a hunan-ynysu) a golchi dwylo.[7]
Mae gan SARS-CoV-2 debygrwydd genetig agos i coronafirysau ystlumod, ac mae'n debygol i'r firws hwn darddu ohonynt. Mae'n debygol hefyd i'r mamal Pangolin fod yn rhan o drosglwyddo'r firws i fodau dynol, hy yn ddolen rhwng yr ystlum a'r person.[8][9]
O ran tacsonomeg, dynodwyd SARS-CoV-2 yn fath o rywogaeth (neu'n 'isrywogaeth') o'r coronofirws SARSr-CoV.[10]
Heintio
Yn ystod Pandemig coronafirws 2019–20 profwyd fod y firws SARS-CoV-2 yn ymledu, ac yn trosglwyddo o berson i berson drwy ddiferion bychan o ddŵr, drwy beswch neu dishan, a hynny dros bellter o tua dwy fetr.[11][12] Gall hefyd drosgwyddo mewn modd anuniongyrchol, drwy gyffwrdd a metal, plastig a deunyddiau caled eraill, lle gall y firws fyw am gyfnod o dri diwrnod. Ar ddefnydd meddal neu gardfwrdd, gall fyw am ddiwrnod. Ar gopr nid yw'n para mwy na 4 awr. Dywedir fod unrhyw sebon sy'n creu ewyn yn effeithiol.[13][14]