Coronafeirws (grŵp o firysau)

Grŵp o firysau a all achosi heintiau mewn mamaliaid ac adar yw'r coronafirysau, a ddarganfuwyd yn y 1960au.[1] Mewn bodau dynol, mae'n achosi problemau anadlu, a cheir amrywiadau negis SARS a MERS sy'n beryg bywyd, a mathau eraill sy'n eithaf diniwed ac sy'n debycach i'r ffliw. Mewn gwartheg a moch gall y firws achosi dolur rhydd, tra mewn ieir gall achosi clefyd anadlol. Yn 2020 nid oedd brechlynnau na chyffuriau gwrthfeirol a oedd yn cael eu cymeradwyo i atal y firws rhag ymledu, na thriniaeth ar gyfer y claf.

Coronafeirws
Enghraifft o'r canlynoltacson, organebau yn ôl enw cyffredin Edit this on Wikidata
MathFirws Edit this on Wikidata
Safle tacsonIsdeulu Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonCoronaviridae Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Erthygl am y grwp o firysau yw hon.
Am y firws penodol a achosodd yr epidemig, gweler SARS-CoV-2.
Am yr haint a achoswyd gan SARS-CoV-2, gweler COVID-19
Am y pandemig cyfoes, gweler yr erthygl Pandemig coronafeirws 2019–20.

Mae'r coronafeirws yn feirws o fewn yr isdeulu Orthocoronavirinae yn y teulu Coronaviridae, o fewn urdd y Nidovirales.[2][3] Mae'r coronafirysau'n 'amlennol', ac mae ganddyn nhw positive-sense single-stranded RNA genome a chymesuredd heligal. Hyd y gwyddys, dyma'r firws-RNA mwya: 26 i 32 kbp (kilo base pair).

Mae'r enw 'coronafeirws' yn fenthyciad o'r Saesneg, "coronavirus" sy'n deillio o'r gair Lladin 'corona' sef 'coron' yn Gymraeg, ac sy'n cyfeirio at ymddangosiad nodweddiadol y gronynnau firws (virions): mae ganddyn nhw ymyl sy'n atgoffa rhywun o goron frenhinol neu'r corona solar.

Mewn bodau dynol

Credir bod coronafirysau yn achosi canran sylweddol o'r holl annwyd cyffredin mewn oedolion a phlant. Mae coronafirysau yn achosi symptomau trwm e.e. twymyn, adenoidau chwyddedig yn y gwddf, a hynny yn bennaf yn nhymor y gaeaf a dechrau'r gwanwyn.[4] Gall coronafirysau achosi niwmonia, naill ai niwmonia firaol uniongyrchol neu niwmonia bacteriol eilaidd a gallant hefyd achosi broncitis, firaol neu facteriol.[5]

Mae gan y coronafeirws dynol a ddarganfuwyd yn 2003, sef y SARS-CoV sy'n achosi syndrom anadlol acíwt difrifol (SARS), bathogenesis unigryw oherwydd ei fod yn achosi heintiau'r llwybr anadlol uchaf ac isaf.[5]

Yn 2020, roedd 7 math (neu 'strain') o goronofirysau'n bodoli, gyda 4 ohonynt yn hollol ddiniwed ac yn rhoi symptomau annwyd. Dyma'r 7:

  1. HCoV-229E (Human coronavirus OC43 )
  2. HCoV-OC43
  3. SARS-CoV
  4. HCoV-NL63
  5. Human coronavirus HKU1
  6. MERS-CoV, a adnabuwyd hefyd gyda'r enwau novel coronavirus 2012 a HCoV-EMC.
  7. SARS-CoV-2,[6][7] a adnabyddir hefyd gyda'r enw "Niwmonia Wuhan" neu "Coronafeirws Wuhan".[8] (mae 'Novel' yma'n enw dros dro, ac yn cyfeirio at y ffaith mai firws newydd ei ddarganfod yw hwn.)[7]

Cyfeiriadau