Ymarfer corff
Cyfeiria ymarfer corfforol at unrhyw weithgarwch corfforol sy'n datblygu neu'n cynnal ffitrwydd ac iechyd yn gyffredinol. Caiff ei wneud am nifer o resymau gan gynnwys cryfhau'r cyhyrau a'r system cardiofasgiwlar, gwella sgiliau athletaidd, colli pwysau yn ogystal ag am bleser. Mae ymarfer cyson a rheolaidd yn hybu's system imiwnedd ac yn helpu i leihau clefydau megis clefyd y galon, clefyd cardiofasgiwlar, clefyd y siwgr a gordewdra.[1][2] Mae hefyd yn gwella iechyd meddyliol, yn atal iselder, ac yn helpu hybu a chynnal hunanddelwedd gadarnhaol.[3] Mae gordewdra ymysg plant yn broblem gynyddol yn fyd-eang[4] a gallai ymarfer corfforol helpu leihau effaith gordewdra ymysg pobl ifanc mewn gwledydd datblygedig.
Mae diffyg ymarfer corff yn gwanhau'r cyhyrau, gan gynnwys y galon a'r ysgyfaint.